Ni ddylai chwareli Cymru niweidio pobl neu fywyd gwyllt
Published: 18 Dec 2024
Wrth dyfu i fyny yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, roedd chwareli’n olygfeydd cyfarwydd yn y bryniau o amgylch y pentrefi. Ac ar hyd a lled Cymru, cafodd ein tirwedd ei thorri a’i llunio gan weithgareddau chwarela dros gannoedd o flynyddoedd, wrth i ddiwydiannau dyllu drwy ein tir i gloddio am gerrig, llechi a mwynau gwerthfawr.
Ond nid rhywbeth o’r oes a fu yw chwareli. Mae’r diwydiant yn dal i fod yn fyw iawn yng Nghymru. Yn 2022, cafodd tua 185 miliwn tunnell o fwynau eu cloddio o dirweddau’r DU.
Effeithiau
Mae’r llwch a’r llygredd a achosir drwy chwythu a thorri creigiau yn beryglus i’n hiechyd. Dengys ymchwil fod pobl sy’n byw wrth ymyl chwareli’n fwy tebygol o ddioddef diffyg anadl, peswch, alergeddau a phroblemau llygaid, fel sychder, llid neu ddyfrio.
Mae pobl sy’n byw’n agos i chwareli hefyd yn adrodd bod craciau yn eu cartrefi, a bod sŵn chwythu uchel y ffrwydron a ddefnyddir yng ngweithgareddau’r chwareli’n amharu arnynt.
Mae chwarela hefyd yn peri cryn fygythiadau i fywyd gwyllt drwy ddinistrio cynefinoedd a halogi ffynonellau bwyd a dŵr.
Brwydr y Gymuned
Wrth gwrs, mae angen mwynau a cherrig ar gyfer codi tai, adeiladu seilwaith newydd ac ati, ond rhaid eu cloddio mewn modd cynaliadwy, sy’n gwarchod cymunedau a byd natur – ac nid dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru’n brwydro yn erbyn gweithgareddau chwarela peryglus yn eu pentrefi a’u trefi, ac yn ymdrechu i ddiogelu eu hiechyd, eu lles a bywyd gwyllt lleol rhag y llygredd a’r difrod a achosir gan y diwydiant hwn.
Craig Yr Hesg, Pontypridd
Bu preswylwyr ym Mhontypridd yn ymgyrchu’n ddygn i ddiogelu eu cartrefi a’u hysgol leol rhag ehangu chwarel Craig Yr Hesg.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer ehangu’r chwarel eu gwrthod yn wreiddiol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ond, yn dilyn apêl gan y cwmni, Heidelberg, rhoddwyd caniatâd i’w hehangu yn 2022 gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, sef Julie James.
Mae’ gymuned eisoes wedi dioddef yr effeithiau ar eu hiechyd a’u lles o ganlyniad i’r llwch a’r sŵn sy’n deillio o’r gweithrediadau chwythu dros y blynyddoedd. Ond mae’r cynllun a gymeradwywyd i ehangu’r chwarel yn golygu y bydd yn dod o fewn 200 metr o gartrefi ar stad Glyncoch, ac y bydd yn cloddio am 10 miliwn tunnell arall o gerrig. Bydd rhaid i’r gymuned fyw gydag effaith y gwaith chwarela hwn tan 2047.
Chwarel Dinbych, Sir Ddinbych
Mae ymgyrchwyr yn Ninbych yn brwydro yn erbyn y cynllun arfaethedig i ehangu Chwarel Dinbych, a fydd yn golygu y bydd coed hynafol yn cael eu torri a llwybrau cyhoeddus yn cael eu hailgyfeirio er mwyn cloddio’r tir.
Roedd y cwmni chwarela, Breedon PLC, wedi addo’n wreiddiol y byddai’n adfer y chwarel erbyn 2028, ond eu bwriad erbyn hyn yw ymestyn eu gwaith cloddio am 20 mlynedd arall. Bydd y ffin newydd yn golygu y bydd cartrefi pobl o fewn 90 metr o’r gwaith hwn!
Cafodd cais Breedon i ehangu’r chwarel ei wrthod gan Gyngor Sir Ddinbych ym mis Ionawr 2024, ond mae'r cwmni’n apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, sy’n golygu mae'r brwydr y gymuned i ddiogelu eu cartrefi a byd natur yn parhau.
