Straeon llwyddiant
Rhagfyr 2023: Diwedd cloddio glo brig yng Nghymru
Ar ôl ymgyrch galed, mae Ffos y Fran, pwll glo brig olaf Cymru, yn cau o’r diwedd, gan roi diwedd ar gloddio glo brig yng Nghymru. I drigolion ac ymgyrchwyr, y flaenoriaeth nawr yw sicrhau bod y perchennog yn adfer y safle er budd y gymuned.
Rhagfyr 2023: Mwy o gynnydd ar bensiynau
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn trefnu digwyddiad ddechrau mis Rhagfyr i arweinwyr cynghorau ac arweinwyr hinsawdd cabinetau cynghorau o bob rhan o Gymru ddod ynghyd i drafod cynllun newydd i ddatgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030. Mae’r cyfarfod hwn, y cyntaf o’i fath, yn gam mawr ymlaen a fydd, gobeithio, yn arwain at fwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, arweinwyr cynghorau a chwmnïau pensiwn.
Tachwedd 2023: Cymru yn cael deddfwriaeth aer glân newydd
Bil yr Amgylchedd yn cael ei basio yn y Senedd. Mae llygredd aer yn ddrwg i'n hiechyd a'r blaned. Bydd y gyfraith newydd hon yn ceisio sicrhau bod yr aer rydym yn ei anadlu yng Nghymru yn lân ac yn iach. Yn benodol, bydd targedau ansawdd aer yn cael eu cyflwyno ar gyfer PM 2.5 (gronynnau bach) a all gynyddu'r risg o broblemau iechyd fel clefyd y galon ac asthma.
Medi 2023: Gwrthod cynnig pwll glo Glan Lash
Cynnig glo brig olaf Cymru yn cael ei wrthod gan gynghorwyr Sir Gaerfyrddin, a roddodd natur a hinsawdd yn gyntaf drwy ddweud na wrth gloddio glo brig yng Nghymru. Y dyrfa o bobl leol ac ymgyrchwyr, a ymgasglodd ar risiau Neuadd Sir Gaerfyrddin cyn y cyfarfod cynllunio heddiw i wrthwynebu’r pwll glo, yn dathlu’r penderfyniad hanesyddol.
Gorffennaf 2023: Galw am weithredu ar ficroblastigau
Amcangyfrifir bod microffibrau plastig, sy'n cael eu gollwng wrth olchi ein dillad, yn atebol am tua 35% o'r holl lygredd plastig yn ein moroedd a'n cefnforoedd. Dros 50 o sefydliadau yn arwyddo llythyr agored, a dros 3500 yn arwyddo deiseb gan y Senedd, yn galw am Gynllun Gweithredu Microblastigau i Gymru.
Rhagor o wybodaeth
Ebrill 2023: Dim mwy o Ffos y Fran medd cynghorwyr Merthyr
Rhyddhad aruthrol i ymgyrchwyr hirsefydlog ar ôl i gynghorwyr bleidleisio'n unfrydol yn erbyn y cais i barhau i gloddio yng ngwaith glo brig mwyaf y Deyrnas Unedig ym Merthyr.
Rhagfyr 2022: Gwahardd llawer o gynhyrchion plastig untro
Cymeradwyodd y Senedd Fil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), sy’n gwahardd amrywiaeth o blastigau untro. Gwnaethom lobïo i sicrhau bod bagiau plastig untro fferyllfa yn cael eu hychwanegu at y rhestr.
Rhagfyr 2022: Gwerthu mawn ar fin dod i ben yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwahardd yr arfer o werthu compost mawn i’r sector garddwriaethol yng Nghymru. Fe wnaethom lobïo i gael bagiau plastig fferyllfa wedi'u hychwanegu at y rhestr.
Gorfennaf 2022: Fuddugoliaeth fawr ar gyfer ysgyfeintiau Cymru a'n planed
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi y bydd aer glân yn cael ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn nesaf y Senedd (2022/3).
Mehefin 2022: Cymhorthdal cyswllt awyr gogledd-de yn cael ei ddileu
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod yn galw am ddileu cymhorthdal ers blynyddoedd. Buom yn lobïo Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, i godi’r mater hwn yn y Senedd. Ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n adnewyddu’r contract nawr ac felly byddai’r cymhorthdal yn dod i ben.
May 2022: Progress on pensions
We worked alongside Jack Sargeant to table a motion for the Welsh Government agree to work with the public sector to agree a strategy to decarbonise pensions by 2030. The motion was passed by the Senedd and the Welsh Government supported it.
