Aer iach
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Awyr Iach Cymru. Mae gennym 5 blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
1. Strategaeth ansawdd aer gyfansawdd, ar draws y Llywodraeth, sy’n cynnwys:
- Darpariaeth ar gyfer Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol;
- Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol ar Ansawdd Aer, a gadeirir gan Weinidog yr Amgylchedd, sy’n cynnwys arbenigwyr, academyddion a chynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol, awdurdodau lleol a sectorau sy’n llygru’n fawr (fel trafnidiaeth ac egni);
- Ardal Aer Glân sy’n codi tâl i Gaerdydd, efo gorfodaeth ar Gynghorau Abertawe a Chasnewydd i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyflwyno ardal aer glân sy’n codi tâl yn eu hardaloedd;
- Adolygu prosesau adrodd fel bod gofyn i bob awdurdod lleol (ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol/Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) baratoi Cynllun Aer Glân, ar sail data gan y Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol, gyda mesurau rheoli digonol wedi’u hadnabod a’u gweithredu;
- Ymrwymiad y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol, Cynlluniau Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, yn rhoi ystyriaeth i ansawdd aer;
- Gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth Cerdded a Beicio efo targedau i leihau canran y teithiau mewn car preifat; Cronfa Aer Glân sy’n targedu cyllid i’r Awdurdodau Lleol hynny sydd â lefelau llygredd aer sy’n gyson uchel neu ormodol. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i ran-gyllido’r Gronfa hon drwy fesurau fel codi tâl ar draffig, a Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol.
2. Cyflwyno cronfa aer glân
Darparu cyllid wedi'i dargedu ar gyfer yr Awdurdodau Lleol hynny sy'n mynd y tu hwnt i lefelau cyson neu lefelau uwch o lygredd aer. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i ariannu’r gronfa hon yn rhannol drwy fesurau fel codi tâl am draffig a Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol.
3. Cyllido cynghorau
Rhoi cyllid i gynghorau roi hwb i fonitro llygredd tu allan i ysgolion a chanolfannau iechyd/ysbytai, fel bod gan y cyhoedd yr wybodaeth angenrheidiol i amddiffyn eu hiechyd.
4. Gwella monitro llygredd aer ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
Gwella trefn monitro llygredd, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a rhybuddion iechyd i’r cyhoedd, fel bod pobl sy’n byw ym mhob rhan o Gymru yn ymwybodol o lefelau llygredd yn lleol, a sut i leihau’r effaith ar eu hiechyd.
5. Deddf Aer Glân i Gymru a fyddai’n:
- Corffori canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer;
- Gorchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol, pob deng mlynedd;
- Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a gweithredu yn ei erbyn;
- Cyflwyno ‘hawl i anadlu’ ble mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i grwpiau bregus pan fydd lefelau neilltuol yn cael eu torri.
Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru,
“Mae Cymru angen Cynllun Aer Glân clir a chynhwysfawr ac a gefnogir yn ariannol, gan gynnwys Parthau Aer Glân effeithiol er mwyn diogelu pobl rhag llygredd o gerbydau yn ein trefi a’n dinasoedd llygredig. Mae’n rhaid sicrhau system fonitro ansawdd aer gwell yng Nghymru, isadeiledd sy’n galluogi teithio llesol gyda llwybrau cerdded a beicio diogel.
Edrychwn ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Senedd ac arbenigwyr eraill i ddatblygu’r cynigion hyn fel mater o frys.”
Mae cyflwyno Bil Aer Glân newydd yn foment hanesyddol i Gymru
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru ac aelodau eraill o Aer Iach Cymru yn croesawu’r newyddion bod Bil Aer Glân wedi’i gynnwys yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog, a gyhoeddwyd heddiw (pumed o Orffennaf 2022).
Mai pobl ar yr incwm isaf sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig
Dengys gwaith ymchwil newydd gan Gyfeillion y Ddaear, a ryddhawyd gan Awyr Iach Cymru ar y Diwrnod Aer Glân, mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru yw’r rhai sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig.
Mae elusennau yn annog y Prif Weinidog i gyflymu'r Ddeddf Aer Glân
Mae Awyr Iach Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidogion newydd ar y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James a Lee Waters, cyn Diwrnod Aer Glân, yn eu hannog i flaenoriaethu deddfwriaeth aer glân a chyflwyno targedau ansawdd aer uchelgeisiol.
Papur gwyn Deddf Aer Glân - ein hymateb
Yn Ionawr, lansiodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyn aer glân yn nodi cynlluniau ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru
Bydd codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn glanhau aer Caerdydd
Mae Cyfeillion y Ddaear Caerdydd a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu cynlluniau i ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd drwy’r ddinas, fel y nodir ym mhapur gwyn trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, sydd newydd ei gyhoeddi