Cyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd - ein hymateb

Published: 19 Mar 2021

Mae'r strategaeth drafnidiaeth hon yn arwydd o ddechrau newydd a chyfeiriad newydd ar gyfer polisi trafnidiaeth yng Nghymru, yn ôl y corff anllywodraethol amgylcheddol.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd, a gyhoeddwyd heddiw (19 Mawrth 2021).

Mae'r strategaeth drafnidiaeth hon yn arwydd o ddechrau newydd a chyfeiriad newydd ar gyfer polisi trafnidiaeth yng Nghymru, yn ôl y corff anllywodraethol amgylcheddol.

 

Llun o Haf Elgar
Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae’r Strategaeth Drafnidiaeth, ‘Llwybr Newydd’, yn gyfle newydd i wneud ein system drafnidiaeth yn decach ar bobl a chymunedau ledled Cymru, ac ar y blaned. 

“Bydd defnyddio’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i wneud penderfyniadau yn golygu y bydd teithio egnïol fel cerdded a beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn cael blaenoriaeth dros seilwaith ffyrdd niweidiol. Gobeithiwn y bydd hyn yn atal ffyrdd newydd sy’n niweidio'r hinsawdd rhag cael eu hadeiladu.

Ac mae gosod targed i gael pobl i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gam mawr ymlaen. Hoffem weld y targed mwy uchelgeisiol - dyblu cyfran y teithiau hyn a wneir erbyn 2030 - yn gyrru graddfa a chyflymder y newid hwn, ond rydym yn croesawu ymrwymiad i gadw hyn o dan adolygiad.

“Mae'r sector trafnidiaeth wedi bod yn gyfrifol am gyfran gynyddol o’n hallyriadau, a rhaid i’r argyfwng hinsawdd fod yn flaenllaw a chanolog wrth i benderfyniadau gael eu gwneud o hyn ymlaen er mwyn gwyrdroi’r sefyllfa hon a chreu ffyrdd gwell, mwy gwyrdd a thecach o deithio i bawb ohonom.”

 

Mae'r strategaeth wedi ystyried argymhellion yn yr adroddiad3 a gyhoeddwyd gan Cyfeillion y Ddaear Cymru yr haf diwethaf, a’n hymateb i’r ymgynghoriad, gan gynnwys:

 

  • Ymgorffori’r Hierarchaeth Teithio Cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau am seilwaith, er mwyn blaenoriaethu teithiau egnïol.
  • Targed ar gyfer cynyddu teithio trwy deithio egnïol a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Fframwaith ar gyfer codi tâl teg ar ddefnyddwyr ffyrdd
  • Creu coridorau teithio egnïol diogel rhwng trefi a phentrefi
  • Gosod safonau gwasanaeth bysiau ledled Cymru
  • Cyflwyno polisi er mwyn i bob datblygiad newydd gael darpariaeth ar gyfer cerdded a beicio o’r cychwyn cyntaf.

 

Share this page