Llywodraeth Cymru yn rhewi adeiladu ffyrdd newydd – ein hymateb

Published: 22 Jun 2021

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw (Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021) y bydd prosiectau adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi.

Bydd y rhewi hwn yn ei le wrth i adolygiad o gynlluniau priffyrdd ar draws Cymru gael ei gynnal.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn wrth rewi prosiectau adeiladu ffyrdd newydd,” meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Er mwyn bod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang a chwarae ein rhan wrth weithredu ar frys i leihau allyriadau sy’n chwalu’r hinsawdd, rhaid i ni ddileu pob cynllun seilwaith carbon uchel newydd.

“Byddai rhoi dewis amgen yn lle’r car i bobl yn helpu i atgyweirio system drafnidiaeth Cymru a brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae angen trawsnewid seilwaith cerdded a beicio’r genedl ar unwaith, yn ogystal â gwella trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy yn sylweddol.

“Mae’n bryd buddsoddi mewn economi sy’n addas ar gyfer heriau’r 21ain ganrif a rhoi Cymru ar y blaen wrth adeiladu dyfodol glanach a thecach i bawb ohonom.”

 

Daw’r penderfyniad hwn ar ôl degawdau o ymgyrchu ar y ffyrdd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru ochr yn ochr â sefydliadau eraill, grwpiau lleol ac actifyddion ledled Cymru.

Roedd rhewi ar adeiladu ffyrdd yn un o argymhellion yr adroddiad trafnidiaeth a Chynllun Gweithredu Hinsawdd Cymru a gyhoeddodd Friends of the Earth Cymru y llynedd.

 

 

Sylw newyddion

Welsh government suspends all future road-building plans (GUARDIAN)

All new road building projects in Wales are to be shelved (WALES ONLINE)

Oedi pob cynllun adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru (BBC CYMRU FYW)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Share this page