Ffasiwn gynaliadwy

A ninnau yng nghanol argyfwng costau byw ac argyfwng hinsawdd, mae hi’n bwysicach nag erioed i ffasiwn fod yn fwy fforddiadwy i bobl, heb gostio’r greadigaeth.
Photo of a woman in a repair cafe holding a pair of trousers with a 'fixed' sign
Llun trwy garedigrwydd Rupal Shah-Clark

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru, sef cynghrair o elusennau, busnesau lleol, darparwyr addysg ac unigolion brwd.

Mae’r aelodau’n cynnwys Sustainable Fashion Wales, Repair Cafe Wales,  Rhaglen Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus, ac Onesta, y manwerthwr ffasiwn. Ein cenhadaeth yw arddangos y gwaith gwych ac amrywiol sy’n llwyddo i wneud ffasiwn a thecstilau yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, yn ogystal ag ysbrydoli ysgogwyr newid i sicrhau y bydd y diwydiant hwn yn cael gwell cymorth, y bydd ganddo gysylltiadau gwell ac y bydd yn cael ei brif ffrydio i raddau mwy trwy’r wlad.

Mae gan Gymru y potensial i fod yn arweinydd y byd mewn ffasiwn gynaliadwy. Er mwyn gwireddu hyn, rydym yn galw am y canlynol:

  • Rôl newydd ar gyfer Cyfarwyddwr Ffasiwn a Thecstilau Cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru.
  • Cynllun cyfnewid gwisgoedd ysgol a dillad chwaraeon ym mhob ysgol.
  • Ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a ni i drafod a datblygu mentrau busnes.
  • Cynllun Gweithredu Microblastigau i Gymru.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein hadroddiad.

 

 

Someone mending jeans

The fashion industry has a huge carbon footprint. It is estimated to be responsible for around 10% of the world’s greenhouse gas emissions.

 

Find out more

Rail of clothes

Sustainable fashion - what can we do?

 

Find out more