Diogelu Cynlluniau Pensiwn Cymru
Pam dadfuddsoddiad?
Tanwydd ffosil - glo, olew a nwy - yw prif ysgogwyr newid yn yr hinsawdd. Os ydym ni eisiau hinsawdd iach, ddiogel, mae angen i ni adael unrhyw danwydd ffosil sy’n weddill yn y tir. Mae cwmnïau tanwydd ffosil anatebol, fel BP, Shell a BHP Billiton, yn gwneud y gwrthwyneb. Mae cloddio ac archwilio yn datgloi mwy o garbon o’r ddaear, ac felly’n hybu newid yn yr hinsawdd wrth lygru amgylcheddau ac ecosystemau sensitif hefyd, a dinistrio bywoliaeth pobl leol ledled y byd. Hefyd, wrth i economïau symud at ffynonellau ynni cynaliadwy, bydd gwerth buddsoddiadau mewn tynnu ac ymelwa ar danwydd ffosil yn lleihau. Byddai’n gall dadfuddsoddi nawr, cyn i’r galw am danwydd ffosil ostwng.
Beth mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ei wneud?
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhan o fudiad Fossil Free UK ac, yng Nghymru, rydym yn galw ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i symud eu buddsoddiadau a’u daliadau pensiwn allan o ynni budr, fel rhan o ymgyrch byd-eang i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil.
Yng Nghymru, mae ymchwil yn awgrymu bod awdurdodau lleol yn unig wedi buddsoddi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gwerth £500 miliwn mewn tanwydd ffosil.
Mae llawer o leoedd ledled y byd yn arwain y ffordd ac, yn fyd-eang, amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth oddeutu $2.6 triliwn wedi symud i ffwrdd o danwydd ffosil.
Mae grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear ac eraill yn galw ar fuddsoddiad cyfrifol a dadfuddsoddiad mewn tanwydd ffosil.
Mae ein gwaith ar ddadfuddsoddiad yn rhan o waith ehangach i sicrhau bod Cymru yn rhydd rhag tanwydd ffosil. Mae’n bryd tynnu pensiynau ac arian cyhoeddus Cymru allan o danwydd ffosil!
Beth allwn ni ei wneud?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar ddadfuddsoddiad yng Nghymru, cysylltwch â Bleddyn Lake ar [email protected]. Gall Bleddyn eich rhoi chi mewn cysylltiad â’ch grŵp Cyfeillion y Ddaear agosaf sy’n gweithio ar ddadfuddsoddiad neu eich helpu i ddechrau eich grŵp lleol eich hun ar y mater
Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030
Os aiff popeth yn ôl y disgwyl, ni fydd cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil erbyn 2030.
Sut i ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus
Yng Nghymru, pan mae'n dod yn fater o gronfeydd pensiynau'r sector cyhoeddus yn cael gwared ar eu buddsoddiadau tanwydd ffosil, mae pawb yn edrych ar bawb arall yn disgwyl iddynt weithredu. Yn y blog yma, mae Bleddyn, ymgyrchydd hirdymor ar y mater, yn archwilio beth yn union fydd ei angen i ddatrys yr oedi hwn.
A yw eich pensiwn yn dinistrio’r blaned?
Mae cronfeydd pensiwn cynghorau Cymru yn dal i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, ond a oeddech chi'n gwybod bod sefydliadau eraill yn talu i mewn i'r un gronfa?
Arian llywodraeth leol wedi'i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil
Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd cynghorau lleol yng Nghymru yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn tanwyddau ffosil sydd yn dinistrio’r blaned drwy gronfeydd pensiwn llywodraeth leol.
Dylid cynnwys cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn Sero Net Cymru
Rydym wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt gynnwys cronfeydd y sector cyhoeddus yn y cynllun Net Zero Plans, sydd i fod i gael ei gyhoeddi ar 28 Hydref 2021.
AM Pension Scheme moves away from fossil fuels
Friends of the Earth Cymru welcome the news that the Welsh Assembly Member Pension Scheme has taken the decision to move nearly all their investments away from fossil fuel companies and set themselves a timeline for ditching the rest.