April 2022: Cynllun Llosgydd Aber-wysg wedi'i ddileu
Yn gynnar yn 2021, gwrthwynebom gynlluniau i drawsnewid hen orsaf ynni Aber-wysg oedd yn cael ei bweru gan lo, ger Casnewydd, yn llosgydd a fyddai wedi llosgi pelennau plastig o bob rhan o’r DU. Galwodd Llywodraeth Cymru y cais ‘i mewn’ yn swyddogol a nawr mae moratoriwm ar losgwyr newydd yng Nghymru, a daliom ati i gynyddu’r pwysau. Yn hwyr yn Ebrill 2022, tynnodd y cwmni eu cynlluniau’n ôl. Daeth y cynnig am losgydd i ben.
Rhagor o wybodaeth
Tachwedd 2021: Trafodaethau'r Hinsawdd (COP26)
Ar Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang dros yr Hinsawdd, sef 6 Tachwedd, bu ein rhwydwaith o grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear a Grwpiau Gweithredu dros yr Hinsawdd yng nghanol bwrlwm y gweithredu, yn ymuno â gorymdeithiau a digwyddiadau eraill ledled Cymru, gan gynnwys Bangor, Llangollen, Rhuthun, y Drenewydd, Pontypridd, ac Abertawe - plannwyd coedwig fach yng Nghaerffili!
Hydref 2021: Galwad i Weithredu dros yr Hinsawdd!
Yn y cyfnod yn arwain at Drafodaethau Byd-eang yr Hinsawdd (COP26), llofnododd dros 3000 o'n cefnogwyr ein deiseb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am gynllun uchelgeisiol ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd. Gwnaethom ymuno â Climate Cymru, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a sefydliadau eraill i gyflwyno ein deiseb, ochr yn ochr â 'lleisiau' Climate Cymru, i Lywodraeth Cymru, gerbron calon enfawr o iâ.
Hydref 2021: Cymru yn ymrwymo i ddod yn sero-net erbyn 2050
Fis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun Cymru Sero Net. Nid yw'r targed sero net yn ddigon uchelgeisiol, ond mae'r ffaith bod gan Gymru darged bellach, sy'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn ymgyrchu drosto ers blynyddoedd, yn gam ymlaen cadarn.
Mehefin 2021: Oedi adeiladu ffordd newydd
Ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Newid Hinsawdd, a oedd newydd ei sefydlu, oedi ar bob prosiect adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru, yn dilyn degawdau o ymgyrchu ffyrdd gan Cyfeillion y Ddaear Cymru ochr yn ochr â sefydliadau, grwpiau lleol, ac actifyddion eraill ledled Cymru.
Mai 2021: Etholiadau'r Senedd
Yn y cyfnod yn arwain at Etholiadau'r Senedd ar 6 Mai, llofnododd 121 o ymgeiswyr (a 41% o aelodau'r Senedd) ein haddewid i weithredu dros yr hinsawdd, ac aeth rhai o'n grwpiau lleol ati i drefnu llwyfannau etholiad.
Mawrth 2021: 'Mwy nag ailgylchu'
Mae strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o bethau yr oeddem wedi bod yn galw amdanynt ers oes, gan gynnwys codi tâl ar gwpanau un defnydd. Roedd y cyhoeddiad annisgwyl o foratoriwm ar losgyddion newydd yn rhyddhad enfawr ar ôl blynyddoedd – os nad degawdau – o ymgyrchu gan ein grwpiau a chymunedau eraill ledled Cymru.
March 2021: Incinerators go up in smoke (finally!)
Decades of community and individual campaigning against incinerators finally paid off when Welsh Government introduced a moratorium on any new incinerators in Wales.
Mawrth 2021: Strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru
Mae ‘Llwybr Newydd’ yn gyfle newydd i wneud ein system drafnidiaeth yn decach ar bobl a chymunedau ledled Cymru, ac ar y blaned. Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd yn ystyried nifer o'r argymhellion yn ein hadroddiad ar drafnidiaeth, a gyhoeddwyd haf 2020, ac ymateb ein hymgynghoriad.
Mawrth 2021: Cynlluniau gweithredu dros yr hinsawdd y cynghorau
Erbyn diwedd mis Mawrth 2021, roedd rhaid i bob cyngor yng Nghymru gael rhyw fath o gynllun gweithredu dros yr hinsawdd. Yn y misoedd yn arwain at y dyddiad cau, aeth ein rhwydwaith o grwpiau lleol, grwpiau gweithredu dros yr hinsawdd ac actifyddion ati i lobïo eu cynghorau i sicrhau eu bod yn ddigon uchelgeisiol.
2020: cymorth trawsbleidiol ar gyfer awyr iach
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, fel aelod gweithredol Aer Iach Cymru, yn ymgyrchu dros Ddeddf Aer Glân i Gymru. Yn 2020, cytunodd y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru – Llafur Cymru, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – mewn egwyddor y dylid cael deddf o'r fath.
2020: Cynllun pensiwn Aelodau o'r Senedd yn dadfuddsoddi
Mae Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd wedi penderfynu symud y rhan fwyaf o'u buddsoddiadau oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil a gosod amserlen iddynt eu hunain i gael gwared â'r gweddill. Daw hyn wedi ymgyrch dadfuddsoddi llwyddiannus gan Cyfeillion y Ddaear Cymru. Cafodd grwpiau lleol ac actifyddion Cyfeillion y Ddaear Cymru gymorth gan Aelodau o'r Senedd tra bod miloedd o bobl ledled Cymru yn gweithredu ar-lein dros ein galwad i ddadfuddsoddi
2019: Gwrthod Ffordd Osgoi'r M4
Ar ôl bron i 3 degawd o ymgyrchu gan bobl leol, Cyfeillion y Ddaear Cymru, a grwpiau ymgyrchu eraill, ataliwyd cynlluniau i adeiladu Ffordd Osgoi'r M4 gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Y rhesymau dros hyn oedd y gost, yr argyfwng hinsawdd byd-eang, a'r effaith amgylcheddol ar dirlun unigryw Gwastadeddau Gwent. Dyma fuddugoliaeth wych i bawb a oedd ynghlwm â'r ymgyrchu dros y blynyddoedd.
2018: Cymru yn ymrwymo i ddyfodol heb danwyddau ffosil
Ym mis Rhagfyr 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad hanesyddol i roi tanwyddau ffosil, gan gynnwys ffracio, ar waelod 'hierarchaeth ynni' newydd sy'n hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy. Byddai ceisiadau mwyngloddio glo y dyfodol yn cael eu gwrthod fel mater o bolisi.
2018: Gwaharddiad effeithiol ar ffracio yng Nghymru
Roedd ffracio yn ymgyrch allweddol ar gyfer Cyfeillion y Ddaear Cymru am flynyddoedd maith, tan fis Rhagfyr 2018 pan ddywedodd Llywodraeth Cymru na fydd yn cyhoeddi nac yn cefnogi trwyddedau petroliwm newydd. Mae'r polisi newydd hwn, ynghyd â'r rhifyn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru yn golygu bod gwaharddiad effeithiol ar ffracio ar waith yng Nghymru bellach.
2016: Environment Act
Buddugoliaeth enfawr i fudiad amgylcheddol Cymru oedd cael fframwaith cyfreithiol ar gyfer torri allyriadau yng Nghymru a rhoi deddfwriaeth ar waith i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy.
2016: Cynllun Caru Gwenyn yng Nghymru
Yn dilyn ymlaen o’n llwyddiant yn 2013 gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Peillwyr, lansiwyd y Cynllun Caru Gwenyn yn hydref 2016. Mae’n gynllun achredu newydd i Gymru gyfan, lle gall cymunedau, ysgolion, prifysgolion, busnesau ac ati gyflawni statws 'Cyfeillgar i Wenyn' trwy gwblhau 'tasgau' creadigol a rhyngweithiol o dan benawdau; cynefin, porthiant, plaladdwyr a chynnwys y gymuned. Fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r amrywiol sefydliadau natur a chadwraeth yng Nghymru.
2015: Nant Llesg
Yn dilyn ymgyrch hir gan United Valleys Action Group, Cyfeillion y Ddaear Merthyr Tudful a chymunedau lleol, fe wnaeth Cyngor Sir Caerffili wrthod cais cynllunio ar gyfer glofa glo brig newydd, enfawr yn Nant Llesg, ger Merthyr Tudful. Gwrthodwyd y cynnig i dynnu chwe miliwn tunnell o lo o safle 478 erw dros 14 mlynedd, ar sail effaith weledol, trwy gael 12 pleidlais yn erbyn a dau yn ymatal.
2015: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ddiweddglo tair blynedd o ymgyrchu gan y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy - sef cynghrair o 30 o sefydliadau, sy’n cynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru. Mae’n gyfraith arloesol, newydd, sy’n gosod dyletswydd glir ar gyrff cyhoeddus i roi lles tymor hir pobl, natur a chenedlaethau’r dyfodol wrth galon gwneud penderfyniadau. Bydd y gyfraith hon yn dod i rym yn llawn ym mis Ebrill 2016.
