Mae Llosgydd Aber-wysg wedi'i ddileu

Published: 6 Apr 2022

Ni fydd hen orsaf bŵer Aber-wysg ger Casnewydd yn dod yn llosgydd wedi’r cyfan. Tynnodd y cwmni eu cynlluniau’n ôl, gan ddirwyn y cynnig i ben – buddugoliaeth fawr i’r bobl a’r blaned!
Photo of Uskmouth
Gorsaf Bŵer Aber-wysg

 

Byddai’r cynlluniau yn golygu y byddai’r llosgydd yn allyrru dros 1 1/2 miliwn tunnell o CO2 yn flynyddol (sy’n cyfateb i oddeutu 68% o allyriadau ceir yng Nghymru) a hynny am o leiaf ugain mlynedd.

Yn gynnar yn 2021, ymunom â CPRW (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig) a FOGL (Cyfeillion Gwastadeddau Gwent) er mwyn gwrthwynebu’r cynlluniau i drawsnewid hen orsaf ynni Aber-wysg oedd yn cael ei bweru gan lo, ger Casnewydd, yn llosgydd a fyddai’n llosgi pelennau plastig o bob rhan o’r DU.

Cyflwynom ein gwrthwynebiadau i Gyngor Dinas Casnewydd a Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ac yna galwyd  am y cais ‘i mewn’ gan Lywodraeth Cymru a chyflwyno ‘cyfarwyddeb daliad’ ar y funud olaf a wnaeth atal Pwyllgor Cynllunio Cyngor Casnewydd rhag derbyn ar y cais mewn ffordd ‘ffafriol’.

Roedd targedau hinsawdd LlC a’r ymrwymiad yn eu strategaeth Mwy nag Ailgylchu i atal llosgyddion newydd yn nodi diwedd y cynllun hwn ond ceisiodd y cwmni oedd yn ymwneud â hyn ddilyn llwybr arall wrth dynnu eu cais cynllunio gwreiddiol yn ôl ac yna gwneud cais i NRW am ‘wneud newidiadau i drwydded’ a allai fod wedi eu caniatáu i osgoi’r gweithdrefnau eraill hyn.

Daliom at i gynyddu’r pwysau ac yn ffodus, yn hwyr yn Ebrill 2022, cyhoeddodd y cwmni eu bod wedi tynnu’r cais hwn hefyd yn ôl hyd yn oed, gan ddod â’r cynnig am losgwr i ben.

 

Share this page