Mae 10,000 o leisiau eisiau i Lywodraeth Cymru weithredu

Published: 26 Oct 2021

Llun o Kirsty Luff

Gan Kirsty Luff
Swyddog Cyfathrebu, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Ddydd Mawrth 19 Hydref, gwnaethom ymuno â Climate Cymru, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a sefydliadau eraill i gyflwyno dros 10,000 o leisiau’n galw am weithredu brys ar newid hinsawdd i Lywodraeth Cymru.

 

Photo of ice heart
Calon enfawr wedi'i gwneud o rew y tu allan i'r Senedd

'Byddwch yn ddewr ac arweiniwch y ffordd,’ dywedodd. ‘Galwch am weithredu go iawn ac amserol, ysbrydolwch a thrafodwch ag eraill yn fyd-eang. Mae llu o farnau cyhoeddus yn gefn i chi, sydd am weld newid go iawn.’

Mae’n symud ymlaen at y galon rew ar ei law dde.

"Mae’r cerflun rhew hyfryd hwn yn symboleiddio’r cariad a deimlwn tuag at ein planed fregus. Mae ein cyfle i amddiffyn y pethau rydyn ni’n eu caru’n brin; nid yw’n barhaol."

Daw deg o bobl, wedi’u dewis i gynrychioli’r lleisiau, i siarad ychydig o frawddegau yn eu tro. Maen nhw’n cynnwys tri o bobl ifanc. Mae’r lleisiau’n trafod llawer o bethau: cyfiawnder hinsawdd, ynni glân, yr economi gylchol, trafnidiaeth gynaliadwy. Mae’n rhestr hir. 

Un o’r lleisiau olaf a glywn yw Haf Elgar, sy’n wyneb cyfarwydd i ni i gyd, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"Mae pobl a natur eisoes yn teimlo effeithiau andwyol newid hinsawdd - boed hynny’n llifogydd, cyfnodau o wres eithafol, llygredd aer neu danau gwyllt. Ond ein cymunedau mwyaf tlawd, yng Nghymru ac ym mhob rhan o’r byd, sy’n dioddef fwyaf. Mae gennym gyfrifoldeb i gymryd camau mawr ar yr hinsawdd er mwyn sicrhau dyfodol teg."

Rydyn ni’n gwybod beth yw’r datrysiadau. Nawr, mae angen i ni drin yr argyfwng hinsawdd a natur fel argyfwng go iawn.

Mae Megan, gwirfoddolwr ifanc Climate Cymru, yn rhoi gwaith celf i Julie James AS,y  Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cyfleu’r lleisiau. Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, yn dweud ychydig eiriau.

"Gwnaethom ddilyn y wyddoniaeth ar COVID’, meddai. ‘Nawr mae angen i ni ddilyn y wyddoniaeth ar newid hinsawdd."

Trafoda Janet Finch-Saunders AS,  llefarydd y Ceidwadwyr Cymru ar yr Amgylchedd, pa mor bwysig yw sicrhau deddf aer glân a thargedau bioamrywiaeth. Yna, mae hi’n troi i grybwyll y lleisiau. "Ni fydd eich lleisiau’n cael eu hanwybyddu."

AS Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, sy’n siarad olaf.

Mae ei eiriau’n ysgogi’r gynulleidfa. "Mae’r galon hon sy’n meirioli’n symbol o’r amser prin sydd ar ôl i fynd i’r afael ag argyfwng hinsawdd. Byddaf yn gwneud fy ngorau i gyfleu’r neges bod pobl Cymru nid yn unig eisiau i lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU wneud mwy, ond yn gynt hefyd. Mae’r amser lle gallwn wneud ychydig a disgwyl gweld gwahaniaeth wedi hen fynd heibio; mae hi’n amser gweld ymrwymiadau uchelgeisiol ac yn bwysicach na dim, yr awydd gwleidyddol i’w gweithredu.”

Fel dywedodd Mari o Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, “mae’r lleisiau a gasglwyd gan Climate Cymru’n arddangos bod cefnogaeth gyhoeddus go iawn yn bodoli i weithredu’n sylweddol ar yr hinsawdd yng Nghymru.

“Rhaid manteisio ar y cyfle hanfodol hwn i weithredu ac amddiffyn yr hyn rydyn ni’n ei garu.

"Mae llawer o bethau yn y fantol - ein bywydau a’n bywoliaeth yma yng Nghymru, dyfodol bioamrywiaeth gyfoethog ein planed fregus a dyfodol y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng hinsawdd yn y gwledydd mwyaf tlawd, sy’n cyfrannu leiaf ato.

"Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun Sero Net. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i wrando ar y lleisiau hyn a chyhoeddi cynllun yn unol â’r wyddoniaeth hinsawdd ac egwyddorion cyfiawnder a chyfrifoldeb."

 

 

 

 

Share this page