Glanhau tir llygredig yng Nghymru

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgyrchu er mwyn codi ymwybyddiaeth o raddfa a thraweffaith tir llygredig yng Nghymru ac i wella ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth ynghylch y mater hwn.
Rydym hefyd yn galw am gamau gweithredu er mwyn clirio tir llygredig i sicrhau y gall pawb fyw mewn amgylchedd iach.
Yr hyn rydym ni'n galw amdano
- Rhagor o wybodaeth
Mae gan bobl yng Nghymru’r hawl i wybod a ydynt yn byw ger safle gwenwynig a allai fod yn effeithio ar eu hiechyd. Mae gwybodaeth gyhoeddus yn anghyflawn ac yn anodd cael mynediad ati. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am gofrestr ar-lein y gellir ei chyrchu gan y cyhoedd, o safleoedd tir gwenwynig ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys safleoedd sy’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd.
- Deddfwriaeth gref
Mae cymunedau yng Nghymru angen ailgyfeirio at gorff gwarchod parhaol, annibynnol sydd wedi’i ariannu’n briodol. Mae’r Mesur Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn gyfle unigryw i wneud pethau’n iawn. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw i gwmpas y mesur hwn fynd i’r afael â llygredd hanesyddol a llygredd a etifeddwyd o orffennol diwydiannol Cymru.
- Archwiliad cyhoeddus
Nid yw cyfreithiau a deddfwriaeth tir llygredig cyfredol yn amddiffyn pobl a byd natur. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i raddfa a mewnbwn tir llygredig yng Nghymru, gan gynnwys y ddeddfwriaeth tir llygredig gyfredol.
Beth yw'r broblem?
Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o draweffaith cemegolion yn ein pridd a’n dŵr ar iechyd, fel y mae’r nifer cynyddol o straeon yn y cyfryngau yn eu hamlygu. Mae cemegolion am byth megis PCBau a PFAS yn arbennig o broblemus gan eu bod yn hynod o barhaus yn yr amgylchedd a gallant arwain at broblemau iechyd megis niwed i’r iau, afiechyd y thyroid, gordewdra, problemau cenhedlu, a chanser.
Mae PCBau, sef grŵp o ‘gemegolion am byth’ sydd wedi cael eu profi i fod yn garsinogenaidd, i’w canfod mewn amryfal safleoedd yng Nghymru, gan gynnwys chwareli Brofiscin a Maendy, Penrhos a Thŷ Llwyd yng Nghaerffili, y ffatri gemegolion yng Nghasnewydd a Rhiwabon yn Wrecsam. Fe wnaeth corfforaeth gemegol Americanaidd Monsanto ollwng gwastraff gwenwynig mewn sawl safle yn y 1960au a’r 70au.
Faint o safleoedd?
Yn fras, dydym ni ddim yn gwybod, ond mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu y gallai fod yn niferoedd eithriadol o fawr i wlad fach. Ym mis Mawrth 2025 datgelodd adroddiad gan y BBC na allai hanner o’r 22 o gynghorau yng Nghymru ddarparu manylion am gyfanswm nifer y safleoedd tir llygredig yn eu sir ond "roedd y rhai oedd wedi gwneud, wedi adnabod 698 o safleoedd risg uchel, ac o’r rheiny dyw 586 ohonynt heb gael eu harchwilio."
Yn 2021 canfu data gan Cyfoeth Naturiol Cymru a ddadansoddwyd gan Greenpeace bod cemegolion peryglus megis nwy mwstard a syanid wedi eu claddu o dan dros 1500 o safleoedd tirlenwi nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyd a lled Cymru.
Ac mae gwaith ymchwil diweddar gan yr Athro Macklin, Athro ym Mhrifysgol Lincoln, a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig y llynedd, wedi darganfod bod 6% o’r boblogaeth yng Nghymru yn byw ger tir sydd wedi’i lygru gan fwyngloddio metal hanesyddol.
Yr hawl i amgylchedd iach
Yn 2022, datganodd y Cenhedloedd Unedig bod gan bawb ar y ddaear yr hawl i amgylchedd iach.
Llygredd yw achos amgylcheddol mwyaf o afiechyd a marwolaeth cyn pryd. Mae anadlu aer gwenwynig yn cael ei gydnabod fel yr hyn sy’n lladd fwyaf ond mae tystiolaeth gynyddol sy’n awgrymu bod gan lygredd cemegol (p’un a yw hynny’n feicro-blastigau neu wenwyn megis plwm neu gemegolion am byth y "potensial i achosi un o’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf i ddynoliaeth".
Mae glanhau ein tir a'n dŵr yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd ein hunain ac iechyd ein plant a’n hwyrion ac wyresau. Mewn cyfnod pan mae 1 mewn 5 rhywogaeth mewn peryg o drengi yng Nghymru, mae hyn oll hefyd yn hanfodol ar gyfer ein bywyd gwyllt.
Mae angen camau gweithredu effeithiol, wedi’u targedu, ar frys er mwyn gwarchod pobl a bywyd gwyllt. Mae’n amser gweithredu i lanhau ein tir.
Archwilio etifeddiaeth wenwynig Cymru
Mae Hana yn rhannu ei phrofiad o weithio ar yr ymgyrch tir halogedig i Cyfeillion y Ddaear Cymru a'r hyn mae hi wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd.

Dylai pawb fod â hawl i amgylchedd iach
Ers blynyddoedd, mae gormod o lygrwyr wedi cael llonydd i wneud fel y mynnont yng Nghymru. Fel yr esbonia Kierra, does gan y cymunedau hynny yng Nghymru sy’n dioddef effeithiau llygredd ddim corff gwarchod amgylcheddol o’r iawn ryw y gallant droi ato. Ond efallai y bydd hyn yn newid.

Unioni’r cam o ran gwaddol hanesyddol Cymru
Yn y gorffennol, roedd Cymru yn ‘bwerdy’ diwydiannol. Mae cymunedau lleol o bob cwr o’r wlad – y rhai olaf i elwa ar y cyfoeth aruthrol a ddeilliodd o fwyngloddio, gweithfeydd haearn a diwydiannau echdynnol erahttps://foe.cymru/righting-wrong-readdressing-wales-historical-legacyill – yn dal i dalu pris sylweddol.

Environmental and economic legacy of Wales' industrial past - our response
Read Friends of the Earth Cymru's response to the Welsh Affairs Committee's call for evidence

Welsh quarries should not damage people or wildlife
The materials our society needs, Jenny argues, shouldn't be extracted in a way that harms people or nature.

Tackling microplastics – what more can Wales do?
Present in our oceans and soils, microplastics are a harmful and pervasive phenomenon. But what can be done in Wales?