Nant Llesg: glofa frig sy’n niweidio’r hinsawdd yng Nghymru yn cael ei wrthod
Published: 20 Sep 2018
Hoelen arall yn arch echdynnu glo DU
Dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru bod hyn yn “fuddugoliaeth hanesyddol” i bŵer pobl:
“Mae hyn yn fuddugoliaeth hanesyddol i bawb sydd wedi gweithio mor ddi-flino i arbed Nant Llesg rhag droi’n lofa frig, ac yn ddiweddglo i flynyddoedd o ymgyrchu gan y gymuned leol.
“Allwn ni ddim parhau i gloddio mwy a mwy o lo – mae’r effeithiau lleol yn ddinistriol ac mae’r effeithiau byd-eang yn ddychrynllyd. Rhaid gadael tanwyddau ffosil yn y tir os ydym am osgoi newid hinsawdd catastroffig.
“Mae glo wedi gweld ei ddydd yng Nghymru – ac mae hyn yn nodi diwedd glofeydd brig newydd.
“Rhad i ni ymafael a chyfleon i adeiladu dyfodol glanach, mwy diogel i ni gyd - drwy ynni adnewyddadwy a datblygiadau cynaliadwy.”
Gan siarad ar ran Cyfeillion y Ddaear Merthyr, llongyfarchodd Alyson Austin bawb a oedd ynghlwm â’r ymgyrch. Dywedodd:
“Mae pobl Cwm Rhymni wedi cael apêl Nant Llesg yn hongian uwch eu pennau fel Cleddyf Damocles am bron i dair blynedd.
“O brofiad personol, gwn sut beth yw byw ger glofa frig. Mae llwch o’r lofa yn haen ar ben bob arwyneb gwastad a gall ansawdd yr aer fod yn wirioneddol ddrwg.
“All geiriau ddim mynegi pa mor falch ac ysgafnach ein calon ydym ni bod cymunedau yn Rhymni, Pontlottyn a Fochriw wedi cael eu harbed rhag y profiad erchyll hwn – maent yn haeddu’r canlyniad hwn.”
Dywedodd ymgyrchwr ynni Cyfeillion y Ddaear, Tony Bosworth:
“Mae heddiw yn ddiwrnod gwych i dde Cymru ac mae’n hoelen arall yn arch echdynnu glo ledled y DU.
“Fis nesaf bydd apêl yn erbyn gwrthodiad caniatâd cynllunio ar gyfer glofa frig ym Mae Druridge yn Northumberland yn cael ei chlywed yn yr Uchel Lys. Mae Cyfeillion y Ddaear yn hapus i sefyll ochr yn ochr â Llywodraeth DU i gefnogi’r penderfyniad hwnnw.
“Glo yw un o’r tanwyddau ffosil mwyaf budr ac mae’n perthyn i’r llyfrau hanes, nid system ynni’r 21ain ganrif. Rhaid i’n dyfodol ynni gael ei seilio ar arbed ynni a phŵer adnewyddadwy – dim mwy o danwyddau ffosil.”
Gweithiodd Cyfeillion y Ddaear gyda Grŵp Gweithredu’r Dyffrynnoedd Unedig (UVAG), ymgyrchwyr a thrigolion lleol i lwyr wrthwynebu’r lofa frig, a gafodd ei gwrthod gan Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Caerffili yn ôl yn 2015.
Cyflwynodd y datblygwr apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio yn dilyn penderfyniad Cyngor Caerffili i wrthod y lofa. Bellach, mae’r apêl wedi’i chau gan yr Arolygiaeth.
Mae Nant Llesg yn ardal o dir agored ar frig Cwm Rhymni. Petai cynlluniau i adeiladu glofa frig yn Nant Llesg wedi mynd rhagddynt, gallai chwe miliwn tunnell o lo fod wedi’i fwyngloddio dros y 14 blynedd diwethaf, er niwed i’r cymunedau lleol a’u hamgylchedd, yn ogystal â’r hinsawdd fyd-eang.