Presgripsiynu llai o blastig… o’r diwedd

Published: 16 Dec 2022

Ar 6 Rhagfyr 2022 cymeradwyodd y Senedd Fil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a ddaw i rym yn hydref 2023. Mae’r Bil yn gwahardd amrywiaeth o blastigau untro – mae bagiau plastig untro mewn fferyllfeydd yn awr. ychwanegu at y rhestr.
People in a pharmacy
Llun gan Tbel Abuseridze ar Unsplash

 

Yn unol â’r Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) newydd hwn mae cwpanau polystyren, cynwysyddion bwyd, ffyn cotwm, cyllyll, ffyrc a phlatiau plastig, trowyr diodydd, gwellt a ffyn balŵn bellach wedi’u gwahardd

Lawr lwythwch y rhestr lawn yma.

Nid oedd bagiau plastig untro a ddefnyddiwyd mewn fferyllfeydd wedi'u cynnwys ar y rhestr wreiddiol. Roeddent hefyd wedi eu heithrio ychwanegodd Llywodraeth Cymru dâl am fagiau plastig yn 2010.

Yn 2019 daeth fferyllydd atom i roi gwybod bod nifer o fferyllfeydd yn dal i gyflenwi meddyginiaethau presgripsiwn mewn bagiau plastig untro, hyn pan oedd eraill eisoes wedi symud i rai papur.

Pharmacist doing prescriptions
Photo by Jakayla Toney on Unsplash

Penderfynasom wneud cyfres o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan fferyllfeydd yng Nghymru i ddarganfod yr union sefyllfa. Mae’n debyg nad yw’n syndod i ni dderbyn amrywiaeth o resymau pam na allent roi’r wybodaeth i ni. Ond yr hyn a ganfuwyd oedd bod Fferyllfa Rowlands, er enghraifft, wedi dosbarthu 1,232,276 o fagiau presgripsiwn plastig untro yng Nghymru yn 2017, ac yn y tair blynedd rhwng 2015-2017 wedi dosbarthu cyfanswm o 3,644,280 o’r bagiau hyn.

Felly ni lwyddom i gael darlun cyflawn o gyfanswm y bagiau sy'n cael eu dosbarthu yng Nghymru bob blwyddyn. Ond, o ystyried bod un fferyllfa gadwyn yn gyfrifol am ddosbarthu dros filiwn ohonynt bob blwyddyn, dychmygwn y byddai'r cyfanswm yn amlwg wedi bod yn llawer uwch. 

O ystyried bod y rhan fwyaf o blastigion yn dod o gynnyrch olew, yn ogystal â bod angen delio gyda mwy a mwy o wastraff plastig untro sydd yn ymlwybro yn y pen draw i’r moroedd a’r cefnforoedd, roedd angen inni fynd i’r afael â’r broblem hon.  

Honnodd rhai fferyllfeydd mai preifatrwydd cwsmeriaid gyda’u meddyginiaethau, yn ogystal â diffyg cryfder bagiau papur i gario presgripsiynau meddygol trymach ynddynt oedd y broblem, a dyna pam y dylent barhau i gael eu heithrio. Fodd bynnag, ar ôl i rai fferyllfeydd eraill newid i fagiau papur, doedd y dadleuon hyn ddim yn dal dŵr. Ond eto, roedd bagiau plastig yn parhau i gael eu dosbarthu ar raddfa enfawr.

Yn y cyfamser roedd Boots wedi dechrau rhoi presgripsiynau i gwsmeriaid mewn bagiau papur brown wedi'u hailgylchu, a heb eu lliwio.

Erbyn hyn, roedd hi’n amser i bawb ddilyn y drefn hon.

Daeth ein cyswllt fferyllfa ar ddeall nad problemau yn ymwneud â phreifatrwydd a chryfder y bag oedd wir wrth wraidd hyn, ond yn hytrach y ffordd yr oedd meddyginiaethau yn cael eu paratoi mewn 'canolfannau' oddi ar y safle.  Roedd yn cael ei anfon i fferyllfeydd unigol mewn bagiau plastig, ac roedd y fferyllfeydd wedi gosod offer arddangos a raciau i gynnwys bagiau plastig yn unig, yn hytrach na rhai papur. O ystyried yr angen am gamau llym ar newid yn yr hinsawdd, a’r argyfwng plastig, doedd y naill reswm na'r llall yn ddigon teilwng i warantu eithriadau neu ddiffyg gweithredu parhaus.

Felly pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent yn cyflwyno eu Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) roeddem o’r farn y byddai’n gyfle da i ail ystyried y mater hwn.  

Cyflwynwyd tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd (tudalen 23) a dechreuwyd lobïo.

Ar y 6ed o Ragfyr, 2022, bu’r Senedd yn trafod amrywiol welliannau i’r Bil, a chytunwyd ar yr hyn a gyflwynwyd gan Delyth Jewell AS am fagiau fferyllfa! Diwygiodd Llywodraeth Cymru’r gwelliant ymhellach i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl fagiau plastig untro mewn fferyllfeydd, beth bynnag fo’r rheswm am eu rhoi (i gynnwys, er enghraifft, meddyginiaeth dros y cownter nad yw’n cael ei ddosbarthu fel meddyginiaeth ar bresgripsiwn). Felly mae'r rhain oll bellach wedi'u cynnwys hefyd. 

Seagull paddling in the sea with a crisp packet in its mouth
Ingrid Taylar

 

Er na fydd y newid hwn yn atal yr argyfwng plastig na hinsawdd ar ei ben ei hun, mae angen mynd i’r afael ag ef. Bydd yn arbed ychydig filiwn o fagiau plastig untro rhag cael eu dosbarthu bob blwyddyn, a bydd yn gwella ein henw da yng Nghymru fel rhywle sydd eisiau delio â phroblemau yn ymwneud â phlastig.

Diolch i bawb sydd wedi helpu gyda’n hymgyrch, a diolch hefyd i'n ffrind (fferyllydd) a ddaeth â hyn i'n sylw yn y lle cyntaf. Rhoddodd y brwdfrydedd a'r ysgogiad gwreiddiol i gyflawni'r newid hwn.

Mae dal angen inni ymdrin â phob math o blastig wrth gwrs. Cewch syniadau am sut y gallwch chi helpu ar ein tudalennau Amdani.

 

Share this page