Gwrthod ffordd liniaru'r M4 - newyddion gwych i Gymru a'r blaned
Published: 4 Jun 2019


Wrth groesawu’r newyddion bod y cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 wedi cael eu gollwng, dywedodd Haf Elgar
"Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a'r blaned.
"Yn ogystal â chostio dros £2 biliwn o bunnoedd i drethdalwyr Cymru, byddai'r ffordd ddinistriol hon wedi hollti trwy amgylchedd unigryw Gwastadeddau Gwent sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt, wedi pwmpio mwy o allyriadau sy'n difetha'r hinsawdd i mewn i'n hatmosffer, ac yn y pen draw wedi achosi mwy byth o dagfeydd a llygredd aer.
“Mae'r penderfyniad hwn yn glod i ymdrechion diflino trigolion lleol sydd wedi gwrthwynebu'r cynllun hwn dros ddegawdau ac mae'n arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei datganiad argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol o ddifrif.
“Nawr rydym angen buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gynaliadwy o amgylch Casnewydd a ledled Cymru i helpu i adeiladu dyfodol glanach, mwy diogel i ni i gyd.”