Ymunwch â grŵp gweithredu lleol

Ymunwch â grŵp gweithredu lleol Cyfeillion a Ddaear Cymru
O greu cynefinoedd bywyd gwyllt a gerddi cymunedol, i gadw cymunedau’n ddiogel rhag ffracio a llosgwyr gwastraff, mae grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru ers 30 mlynedd.
Ymunwch â ni, ac efallai y cewch eich synnu gan faint o hwyl y gall fod hefyd - yn sicr, cewch groeso mawr beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordebau. Byddwch yn cyfarfod ag arbenigwyr a selogion, a digon o bobl gyffredin, yn gwneud eu rhan ar bopeth o newid yn yr hinsawdd ac ynni glanach, i fwyd mwy diogel a byd naturiol iachach.
Trwy ymuno â rhwydwaith fwyaf y byd o ymgyrchwyr gwyrdd, byddwch yn teimlo, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud newid parhaol gwirioneddol.

Dechreuwch grŵp lleol eich hyn!
Methu dod o hyd grŵp yn eich ardal chi? Yna gadewch i ni newid hynny ! Beth am sefydlu eich grŵp eich hun ac ysbrydoli eraill yn eich ardal i ymuno!
Dydych chi byth ar ben eich hun, gan y byddwn yn eich helpu i gael ar eich traed a'ch helpu i ddechrau eich grwp eich hun. Cyn i chi ei wybod, byddwch yn brysur yn ymgyrchu a gwneud newidiadau er gwell yn eich ardal.
Cysylltwch a Julian Rosser neu Elsa Pullman am fwy o wybodaeth, cymorth a chyngor.

Sut y bu i Gaerffili elwa ar Goedwig Fach
Mae Lynn Gazal, mam llawn amser ac ymgyrchydd amgylcheddol a Terry Gordon, peiriannydd Geodechnegol wedi ymddeol, yn adrodd yr hanes sut y daeth grŵp cymunedol â Choedwig Fach i'w parc lleol yn ystod Pandemig Covid-19 a rhai pethau a ddysgont ar hyd y ffordd.

Ymgyrchwyr Ifanc o Gymru yn gwrthod gwobr
Mae Cyfeillion y Ddaear Ifanc Pontypridd wedi gwrthod gwobr gan y cyngor am iddynt beidio gwneud digon i ddelio â newid yn yr hinsawdd.

Friends of the Earth groups win award
Torfaen and Ruthin won People’s Postcode Lottery Earthmovers Award for environmental activism.
Find out more