Rhaid i fil tomenni glo Cymru amddiffyn pobl a’r blaned

Published: 7 May 2025

Mae bil i gadw cymunedau’n ddiogel rhag tomenni glo wedi pasio Cam 1 yn y Senedd erbyn hyn, ond rhaid ei ddiwygio i osgoi canlyniadau anfwriadol.
Bedwas tips
Tomenni Bedwas, drwy gwrteisi Buglife

Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn cynnig sefydlu corff cyhoeddus newydd o’r enw “Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru”, a fydd yn gyfrifol am asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni glo i sicrhau “nad ydynt yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd”. 

Ar 29 Ebrill 2025, roedd Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y bil ac (ar adeg ysgrifennu hwn) bydd aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEIC) yn paratoi diwygiadau.

Rydym yn llwyr gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, sydd yn fawr ei hangen. Bu’r broblem o ran tomenni a chwareli peryglus yn adnabyddus yng Nghymru ers degawdau, ac yn enwedig ers trychineb drasig tomen lo Aberfan ym 1966. Cafodd y problemau hyn eu hachosi ymhell cyn datganoli, ond mae’r effeithiau’n barhaus, ac yn cael eu teimlo gan gymunedau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru hyd heddiw. 

Mae digwyddiadau o ran tywydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd yn digwydd yn amlach ac ar lefel fwy eithafol, gan wneud i domenni fod yn fwy ansefydlog nag erioed – fel y gwelwyd yn Nhylorstown yn 2020, yn dilyn Storm Dennis, ac yn fwyaf diweddar, yng Nghwmtyleri’r llynedd. Mae llithriadau tomenni glo’n debygol o ddod yn fwy cyffredin wrth i effaith newid hinsawdd gael ei theimlo’n fwy yng Nghymru a gweddill y byd.  

Ond mae cyflawni’r gwaith angenrheidiol i wneud tomenni glo’n ddiogel yn ddrud. Nid oes gan awdurdodau lleol unigol y capasiti, yr arbenigedd na’r arian a fynnir i wneud hyn ar eu pennau eu hunain, ac nid oes gan yr un corff cyhoeddus yng Nghymru hynny ychwaith. 

Mae tomenni glo’n gyfoeth o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth – pysen-y-ceirw yn nhomen Bedwas (llun drwy garedigrwydd Kirsty Luff)

Y perygl yw, y gellir gwahodd cwmnïau preifat gan gynghorau sy’n brin o arian i gynnig ‘datrysiadau’ ar sail elw ariannol yn sgil clirio a gwerthu’r glo. Yn ogystal â chael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a bywyd gwyllt, gallai hyn arwain at allyriadau a fyddai’n difetha’r hinsawdd. 

Hyd yn oed os mae cwmni’n honni y byddai’r glo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ‘dibenion nad ydynt yn ymwneud ag ynni’, mae allyriadau’n debygol. Er enghraifft, mae glo’n cael ei losgi yn ystod y broses o wneud sment neu frics. A hyd yn oed os bydd cwmni’n honni na fyddai’n cael ei ddefnyddio at ddibenion ynni, unwaith y mae’n cael ei godi o’r ddaear, does dim modd gwybod i le y bydd y glo hwnnw’n mynd yn y diwedd, neu sut y caiff ei ddefnyddio. 

Er enghraifft, mae cwmni o’r enw ERI Reclamation yn cynnig codi 500,000 tunnell o lo o ddwy domen ym Medwas, a’i werthu i’r diwydiant sment, a fyddai’n arwain at greu 1.3 miliwn tunnell o CO2, yn ôl y Coal Action Network.

Fel y nodwyd yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, os bydd y cynnig hwn yng Nghaerffili yn cael ei roi ar waith, fe allai osod cynsail. Yr hyn yr ydym yn ei ofni yw y gallai’r sefyllfa ddatblygu i greu diwydiant glo peryglus newydd – fel y gwelsom o ran mwyngloddio brig, a’i ôl-effeithiau a’i waddol o ran cymunedau a thirweddau mewn degawdau diweddar.  

Ffos y Fran mine, Merthyr Tydfil
Hen fwynglawdd brig Ffos y Fran Merthyr Tudful

 

Yn ei ymateb i Adroddiad Cam 1 CCEIC, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn cyfaddef “Nid yw’r bil yn atal echdynnu neu losgi glo”. Gan ychwanegu na allai “ragweld senario ble byddai echdynnu a llosgi glo’n codi o ganlyniad i’r Bil”. 

Fodd bynnag, mae’r cynnig i gloddio am lo o domenni Bedwas yn dangos bod potensial clir ac arwyddocaol i echdynnu glo o domenni glo am elw, gan y sector preifat, a anogir gan dirfeddianwyr sy’n pryderu am gostau cynnal a chadw parhaus. 

Ac nid yw polisïau presennol yn ddigon cadarn i atal hyn rhag digwydd. Er enghraifft, mae Datganiad Polisi Glo Mawrth 2021 yn nodi y byddai ceisiadau cwbl eithriadol i echdynnu glo yn cael eu hystyried os gallent ddangos pam fod angen echdynnu i “sicrhau bod gwaith cloddio neu adfer safle yn cael eu dirwyn i ben yn ddiogel.” 

Yn ogystal, bydd y gwaharddiad trwyddedu glo, sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, yn methu atal ceisiadau o’r fath gan nad ydynt efallai angen trwydded, dim ond caniatâd cynllunio.

Yng ngolwg hyn, mae’n hanfodol diwygio Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i wahardd echdynnu unrhyw lo er elw masnachol, ar y sail y bydd hyn yn cyfrannu at newid hinsawdd. Ac mae’r Bil yn cydnabod y bydd yn fygythiad cynyddol o ran y perygl o safbwynt sefydlogrwydd tomenni glo yn y dyfodol.

Mae’r bil hwn yn rhoi dewis arall i ni – sef corff cyhoeddus sy’n cymryd camau ataliol i fynd i’r afael â’r tomenni mwyaf ansefydlog, cyn i lithriadau ddigwydd. Ond nid yw hyn ond yn bosib gyda digon o gyllid. 

Ein tomenni glo yw gwaddol diwydiannu yn y cyfnod cyn-datganoli. Yn hytrach na dibynnu ar y sector preifat i wneud ein tomenni’n ddiogel, sydd â’i fryd yn hytrach ar wneud elw, dylai Llywodraeth y DU fod yn ariannu’r gwaith hwn i sicrhau bod diogelwch a lles cymunedau’n cael blaenoriaeth, a bod y tomenni peryclaf yn cael eu blaenoriaethu cyn unrhyw beth arall. 

 

Share this page