Dros 50 o sefydliadau yn galw am weithredu ar ficroblastigau yng Nghymru

Published: 14 Jul 2023

Mae Dŵr Cymru, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched - Cymru, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymhlith yr 56 o sefydliadau sydd wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar broblem gynyddol microblastigau.
Microplastics in a tea bag
Microblastigau mewn bag te (llun trwy garedigrwydd y Darwinian Ifanc)

Mae'r llythyr agored, a gyhoeddwyd heddiw (14 Gorffennaf 2023) gan Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â’r sefydliadau a'r arbenigwyr perthnasol at ei gilydd fel y gellir llunio Cynllun Gweithredu ar Ficroblastigau i Gymru. Gallai camau gweithredu gynnwys mynd i'r afael â phroblem rhyddhau microffibrau plastig a llygredd microblastig yn y ffynhonnell a darparu addysg am y materion hyn mewn ysgolion.

Yn deneuach na gwallt dynol, darganfuwyd microblastigau o'r mynyddoedd uchaf i'r cefnforoedd dyfnaf. Amcangyfrifir bod microffibrau plastig, sy'n cael eu rhyddhau pan fyddwn yn golchi ein dillad, yn cyfrif am oddeutu 35% o'r llygredd plastig cyfan yn ein moroedd a'n cefnforoedd.

Mae ymchwil yn dangos bod microblastigau yn wenwynig i fywyd morol ac erbyn hyn mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu y gallant fod yn niweidiol i fywyd ar dir, gan gynnwys ni ein hunain. Er enghraifft, mae darnau ohonynt wedi cael eu canfod yng ngwaed 8 o bob 10 o bobl hyd yn oed ac mae’r effeithiau ar iechyd yn anhysbys hyd yma.

 

Llofnodwch ein deiseb Senedd ar ficroblastigau

 

Photo of Stephanie Matthews
Stephanie Matthews

Dywedodd Stephanie Matthews o Ddillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru, a'r Young Darwinian:

"Mae microblastigau yn rhy bwysig i'w hanwybyddu. Ac mae cymaint y gellir ei wneud. Gorau bo gyntaf y byddwn yn cychwyn arni."

 

 

Photo of Tony Harrington
Tony Harrington

Dywedodd Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Dŵr Cymru:

"Rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r fenter hon, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid, i leihau'r llygredd a achosir gan ficroblastigau.  Mae llawer o'r atebion yn gymharol syml ac eisoes yn cael eu mabwysiadu mewn mannau eraill.

Rydym yn gobeithio y gellir gweithredu'r camau sydd eu hangen i leihau'r llygredd a achosir gan ficroblastigau yn gyflym yn eu ffynhonnell gan leihau'r costau a'r amser a gymerir i weithredu newid."

 


 

Photo of Jill Rundle
Jill Rundle

Dywedodd Jill Rundle, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru:

"Mae aelodau Sefydliad y Merched yn poeni'n fawr am yr effaith y mae ffibrau microblastig yn ei chael ar fywyd morol ac effeithiau posibl y ffibrau sy'n dod i mewn i'r gadwyn fwyd. Mewn ymchwil a gynhaliwyd gennym ni, canfuwyd bod cartrefi'r DU yn gwneud cymaint â 68 miliwn o lwythi o olchi yr wythnos, gan ryddhau o leiaf 9.4 triliwn o ffibrau microblastig yr wythnos yn y DU.

"Mae angen gweithredu ar frys i atal y llanw o lygredd plastig sy'n niweidio ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt. Dyna pam ein bod am weld Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Microblastigau i Gymru fel y gellir cymryd camau ystyrlon yng Nghymru i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd plastig hwn."

Lansiodd Cyfeillion y Ddaear Cymru5, aelod o Sustainable Clothing and Textiles Cymru, ddeiseb ar wefan deisebau'r Senedd ym mis Mai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar ficroblastigau.

Mae Sustainable Clothing and Textiles Cymru yn gobeithio y bydd eu hymgyrch yn arwain at ddadl Senedd ar y mater.

 

 

Microplastic sample from a beach in Wales.
Microblastigau i'w gweld mewn golau uwchfioled mewn tywod a gymerwyd o draeth Aberllydan yn Sir Benfro

 

Share this page