Trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr.
Mae angen i Lywodraeth Cymru anelu at o leiaf dyblu’r gyfran o deithiau a wneir ar droed, wrth feicio a chan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rydyn ni angen buddsoddi mewn mentrau teithio actif ac arloesol, treialu trafnidiaeth gyhoeddus rhad ac am ddim, a chyflwyno prisiau teg ar gyfer gyrru mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru er mwyn annog pobl i ddewis ffyrdd mwy gwyrdd ac iach o deithio.
Hoffen ni hefyd leihau ein hallyriadau o hedfan a pheidio â rhoi cefnogaeth gyhoeddus iddo.

Terfynu’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de – ein hymateb
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a Jane Dodds, Aelod o’r Senedd dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y cymhorthdal ar gyfer y cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de yn dod i ben.

Cynigion bysiau trawsnewidiol yn gwneud trafnidiaeth yn decach a gwyrddach
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu papur gwyn Llywodraeth Cymru, ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru’, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 31 Mawrth).Rhagor o wybodaeth

Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn
Ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (Mehefin 2022)
Adolygiad Ffyrdd Cymru
Ein hymateb i Adolygiad Ffyrdd Cymru: adroddiad panel cychwynnol, cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (10 Chwefror 2022)

Llywodraeth Cymru yn rhewi adeiladu ffyrdd newydd – ein hymateb
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw (Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021) y bydd prosiectau adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi.

Cyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd - ein hymateb
Mae'r strategaeth drafnidiaeth hon yn arwydd o ddechrau newydd a chyfeiriad newydd ar gyfer polisi trafnidiaeth yng Nghymru, yn ôl y corff anllywodraethol amgylcheddol.

Polisi Trafnidiaeth Cymru sy'n addas i'r Argyfwng Hinsawdd
Cyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2020, ysgrifennwyd y papur hwn gan Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ac fe'i cefnogir gan Cyfeillion y Ddaear.
Rhagor o wybodaeth

Adroddiad trafnidiaeth newydd gan Cyfeillion y Ddaear Cymru
Dylai fod gan bawb yng Nghymru’r hawl i safonau gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus tebyg i'r Swistir, yn ôl adroddiad newydd gan y cwmni ymchwil Trafnidiaeth er Bywyd o Safon a gomisiynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru