Archwilio etifeddiaeth wenwynig Cymru

Published: 28 Mar 2025

Photo of Hana Khan

Hana Khan
Intern Cyfraith a Pholisi ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon.
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae Hana yn rhannu ei phrofiad o weithio ar yr ymgyrch tir halogedig i Cyfeillion y Ddaear Cymru a'r hyn mae hi wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn dysgu am dir halogedig yng Nghymru, ynghyd â’m tîm yn Cyfeillion y Ddaear Cymru. Mae wedi bod yn agoriad llygad fel rhywun wnaeth dyfu fyny yn Ne Cymru ond nad oedd yn ymwybodol o’r blaen o etifeddiaeth gwaith diwydiannol yn fy ardal leol.

Yn y DU, rydym yn dod yn gynyddol ymwybodol o ganlyniadau niweidiol ein hetifeddiaeth wenwynig, o ganlyniad i nifer gynyddol o straeon yn y cyfryngaudogfennau, podlediadau a dramau dogfen fel Toxic Town ar Netflix. Roeddwn â diddordeb mewn darganfod barn cymunedau lleol yng Nghymru am effaith safleoedd halogedig ar eu bywydau a beth yw’r rhagolygon o ran gwneud yr ardaloedd hyn yn ddiogel a gwneud iawn â’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio.  

Ym mis Chwefror 2025, bu i’m cyd-weithwyr a minnau gwrdd ag ymgyrchwyr lleol yng Nghaerffili i ddysgu mwy am y chwarel ble bu i Monsanto, cyn-gorfforaeth o’r Unol Daleithiau, ollwng cemegau gwenwynig dros hanner canrif yn ôl.

 

Monsanto yng Nghymru

Site of the Monsanto chemical factory in Newport, which is still operating, now owned by Eastman
Safle ffatri gemegau Monsanto yng Nghasnewydd yn 2007. Mae’n parhau i weithredu a bellach yn berchen i Eastman (Robin Drayton / Solutia chemical works / CC BY-SA 2.0)

Dysgais am waith Monsanto yn y diwydiant cemegau i ddechrau yn y brifysgol ble’r oeddwn yn astudio'r foeseg y tu ôl i’w hymgyrch ‘Feed the World’. Fe wnaeth hyn wthio cnydau sydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) fel ateb i brinder bwyd, a oedd Monsanto yn ei feio ar ein poblogaeth gynyddol. 

Fodd bynnag, fe ddangosodd camdriniaeth Monsanto o ffermwyr a methiant cyffredinol bwydydd GM i gynhyrchu’r cnydau sylweddol a addawyd nad y boblogaeth oedd y broblem, ond yn hytrach barusrwydd corfforaethol. Bryd hynny, nid oedd gen i unrhyw syniad bod gan Monsanto bresenoldeb diwydiannol trwm yng Nghymru ddegawdau cyn yr anghydfod ynghylch cnydau GM, gan adael etifeddiaeth o dir halogedig ar ei ôl.  

Agorodd Monsanto ei ffatri gemegau gyntaf yng Nghasnewydd yn 1949 i ehangu gweithrediadau gweithgynhyrchu cynhyrchion cemegol - fel chwynladdwyr sy'n cynnwys sylweddau niweidiol fel Deuffenylau Polyclorinedig (PCBs) - trwy gydol y 1950au a'r 60au.

Cyfeirir at gemegau PCB fel ‘cemegau bythol’, a hynny oherwydd eu natur barhaol yn ein hamgylchedd. Mae hyn yn golygu, er bod cynhyrchiant PCB wedi cael ei wahardd ers degawdau, maent i'w cael o hyd yn ein hamgylchedd. Mae cemegau PCB yn beryglus ar gyfer pobl ac anifeiliaid. Dangoswyd eu bod yn achosi canser ac yn cael effeithiau negyddol ar ein systemau imiwnedd, nerfol ac endocrin.

