Dim rhagor o Ffos Y Fran - buddugoliaeth enfawr i'r hinsawdd

Published: 27 Apr 2023

Neithiwr (26 Ebrill 2023) pleidleisiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr yn unfrydol i wrthod cais i barhau i gloddio yng ngwaith glo brig Ffos y Fran tan fis Mawrth 2024.
Rally against Ffos y Fran coal mine on 26 April 2023 (photo courtesy of Kirsty Luff)
Rali yn erbyn pwll glo Ffos y Fran ar 26 Ebrill 2023 (llun trwy garedigrwydd Kirsty Luff)
Photo of Ffos y Fran
Ffos y Fran, ger Merthyr, yw pwll glo brig mwyaf y DU (Creative Commons 4.0 CloudsurferUK)

Mae Ffos y Fran, pwll glo brig mwyaf y DU, i gau ar ôl i gynghorwyr benderfynu’n unfrydol mewn cyfarfod neithiwr (26 Ebrill 2023) i wrthod cais i barhau i gloddio tan fis Mawrth 2024.

Croesawyd ymgyrchwyr yn erbyn y pwll glo i siambr y cyngor ar gyfer y bleidlais, yn dilyn rali tu allan cyn y cyfarfod a drefnwyd gan Coal Action Network.

I drigolion lleol fel Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr, sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddiflino yn erbyn Ffos y Fran ers ugain mlynedd, dyma'r newyddion maen nhw wedi bod yn aros amdano - na fydd ganddyn nhw bwll glo budr, swnllyd ar eu stepen drws.

Ffos y Fran campaigners
Ymgyrchwyr Ffos y Fran mewn rali ar Ebrill 26 2023 (mae Alyson Austin ar y dde eithaf)

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

Photo of Haf Elgar at Ffos y Fran
Haf Elgar, Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru 

“Rydym yn falch ac o’r bleidlais unfrydol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Merthyr i wrthod y cais am fwy o fwyngloddio yn Ffos y Fran.

“Digon yw digon – mae’r gymuned leol wedi dioddef y sŵn a’r llygredd aer ers dros 16 mlynedd. Rydyn ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd ac ni allwn gloddio a llosgi rhagor o lo, y tanwydd ffosil mwyaf budr.

“Dyma neges gref a chlir bod cloddio am lo yn mynd yn groes i bolisïau hinsawdd, cynllunio a glo Cymru ac mae hyn yn gosod cynsail cryf.

“Rhaid atal mwyngloddio ar unwaith, a rhaid i berchennog y cwmni adfer y safle cyn gynted â phosib, er mwyn i’r gymuned leol gael y dyfodol glanach, gwyrddach y maen nhw’n ei haeddu.”

Yn y cyfarfod neithiwr (26 Ebrill 2023) derbyniodd y cynghorwyr argymhelliad swyddogion cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i wrthod y cais, gan ddweud '"na fyddai unrhyw fuddion lleol na chymunedol yn cael eu darparu sy'n amlwg yn drech nag anfanteision yr amgylchedd parhaol niwed i’r datblygiad” ac y byddai’n groes i Bolisi Cynllunio Cymru a pholisi Cymru ar lo.

Mae yna nifer o gwestiynau difrifol iawn a godwyd gan gynghorwyr am ddyfodol y safle, fodd bynnag, sy'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar fyrder.

Mae wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd bellach bod y diwydiant glo yng Nghymru yn dod i ben. Ac yn y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi cael datganiadau cryf gan Lywodraeth Cymru nad yw echdynnu tanwydd ffosil pellach yn gydnaws â'n targedau newid yn yr hinsawdd, sydd wedi'i ategu gan bolisi cynllunio a glo a oedd yn ei gwneud yn glir na ddylid cloddio rhagor o lo yng Nghymru.

Roedd y cais hwn yn anghyson â’r polisïau cenedlaethol hynny, gyda mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â llesiant y gymuned leol, a’n cyfrifoldebau byd-eang fel cenedl.

 

 

 

 

Share this page