Cymru Sero Net - ein hymateb

Published: 2 Nov 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynllun ar gyfer lleihau allyriadau sy’n ddinistriol i’r hinsawdd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf (2021-5) - darllenwch ein hymateb.
Picture of Haf Elgar
Haf Elgar, Director of Friends of the Earth Cymru

Gan ymateb i'r cynllun Cymru Sero Net, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"A hwnnw wedi'i gyhoeddi yn yr wythnos cyn Trafodaethau'r Hinsawdd yn Glasgow, mae'r cynllun hwn yn gychwyn gobeithiol.

"Rydym yn croesawu'r ymdeimlad o argyfwng sy'n cael ei fynegi. Mae'r cynllun yn pwysleisio mai dim ond 'degawd o weithredu' ar yr argyfwng hinsawdd sydd gennym – mewn gwirionedd, mae'r wyddoniaeth yn dangos mai dim ond y rhai blynyddoedd nesaf sydd gennym i roi newidiadau ar waith i leihau ein hallyriadau ac osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. A rhaid gwneud y newid hwn yn deg a chyfiawn ar gyfer pobl, cymunedau a natur.

"Mae rhan helaeth o'r cynllun hwn yn dwyn ynghyd polisïau sydd eisoes yn bodoli. Ond da yw gweld rhagor o ymrwymiadau mewn sectorau allweddol, megis trafnidiaeth, gwastraff, cartrefi a diwydiant. Er enghraifft, targed uwch ar gyfer teithio llesol a rhagor o fesurau mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, targed i atal gwastraff pydradwy rhag mynd i safleoedd tirlenwi yn llwyr erbyn 2025, a strategaethau i ddilyn ar gyfer datblygu diwydiant pren yng Nghymru, cynhesu ein tai a chynllun gweithredu sgiliau gwyrdd.

"Ond mae cyfleoedd yr ydym yn eu colli hefyd – er enghraifft, sicrhau nad yw cronfeydd pensiwn cyhoeddus yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil bellach, a rhoi diwedd ar y cymorthdaliadau i'r hediadau rhwng y gogledd a'r de.

"Nid yw'r cynllun yn trafod sut allwn leihau effaith amgylcheddol yr hyn rydyn ni'n ei ddefnyddio ychwaith. Oherwydd, yn ogystal â'r allyriadau yr ydym yn eu cynhyrchu yng Nghymru, rhaid i ni gael cynllun ar gyfer lleihau'r effaith yr hyn yr ydym yn ei fewnforio a'i ddefnyddio yng Nghymru, er enghraifft, bwyd, ffasiwn a deunyddiau adeiladu. Mae gennym gyfrifoldeb byd-eang i leihau ein heffaith ar weddill y byd, yn ogystal â chyflawni sero net cyn gynted â phosibl.

"Mae'n werth cofio bod ardaloedd sy'n gyfrifol am allyriadau sylweddol, megis diwydiant, ynni a phŵer hefyd yn dibynnu ar weithredu neu gyllid gan Lywodraeth y DU, a bydd hyn yn her enfawr yn ystod y blynyddoedd nesaf."

"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r cynllun hwn yn ddigon ar ei ben ei hun, ei fod yn giplun o amser a bydd rhaid i ni i gyd wneud mwy. Rydym yn gobeithio y bydd Gweinidogion yn mynychu trafodaethau hinsawdd Glasgow er mwyn dysgu gan eraill ledled y byd beth arall allwn ni ei wneud. Ac y byddant yn dysgu gan y prosiectau arbennig sy'n digwydd yng nghymunedau ledled Cymru, ac yn gwrando ar y miloedd o leisiau sy'n fodlon cyfrannu a chwarae ein rhan i gyflawni sero net cyn gynted ag y gallwn."

 

Share this page