Cymru ddi-ffosil
Mae’n amlwg nad yw datblygiadau tanwydd ffosil newydd, gan gynnwys ymestyn y pyllau glo presennol ac echdynnu olew, glo a nwy newydd a fydd yn ychwanegu mwy o allyriadau i’r atmosffer, yn gydnaws â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dyna pam yr ydym ni yng Nghymru wedi brwydro yn erbyn estyniadau i byllau glo fel Ffos y Fran a Glan Lash.
Rydym yn cefnogi cymunedau lleol, a gyda chymorth ein tîm cyfreithiol a chynllunio.
Mae diogelwch tomenni glo yn bwysig, ond nid ar draul y blaned
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae Energy Recovery Investments (ERI) Reclamation Ltd yn cynnig symud 500,000 tunnell o lo o ddwy domen lo ym Medwas, gan ddefnyddio’r arian a gaiff wrth werthu’r glo i adfer y safle.

Cyhoeddiad dur Port Talbot – ymateb Cyfeillion y Ddaear
Dylai’r symudiad i ddur gwyrdd fod yn symudiad teg, er mwyn sicrhau dyfodol Port Talbot, creu swyddi cynaliadwy, hirdymor a rhoi ardaloedd fel hyn ar flaen y gad yn y newid i economi lân.

Gwrthod cynnig glo brig olaf Cymru mewn penderfyniad hanesyddol
Blaenoriaethodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin fyd natur a’r hinsawdd heddiw (dydd Iau 14 Medi), drwy ddweud na i ragor o gloddio glo brig yng ngwaith glo brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin.

Rhaid adfer Ffos y Fran, medd ymgyrchwyr
Mae perchennog pwll glo Ffos y Fran wedi dweud y byddant yn rhoi'r gorau i gloddio ar 30 Tachwedd 2023, ond nid gadael mae’r ymgyrchwyr lleol eisiau eu gweld yn ei wneud – maen nhw eisiau iddynt adfer y safle yn unol â’u haddewid.

Rydym yn annog yr Awdurdod Glo i weithredu ar eu gorchymyn gorfodi
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Glo, yn croesawu eu gorchymyn gorfodi yn erbyn perchennog Ffos y Fran, pwll glo brig ger Merthyr Tudful.