Dros 45,000 o safleoedd tir halogedig posibl ledled Cymru

Published: 1 Sep 2025

Nododd ein hymchwil dros 45,000 o safleoedd tir halogedig posibl ledled Cymru. Gallai'r etifeddiaeth gudd hon beri bygythiadau difrifol i bobl, dŵr a bywyd gwyllt.
Chwarel Ty Llwyd yng Nghaerffili, llun trwy garedigrwydd Paul Cawthorne

Gwelwch ein canfyddiadau a methodoleg

Fe wnaethon ni adolygu data amgylcheddol sydd ar gael yn gyhoeddus, ac ynghyd â'n rhwydwaith o ymgyrchwyr lleol, fe wnaethon ni gyflwyno ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru, gan ofyn iddyn nhw ryddhau eu cofrestr o dir halogedig.

Ymatebodd 18 allan o 22 cyngor i gais Rhyddid Gwybodaeth yfeillion y Ddaear Cymru. Datgelodd eu hymatebion, ynghyd â'n hymchwil ein hunain, 45,157 o safleoedd halogedig posibl – gan nad ymatebodd pob cyngor, gallai'r ffigur gwirioneddol ledled Cymru fod yn uwch.

Mae ein hymchwiliad yn canfod:

  • Dros 45,000 o safleoedd tir halogedig posibl yng Nghymru sydd ddim yn cael eu harchwilio’n llawn
  • Dim ond 82 o safleoedd yng Nghymru wedi cael eu dynodi'n swyddogol fel rhai halogedig
  • Dim ond chwech allan o 22 cyngor sy'n darparu cofrestr gyhoeddus llawn ar-lein
  • Mae gan 15 o gynghorau strategaeth arolygu, ond dim ond pedwar sydd wedi’i  diweddaru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae un yn dyddio'n ôl i 2002

Dywedodd 4 cyngor nad oedd ganddynt gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd wrth ymgyrchwyr eu bod wedi nodi safleoedd a ddylai ymddangos ar un. Nododd un cyngor ar ei wefan nad oedd wedi nodi unrhyw dir halogedig, ond eto datgelont 18 safle o halogiad tebygol i Gyfeillion y Ddaear, gan nodi nad oedd ganddynt yr arian i ymchwilio i'r rhain yn llawn.

Mae hyn yn gadael y cyhoedd heb fawr ddim gwybodaeth, os o gwbl, am ddiogelwch tir a allai fod o dan gartrefi, ysgolion, parciau ac ardaloedd natur. Credir bod llawer o'r safleoedd hyn yn etifeddiaeth o orffennol diwydiannol Cymru, ond mae'r risgiau i iechyd pobl a bywyd gwyllt yn parhau i fod yn anhysbys.

Dywedodd Kirsty Luff, llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru: 

“Rhaid inni sicrhau bod y tir o dan ein traed yn ddiogel i bobl a bywyd gwyllt. Mae'n syfrdanol y gallai cymaint o dir fod wedi'i halogi ac eto nid yw'n cael ei archwilio'n iawn.

“Mae pobl yng Nghymru yn haeddu gwybod a yw’r llefydd lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn rhydd rhag llygredd. Heb archwiliad priodol, mae'r safleoedd hyn yn parhau i fod yn ddirgelwch – etifeddiaeth wenwynig gudd o'n gorffennol diwydiannol a allai fod yn niweidio cymunedau heddiw.
 
 “Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gynghorau nodi ac asesu tir halogedig, ond nid oes ganddyn nhw’r cyllid, yr adnoddau na’r gefnogaeth wleidyddol i wneud y gwaith. Dyna pam rydym yn galw am ymchwiliad cyhoeddus a chamau brys gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

“Ni ddylid anwybyddu’r mater hwn – po hiraf yr oedi, y mwyaf yw’r risg i’n hiechyd, yr amgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol.”

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i raddfa ac effaith tir halogedig yng Nghymru. Maent yn annog gweithredu ar y cyd gan lywodraethau Cymru a'r DU i roi'r cyllid a'r adnoddau i gynghorau i nodi, asesu ac adfer safleoedd halogedig.

Share this page