Cilyrychen, Sir Gaerfyrddin
Mae preswylwyr yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin (sydd hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn ehangu’r pwll glo yn y pentref) yn protestio yn erbyn creu safle prosesu rwbel a phridd newydd yn Chwarel Cilyrychen. Bydd bron i 50,000 tunnell o ddeunyddiau’n cael eu cludo yn ôl a blaen i’r chwarel yn flynyddol gyda lorïau HGV.
Bu’n 20 mlynedd ers i’r chwarel fod yn weithredol, ac mae natur wedi dechrau ffynnu o’r newydd, gyda hebogiaid, ystlumod a phathewod wedi’u gweld ar y safle, ac mae’r Ardal Cadwraeth Arbennig gerllaw yn gartref i Dirlyn Pantllyn (‘Pantllyn Turlough’), sef yr unig lyn ‘tirlyn’ a geir ar dir mawr y DU.
Er bod deiseb a oedd yn gwrthod y cynnig wedi derbyn 2000 o lofnodion, a bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn 147 gwrthwynebiad i’r cais cynllunio, fe gafodd y cynnig ei gymeradwyo ddiwedd mis Tachwedd 2024.
Etifeddiaeth Beryglus
Nid siâp ein tirwedd yw’r unig beth sydd wedi’i etifeddu o waith chwarela yng Nghymru. Rydym wedi’n gwahardd rhag cael mwynhau ardaloedd o’n tir oherwydd natur beryglus hen chwareli, o byllau dwfn, i wynebau clogwyni serth, i’r risg o gerrig yn disgyn o ganlyniad i’w hansefydlogi gan weithgareddau chwarela blaenorol.
Defnyddiwyd hen chwareli hefyd fel safleoedd gwaredu gwastraff dros y degawdau, sy’n golygu bod cemegion niweidiol wedi bod yn trwytholchi i mewn i’n dŵr a’n pridd, fel yn achos chwareli Tŷ Llwyd a Brofiscin (i enwi dim ond dau!), a ddaeth i fod yn feysydd dympio ar gyfer cemegion PCB tocsig Monsanto yn y 60au a’r 70au.
Deiseb
Daeth ymgyrchwyr brwd â deiseb i’r Senedd y mis hwn, a oedd wedi derbyn dros 11,000 o lofnodion a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno clustogfa orfodol o 1,000 metr ar gyfer pob chwarel newydd a rhai presennol.
Y mis diwethaf, roedd y Senedd wedi ystyried Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod yng nghyswllt y broses gynllunio ar gyfer datblygu chwarel a fyddai wedi cyflwyno clustogfa 1,000 metr, ynghyd â gofyn am asesu’r perygl i iechyd, yr amgylchedd a bioamrywiaeth o ganlyniad i chwarela, ynghyd â sicrhau bod y penderfyniad yng nghyswllt ceisiadau ar gyfer chwarela’n cael eu gwneud gan y gweinidog llywodraeth perthnasol, a gydag ystyriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Yn anffodus, cafodd y cynnig a gyflwynwyd i’w drafod ei wrthod gan y Senedd, gyda’r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud na fyddai’r ddeddfwriaeth newydd yn briodol, gan fod angen ystyried ceisiadau yng nghyswllt chwarela fesul achos.
Beth sydd angen newid
Mae methiant diweddar y Senedd i gefnogi’r syniad o ‘glustogfa’, ac o ymgorffori mesurau diogelu o fewn y prosesau cynllunio, yn gyfleoedd a gollwyd. Mae angen rheoli chwareli’n well i ddiogelu pobl a’r blaned.
Mae angen ystyried unrhyw gamau i ehangu’r diwydiant cloddio hwn ar y cyd ag iechyd, lles a diogelwch pobl, ac yng nghyd-destun ein hargyfyngau byd-eang o ran yr hinsawdd a byd natur.
Mae pawb yng Nghymru’n haeddu’r hawl i fyw mewn amgylchedd iach a diogel, ac mae cymunedau ar hyd a lled y wlad yn ymgyrchu’n ddiflino i ddiogelu ein hiechyd a’n bywyd gwyllt.
Mae’n hen bryd cael dull mwy caredig a chynaliadwy o chwarela.