2013 - Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Peillwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu hymrwymiad i lunio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Peillwyr - ymateb uniongyrchol i brif ofyniad ein hymgyrch. Newyddion gwych i wenyn (yng Nghymru o leiaf!), a hefyd, ar gyfer yr ymgyrch ei hun, sy’n ceisio newid meddylfryd y cyhoedd a gwleidyddion am bwysigrwydd hanfodol bioamrywiaeth.
2011: Covanta yn rhoi’r gorau i gynlluniau ar gyfer llosgydd ym Merthyr
Byddai’r llosgydd enfawr hwn wedi gallu llosgi mwy na’r holl wastraff gweddilliol yng Nghymru. Roedd penderfyniad Covanta yn fuddugoliaeth enfawr i gymunedau ym Merthyr a chwm Rhymni a oedd wedi brwydro’n hir ac yn galed yn erbyn y cynigion.
2010: tâl am fagiau plastig
Arweiniodd grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear ledled Cymru yr ymgyrch i godi tâl am fagiau siopa untro, gyda llawer o grwpiau hefyd yn cynhyrchu eu bagiau brethyn y gellir eu hailddefnyddio eu hunain i'w rhoi i siopwyr yn eu cymuned.
2010: Newid hinsawdd
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, ar ôl bod y cyntaf yn y byd i osod targedau blynyddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ôl lobïo parhaus, gyflwyno cynllun gweithredu a oedd yn cynnwys nifer o’n hargymhellion.
2010: Suddo Morglawdd Hafren
Llwyddodd y daith hir yn erbyn Morglawdd Hafren mawr o Gaerdydd i Weston o'r diwedd. Anogwyd y Llywodraeth i gefnogi ffyrdd llai niweidiol o harneisio potensial ynni aber Afon Hafren.
2000s: Cefnogi ynni gwynt 2000au
Fe wnaeth chwalu chwedlau am bŵer gwynt, ac ymgyrchoedd a oedd yn cefnogi prosiectau penodol, helpu i ennill ynni gwyrdd, glân o ffermydd gwynt yng Nghefn Croes (2002), Tir Mostyn (2002), Gwynt y Môr (2009) a Wear Point (2010)..
2000: Cymru’n rhydd rhag GM
Lansiwyd ein hymgyrch i gadw Cymru’n rhydd rhag unrhyw gnydau a addaswyd yn enetig a chefnogi ffermio ecogyfeillgar ym 1999, ac fe’i cefnogwyd yn unfrydol gan Aelodau Cynulliad Cymru y flwyddyn ddilynol. Diweddariad: Cymru’n rhydd rhag GM o’r diwedd, wrth i Lywodraeth Cymru wneud cais am waharddiad ar yr holl gnydau ym mis Hydref 2015.
1997: Trechu’r tanwydd "mwyaf budr"
Llwyddodd ymgyrch yn erbyn cynlluniau gorsaf bŵer yn Sir Benfro i losgi orimulsion, a ddisgrifir fel tanwydd mwyaf budr y byd, ochr yn ochr â galwadau i gael mwy o gefnogaeth ar gyfer systemau ynni effeithlon ac ynni adnewyddadwy.
1995: Erlyniad y Sea Empress
Yn dilyn gollyngiad olew y Sea Empress yn Aberdaugleddau ym 1996, fe wnaethom gasglu tystiolaeth o raddau’r niwed amgylcheddol a pharatoi achos cyfreithiol. Ymgymerodd Asiantaeth yr Amgylchedd â’r achos, ac erlyn Awdurdod y Porthladd yn llwyddiannus ym 1999.
1995: Diogelu bywyd morol
Fe wnaeth cwyn a gyflwynwyd i Ewrop, ar y cyd â Chyfeillion Bae Aberteifi, i ddiogelu’r cynefin morol cyfoethog hwn, orfodi llywodraeth y DU i’w gwneud hi’n ofynnol cynnal asesiadau effaith amgylcheddol i ddrilio am olew a nwy yn holl ddyfroedd y DU.
1990s-2009: Ehangu ffyrdd
Fe wnaeth ymgyrchoedd cryf drechu nifer o brosiectau adeiladu ffyrdd diangen, o ffyrdd osgoi trwy Eryri yn yr 1990au cynnar, i wneud yr A40 yn ffordd ddeuol yng ngorllewin Cymru, a phriffordd anferthol Gwastadeddau Gwent yn 2009.
1980s: Glaw Asid
Ym 1984, cymerodd Cyfeillion y Ddaear Cymru rôl flaenllaw mewn creu mwy o ymwybyddiaeth o broblem glaw asid. Fe wnaethom helpu i ysgogi gostyngiadau mewn allyriadau llygru yng Nghymru.