Tir llygredig - ein hymchwil

Ddiwedd 2024, cyhoeddodd Cyfeillion y Ddaear Cymru a'n rhwydwaith o Grwpiau Gweithredu Lleol geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Gofynnwyd i bob cyngor pa wybodaeth yr oeddent yn ei chadw am safleoedd halogedig a safleoedd a allai fod wedi'u halogi.
Gwnaethom ein hymchwil ein hunain hefyd i ddarganfod pa wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ar wefannau cynghorau ac edrychwyd ar ba astudiaethau a gynhaliwyd yn y gorffennol.
Mae'n bwysig nodi nad ydym yn gwybod yn sicr faint o safleoedd tir halogedig sydd yng Nghymru na faint y maent yn peri risg i'n hiechyd, ond mae'r ymchwil hon yn rhoi syniad i ni o faint y broblem, ac yn dangos bod angen mwy o ymchwil.
Isod mae ein canfyddiadau - yn gyffredinol ac ar gyfer pob awdurdod lleol.