Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - ein hymateb

Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru ac yn credu bod Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn gam hanfodol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, gynhwysol a hygyrch, gan alluogi newid moddol a lleihau allyriadau carbon a llygredd aer yng Nghymru.
Mae gwasanaethau bws wedi dirywio’n sylweddol yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda thoriadau o dros 50% yn nifer y teithiau bws. Dangosodd ymchwil gan Gyfeillion y Ddaear a Phrifysgol Leeds fod gwasanaethau wedi dirywio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Er mwyn gwrthdroi’r dirywiad hwnnw mae Cyfeillion y Ddaear yn argymell dau newid arwyddocaol – rheoleiddio, a mwy o gyllid. Mae’r cynnig hwn yn bodloni’r cyntaf o’r newidiadau hynny, ond mae angen cyllid ychwanegol hefyd.