Gwrthod cynnig glo brig olaf Cymru mewn penderfyniad hanesyddol

Published: 15 Sep 2023

Blaenoriaethodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin fyd natur a’r hinsawdd heddiw (dydd Iau 14 Medi), drwy ddweud na i ragor o gloddio glo brig yng ngwaith glo brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin.
Campaigners holding up placards on steps
Ymgyrchwyr yn dathlu y tu allan i Neuadd Sir Gaerfyrddin ar ôl y penderfyniad

Blaenoriaethodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin fyd natur a’r hinsawdd heddiw (dydd Iau 14 Medi), drwy ddweud na i ragor o gloddio glo brig yng ngwaith glo brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin.

Dathlodd tua 50 o bobol leol ac ymgyrchwyr, oedd wedi ymgasglu ar risiau Neuadd Sir Gaerfyrddin cyn y cyfarfod cynllunio i wrthwynebu’r pwll glo, y penderfyniad.

Yn gynharach eleni pleidleisiodd cynghorwyr Merthyr yn unfrydol i roi’r gorau i gloddio yn Ffos y Fran, pwll glo brig arall Cymru, gyda mwyngloddio nawr i ddod i ben fis Tachwedd eleni. Mae’r penderfyniad i atal rhagor o gloddio am lo yng Nglan Lash yn arwydd clir arall bod cyfnod cloddio glo brig yng Nghymru yn dod i ben.

Marsh Fritillary butterly
Byddai ymestyn y pwll wedi bygwth glöyn byw Britheg y Gors sydd mewn perygl (CC BY-SA 4.0, Charles J. Sharp)

Dilynodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin argymhelliad swyddogion y cyngor i wrthod caniatâd am resymau amgylcheddol i warchod ecoleg fregus a bywyd gwyllt gwerthfawr yr ardal gyfagos, yn enwedig Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr. Roedd ymgyrchwyr hefyd yn pryderu am effeithiau hinsawdd posibl y cynnig.

Tra bod gweithredwr y pwll yn honni na fydd y glo’n cael ei losgi, byddai unrhyw glo pellach yn rhyddhau methan niweidiol i’r atmosffer – un o’r prif nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd. Heb unrhyw fecanweithiau cynllunio na chyfreithiol i atal newidiadau yn y defnydd terfynol o’r glo, mae’n bosibl y gallai fod wedi’i losgi ar gyfer ynni neu at ddibenion eraill, a fyddai’n cael effeithiau peryglus pellach ar yr hinsawdd.

Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn dros 800 o wrthwynebiadau gan bobol oedd yn byw yn yr ardal.

Pe bai wedi’i gymeradwyo, gallai hyd at 95,000 tunnell yn fwy o lo fod wedi’i echdynnu o’r pwll glo.

 

Haf Elgar
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Heddiw, gwnaeth Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin y penderfyniad hanesyddol i roi byd natur a hinsawdd yn gyntaf – ac mae ein dyled yn fawr iddynt.

“Trwy ddweud na wrth fwy o lo yng Nglan Lash, y pwll glo brig olaf yng Nghymru, gallwn weld diwedd ar gloddio glo brig yng Nghymru o’r diwedd – ac am byth.

“Mae glo yn rhan o’n treftadaeth, nid ein dyfodol. Rhaid inni ganolbwyntio yn lle hynny ar ynni glanach, gwyrddach a chreu swyddi gwyrdd cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru.”

Magnus Gallie
Meddai Magnus Gallie, arbenigwr cynllunio gyda Chyfeillion y Ddaear

Meddai Magnus Gallie, arbenigwr cynllunio gyda Chyfeillion y Ddaear:

“Rydym yn diolch i gynghorwyr Sir Gaerfyrddin am ddilyn argymhelliad eu cyngor drwy wrthod y cais hwn i gloddio mwy o lo yng Nglan Lash yn Sir Gaerfyrddin.

“Rydym mewn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Fel y mae adroddiad yr ecolegydd yn dangos, byddai cloddio am y glo hwn wedi bod yn fygythiad difrifol i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae cloddio am lo yn niweidiol, hyd yn oed os nad yw’n cael ei losgi, oherwydd mae’n ychwanegu at gyflenwadau byd-eang ac yn rhyddhau methan mwy niweidiol.

“Mae’r cynnig hwn yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, sy’n gwahardd trwyddedu a chaniatáu pyllau glo newydd, ac eithrio mewn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol.’ Gan fod dewisiadau amgen i ddefnyddio glo wrth hidlo dŵr ar gael yn rhwydd, nid yw'r cais yn bodloni'r gofynion polisi llym hyn.

“Gwnaeth y cynghorwyr y penderfyniad cywir heddiw, gan anfon neges gref fod Cymru yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.”

Friends of the Earth local group members

 

Share this page