Gwerthu mawn ar fin dod i ben yng Nghymru
Published: 13 Dec 2022
Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod am wahardd yr arfer o werthu mawn i arddwyr amatur yn Lloegr (erbyn 2024) yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru).
Er mai ymarfer ymgynghori ar y cyd oedd hwn, yn rhyfedd ddigon ni chyhoeddodd Llywodraeth Cymru waharddiad o’r fath yn syth, oherwydd i bob golwg nid oedd yn siŵr (?) a oedd yn meddu ar y pwerau i wneud hynny.
Rydym wrth ein bodd, felly, fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno i wahardd yr arfer o werthu mawn yng Nghymru. Dyma newyddion gwych – rhywbeth rydym wedi bod yn galw amdano.
Mae mawndiroedd y DU wedi dirywio’n arw, ond maent yn eithriadol o bwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gan fod mawndiroedd y DU yn storio mwy o CO2 na holl goedwigoedd a phriddoedd eraill y DU gyda’i gilydd.
Hefyd, mae manteision eraill yn perthyn i fawndiroedd. Mae mawndiroedd fel sbyngau mawr – maent yn sugno llawer o ddŵr glaw ac yn ei ryddhau dros amser, a gall hyn leihau llifogydd.
Mae mawndiroedd yn bwysig i fywyd gwyllt – maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, gan hybu bioamrywiaeth.
O’r herwydd, hoffem longyfarch sefydliadau ac ymgyrchwyr fel Peat Free Cymru, Jake Rayson, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r unigolion a’r sefydliadau eraill sydd wedi gwneud cymaint i dynnu sylw at broblemau’n ymwneud â defnyddio mawn a’r angen i wahardd yr arfer yng Nghymru.
Hefyd, hoffem ddiolch i Jane Dodds AS am grybwyll y mater hwn ar ein rhan yn y Senedd.
Gair i gloi – mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gynnwys yn y gwaharddiad hwn fawn a ddefnyddir mewn meithrinfeydd planhigion, rhag ofn i’r arfer hwnnw lithro trwy’r rhwyd.
Ond am y tro, dyma newyddion gwych i natur, i’n planed ac i ni.