Defnyddiwyd hen safleoedd chwareli fel Tŷ Llwyd yng Nghaerffili, Maendy a Brofiscin yn Rhondda Cynon Taf, a llawer o rai eraill fel safleoedd gollwng ar gyfer y gwastraff gwenwynig a gynhyrchwyd yn y ffatri hon. Roedd Swyddogion yn Monsanto yn ymwybodol o beryglon eu cynnyrch mor gynnar â 1937, ond fe wnaethant barhau i’w cynhyrchu hyd at 1977. Mae hyn yn golygu bod Monsanto wedi bod yn ymwybodol o’r niwed y byddai gollwng y gwastraff gwenwynig hwn i mewn i hen safleoedd chwarel yn ei wneud i gymunedau lleol - ond parhaodd y cwmni wneud yn union hynny.

Map of PCB sites
Llun trwy garedigrwydd Paul Cawthorne

Yn 2011, daeth swyddogion amgylcheddol i'r casgliad fod gollwng gwenwynau niweidiol o chwarel Brofiscin yn peri risg iechyd sylweddol a bod Monsanto, ynghyd â’r cwmni tanwydd ffosil BP a’r cwmni rheoli gwastraff Veolia, yn gyfrifol am yr halogiad hwn. Yn wreiddiol, gwrthododd y tri chwmni dalu costau adfer (cymryd camau i lanhau'r safleoedd a diogelu pobl neu natur rhag niwed), a oedd yn gyfanswm o £1.25 biliwn. A 3 blynedd yn ddiweddarach pan wnaethon nhw gytuno o'r diwedd i dalu’r gost, roeddent yn parhau i wadu maen nhw oedd yn gyfrifol. Fe wnaeth BP hyd yn oed ymateb i’r Guardian yn dweud na wnaethant ddefnyddio’r chwarel yn uniongyrchol ond eu bod yn gwneud ‘cyfraniad ewyllys da’ tuag at y costau glanhau.

Yn yr Unol Daleithiau, mae Bayer, y cwmni a brynodd Monsanto yn wynebu 'biliynau o gostau i dalu am y llanast gwenwynig sy’n bodoli ers degawdau.' Ym Medi 2024 er enghraifft, daeth Cyngor Dinas Los Angeles i gytundeb â Monsanto am $35 miliwn oherwydd cemegau PCB mewn dyfrffyrdd. Mae hynny’n beth da, ond beth am iawndal i gymunedau yng Nghymru sy’n byw yn agos i domenni gwastraff gwenwynig PCB eraill? Fel y byddwch yn ei weld o’r map uchod, dim ond un o’r tomenni gwastraff PCB yw Brofiscin.

 

 

Cymoedd gwenwynig?

Ty Llwyd quarry in Caerphilly
Chwarel Tŷ Llwyd yng Nghaerffili (llun trwy garedigrwydd Paul Cawthorne)

 

Safle gwastraff PCB arall yw Tŷ Llwyd ym mhentref Ynysddu, a oedd yn destun podlediad gan y BBC gyda Michael Sheen y llynedd.

Mae trwytholch (llygredd hylifol) o’r chwarel hon yn parhau i ddiferu i mewn i afonydd lleol, dŵr daear a phridd, er bod gollwng gwastraff yn y safle wedi dod i ben dros 50 mlynedd yn ôl. Mae posibilrwydd fod y trwytholch o’r chwarel yn mynd i mewn i afonydd Sirhywi ac Ebwy hefyd. 

Yn ystod ein hymweliad â Chaerffili yn Chwefror 2025, fe siaradodd dau gynghorydd lleol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â ni, y cynghorwyr Janine Reed a Jan Jones, ynghylch effaith y gwastraff gwenwynig hwn ar fywydau trigolion a bywyd gwyllt lleol.

Oherwydd ei leoliad daearyddol uwch, mae’r dŵr yn rhedeg i lawr o’r chwarel i Goetir Cymunedol Pant-y-Ffynnon gerllaw. Cyn i bobl leol sylweddoli fod y safle yn wenwynig, byddent yn aml yn mynd â’u plant a chŵn yno i fwynhau prydferthwch naturiol y cwm.

Yn Ionawr 2023, fe wnaeth trwytholch o Tŷ Llwyd ollwng ar y ffordd sy’n torri drwy'r chwarel a’r coetir, ac ym Mehefin y flwyddyn honno, derbyniodd CBSC rybudd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CBSC bellach wedi gosod ffens fetel o gwmpas y safle, Teledu Cylch Cyfyng ac arwydd ‘eiddo preifat’. Mae’r cyngor yn dadlau nad yw’r safle yn cwrdd â’r datganiad o dir halogedig am nad ydynt yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gemegau PCB pan fyddent yn profi’r safle. Yn ôl y cynghorwyr, mae hyn oherwydd “nad yw’r cyngor yn profi yn y lleoedd iawn, ac am nad yw’r profion yn ddigon sensitif.”

Fodd bynnag, fe wnaeth profi gan Greenpeace a Dave Megson, gwyddonydd fforensig o Brifysgol Fetropolitan Manceinion (ar gyfer y podlediad BBC, Buried: The Last Witness (pennawd 6) ddatgelu lefelau peryglus o gemegau PCB. Yn ôl Dr Megson, roedd y sampl pridd o goetir Ynysddu 140 gwaith yn uwch na’r cyfartaledd.

Mae pobl leol yn bryderus bod y chwarel yn cyfrannu at achosion o ganser yn y pentref. Er enghraifft, fe wnaeth un fenyw sôn bod 4 chi o’r un stryd, a oedd yn mynd am dro yn aml yn y coetir, bellach i gyd wedi marw o ganser y pancreas. Yn amlwg, mae hi’n amhosibl profi mai’r chwarel sy’n gyfrifol am y cyfraddau canfyddedig uwch o ganser, ond beth nad oes modd ei wadu yw bod pobl yn poeni. Mae’n bwysig gwrando ar y pryderon hyn ac ymchwilio iddynt.

Gate with writing Pant y Ffynnon Community Woodland
Llun drwy garedigrwydd Janine Reed
Private land keep out site at Panyffynon woodland
Photo courtesy of Janine Reed

Mae’r lluniau uchod yn dangos gwahanol fynedfeydd i’r un coetir cymunedol gerllaw safle Tŷ Llwyd.

Mae effaith gollwng gwastraff gwenwynig yn parhau i fod yn bresennol yn nghyd-gof y gymuned, gyda phreswylwyr yn dod at gynghorwyr a sôn sut roedd y coetir lle’r oeddent yn chwarae yn blant yn edrych fel ‘llyn o jeli trwchus du’ a sut yr oeddent yn teimlo rhyddhad o beidio â mynd yn sownd! Roeddwn wedi fy syfrdanu gan y diffyg gofal ac eglurder gan awdurdodau lleol, nid yn unig o ran anwybyddu cyflwr halogedig y tir ond hefyd eu bod wedi methu â rhybuddio pobl am y peryglon.   

Friends of the Earth Cymru staff meet Caerphilly councillors
Friends of the Earth staff visit councillors in Caerphilly who have been campaigning for a toxic site to be remediated

 

 

Gwneud iawn

Dylai iechyd a lles pobl a bywyd gwyllt fod ein prif flaenoriaeth. 

Mae gan bobl yr hawl i wybod os ydynt yn byw wrth ymyl tir halogedig a dylai bod gan gymunedau sydd wedi’u heffeithio hawl i gael cyfiawnder - mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus, ac yn fater cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. 

Gallai safleoedd tir halogedig peryglus ledled Cymru eisoes fod yn effeithio ar ein hiechyd ac yn niweidio byd natur. Ni ddylai’r gwir aros yn guddiedig.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cymreig senedd y DU alwad am dystiolaeth  ynghylch gorffennol diwydiannol Cymru (darllenwch ein hymateb  yma). Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir o ran mynd i'r afael â degawdau o anghyfiawnder amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol y mae cymunedau wedi’i ddioddef.

Mae’r Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth a ddylai gael ei gyflwyno i’r Senedd eleni yn addo corff llywodraethu amgylcheddol newydd i Gymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i fynd i’r afael â’r mater o dir halogedig, gan gynnwys safleoedd etifeddiaeth, a dechrau unioni pethau. 

 

 

Share this page