Rhaid adfer Ffos y Fran, medd ymgyrchwyr
Published: 28 Nov 2023
Mae Ffos y Fran yn waith glo brig ar gyrion Merthyr Tudful, y mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n anodd dychmygu ei faint heb ei weld gyda'ch llygaid eich hun. Yn agos at gartrefi pobl, mae'n graith enfawr sydd wedi'i naddu i'r dirwedd sydd wedi bwrw cysgod tywyll ar fywydau trigolion fel Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr – maen nhw wedi bod yn ymgyrchu i roi diwedd ar y pwll ers bron i ugain mlynedd.
Roedd y gymuned yn teimlo rhyddhad i ddechrau pan ddaeth y caniatâd cynllunio i gloddio'r safle i ben ym mis Medi 2022. Ond daeth ofn a rhwystredigaeth yn gryfach na’r rhyddhad pan wnaeth y cwmni gais i Gyngor Merthyr i ymestyn y caniatâd hwn, ac yna parhau i godi glo, heb ganiatâd, wrth aros am y canlyniad.
Digwyddodd hyn ar 26 Ebrill 2023 pan benderfynodd Cynghorwyr Merthyr yn unfrydol wrthod eu cais i gael parhau i gloddio.
Roedd yn achos dathlu i'r ymgyrchwyr a'r trigolion oedd wedi ymgynnull gyda phlacardiau a baneri y tu allan i swyddfeydd y cyngor y diwrnod hwnnw. Roedd Chris ac Alyson Austin yn barod i agor y siampên hyd yn oed, ond ar eu hymweliadau dilynol â'r safle, gwelodd y cwpl bod gwaith yn parhau yn Ffos y Fran. Gwelwyd llond tryciau a threnau o lo yn gadael y safle yn rheolaidd.
Yn wyneb y ffaith bod hyn yn amlwg yn torri amodau caniatâd cynllunio, cyhoeddodd Cyngor Merthyr hysbysiad gorfodi ym mis Mai 2023, ond ni chafodd unrhyw effaith. Parhaodd Merthyr Limited i gloddio'r safle.
Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi croesawu'r penderfyniad i gau'r safle, gan fynd mor bell â dweud y byddai gweinidogion yn gweithio i sicrhau bod y tir yn cael ei adfer fel y gellid ei "ddefnyddio eto gan y gymuned leol honno."
Felly, ym mis Mehefin ysgrifennodd Cyfeillion y Ddaear at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac at Gyngor Merthyr yn gofyn iddynt ddefnyddio eu hawdurdod i atal cloddio anghyfreithlon yn Ffos y Fran. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn amharod i gymryd rhan fwy gweithredol i roi diwedd ar y cloddio.
Mewn ymgais i ennill mwy o amser, gwnaeth y cwmni apêl yn y funud olaf yn erbyn gorchymyn gorfodi Cyngor Merthyr, gan gyflwyno apêl i weinidogion Cymru ar 28 Mehefin. Gan y byddai'n cymryd amser i Lywodraeth Cymru ymateb, gallai'r cloddio barhau am chwe mis arall neu fwy o bosib!
Ym mis Gorffennaf, am fod y cwmni'n codi glo proffidiol y tu hwnt i ffin eu trwydded, camodd yr Awdurdod Glo i'r sefyllfa ac ysgrifennu at y cwmni , gan orchymyn iddynt 'roi'r gorau i bob cloddio y tu allan i ardal y drwydded ar unwaith a hysbysu'r Awdurdod bod hyn wedi digwydd.'
Ond ym mis Awst ymatebodd Merthyr (South Wales) Limited trwy gyhoeddi y byddent yn rhoi'r gorau i gloddio ar 30 Tachwedd, a chau'r safle. Mae hyn er gwaethaf y ffaith eu bod yn parhau i gloddio yn anghyfreithlon, a bod ganddynt 2-3 blynedd arall o waith adfer i'w gwblhau ar y safle.
Trwy'r cyfan, mae Chris ac Alyson wedi bod yn gweithio'n ddiflino i egluro'r sefyllfa i weddill y byd a chadw Ffos y Fran yn llygad y cyhoedd, gan ymddangos yn rheolaidd ar y BBC, Sky News, ac ITV, ac yn y papurau newydd, gan gynnwys The Guardian.
Mae ymgyrchwyr hefyd wedi parhau â'u hymdrechion i ddwyn perchnogion Ffos y Fran i gyfrif, gan annog Cyngor Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru i weithredu.
Ym mis Awst, daeth y Rhwydwaith Gweithredu Glo a'r Good Law Project at ei gilydd i lansio cronfa dorf ‘i gael cyfiawnder i'r gymuned leol ac i roi diwedd ar y pwll glo anghyfreithlon hwn', ac mae dros £ 20,000 wedi'i godi hyd yn hyn. Roedd y Rhwydwaith Gweithredu Glo yn barod i fynd i'r llys i gael 'hysbysiad stop‘ gan yr awdurdod lleol i ddod â'r cloddio i ben ac yna i sicrhau bod y safle'n cael ei adfer.
Ym mis Hydref, anfonodd dros 30 o sefydliadau, gan gynnwys y Rhwydwaith Gweithredu Glo, Climate Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru, lythyr agored at Julie James, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd codi glo yng Nghymru (darllenwch am y llythyr agored yma). Ac yn gynharach y mis yma Ysgrifennodd Cyfeillion y Ddaear at Julie James eto, yn galw arnynt i ddefnyddio eu pwerau i atal cloddio anghyfreithlon yn Ffos y Fran.
Ond yr hyn sy'n poeni Chris ac Alyson fwyaf bellach yw y bydd y perchnogion yn cael gadael heb gyflawni eu cyfrifoldeb o adfer y tir, gan adael y gymuned gyda thwll enfawr, hyll a pheryglus o bosib yn y ddaear a fydd yn cael ei adael i lenwi â dŵr ac yn dod yn faich yn hytrach na'r ased cymunedol a addawyd.
“Nid gadael yn unig rydyn ni eisiau iddyn nhw ei wneud. Rydyn ni eisiau iddyn nhw adfer y safle! Fe roddwyd caniatâd i'r cwmni gloddio yma ar yr amod bod y safle'n cael ei adfer yn llawn wedyn a'i drosglwyddo yn ôl i'r gymuned”, meddai Alyson. “Mae'r arwydd wrth y fynedfa yn dweud ‘Cynllun Adfer Tir Ffos y Fran.' Roedd yr ‘adfer’ a addawyd yn golygu dychwelyd y tir i gyflwr gwell y gellir ei ddefnyddio, heb adael llanastr enfawr, erchyll i ni. Rhaid ei adfer, neu bydd yn lle hyll, peryglus, yn hytrach nag amwynder y gallwn ei fwynhau!”
“Mae'n gwneud i fy ngwaed ferwi’ meddai ei gŵr, Chris. “Rydyn ni'n clywed na all y cwmni fforddio adfer y safle, eu bod wedi methu â rhoi arian o'r neilltu ar gyfer hyn dros y blynyddoedd, fel yr oedd yn ofynnol iddyn nhw ei wneud yn ôl y cytundeb. Maen nhw wedi gwneud symiau enfawr o arian dros y blynyddoedd o'r cloddio; ble mae'r cyfan wedi mynd?”
I Chris, egwyddor sydd yn y fantol, “Pa neges mae hyn yn ei hanfon? Y gallwch chi wneud busnes, gwneud arian, a pheidio ag anrhydeddu eich ymrwymiadau er anfantais i'r bobl leol. Y gallwch chi ddal i weithio yn erbyn cyfarwyddiadau uniongyrchol yr awdurdod lleol a'n cynrychiolwyr etholedig heb fath o gosb? Mae'n gosod cynsail ofnadwy. Allwn ni ddim caniatáu iddyn nhw wneud hyn. Nid yr effaith ar ein cymuned ni yma yn unig sy'n achosi pryder, ond ar gymunedau eraill yn y dyfodol.”
Fel y dywed y Rhwydwaith Gweithredu Glo, “Rydym ni wedi bod yma o'r blaen. 10 mlynedd yn ôl gadawodd Celtic Energy Limited bedwar pwll glo. Mae adferiadau sâl yn parhau yn hyllbethau cyhoeddus peryglus.”
Mae Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, yn cytuno gyda Chris ac Alyson.
“Mae'n warthus bod cloddio wedi cael parhau i ddigwydd yn anghyfreithlon yn Ffos y Fran cyhyd, yn erbyn dymuniadau'r gymuned leol, pleidlais unfrydol cynghorwyr, a gan niweidio'r blaned.
“Gobeithiwn bydd y cloddio yn dod i ben nawr a bydd hynny’n ddiwedd ar gloddio glo brig yng Nghymru. Ond dyw hi ddim yn teimlo fel diwrnod i ddathlu – mae gweithwyr yn cael eu gwneud yn ddiwaith yn hytrach na’u cyflogi i adfer y safle a’u cefnogi i ganfon swyddi eraill, ac mae’r holl broses wedi bod yn gymaint o ffars does dim sicrwydd beth fydd yn digwydd nesaf.
“Rhaid i’r cwmni adfer y safle yn llwyr – ac mae’n rhaid i Gyngor Merthyr a Llywodraeth Cymru sicrhau bod hyn yn digwydd, er lles y gymuned leol ac i adfer ffydd yn y system gynllunio.”