Mae cynnig Ffos y Fran yn ‘fradychiad’ meddai ymgyrchwyr lleol
Published: 23 May 2025

Mae Merthyr (South Wales) Ltd, perchennog pwll glo brig Ffos y Fran, wedi gwneud cais i Gyngor Merthyr i ddiwygio cynllun adfer y safle cyn lleied â phosibl.

Pe bai Cyngor Merthyr Tudful yn cytuno i’r cynllun ‘adfer’ diwygiedig a gyflwynwyd gan y cwmni, byddai cymuned Merthyr yn cael ei gadael gyda thomenni rwbel glo a thwll dwfn peryglus, o bosibl yn llawn mwyd a dŵr heintiedig, llethrau rhydd, a fyddai’n beryglus i drigolion, yn arbennig plant a phobl ifanc, ymhell i’r dyfodol.
Ysgrifennodd dros 200 o bobl eu gwrthwynebiad i’r cynnig adfer sydd wedi ei israddio’n sylweddol, ar gardiau post, yn ystod sawl digwyddiad ymgysylltu cymunedol yng nghanol tref Merthyr fis diwethaf (Ebrill 2025).

Ymunodd Chris ac Alyson Austin, trigolion ac ymgyrchwyr lleol ers blynyddoedd, gyda staff o Gyfeilion y Ddaear Cymru i roi’r cardiau post i staff Cyngor Merthyr Tudful.
“Mae bron pawb yr ydym wedi siarad â hwynt yn credu y dylai’r pwll gael ei adfer yn llawn, fel yr addawyd i ni yn wreiddiol,” meddai Alyson. “Pan siaradom â phobl ym Merthyr, roedden nhw’n dweud wrthym, dro ar ôl tro, fod y cwmni wedi cael y glo, ac yn awr mae’n rhaid iddo gau’r twll! Nid ydynt am weld y gwaith adfer rhad ac annymunol yma, a fydd o fudd i’r cwmni mwyngloddio’n unig, ac yn fradychiad terfynol i drigolion Merthyr.”
“Mae’r cynnig yn cael ei gyflwyno fel opsiwn y byddai’r amgylchedd yn elwa ohono, ond mae’n hollol amlwg mai’r cwmni ei hun fydd yr unig un yn elwa,” meddai Chris Austin, a gafodd ei synnu pa mor gryf oedd y gwrthwynebiad lleol i’r cynllun. Aeth yn ei flaen i esbonio fod “hyn yn torri pob addewid a gawsom, y gymuned yr effeithiwyd arni, sydd â dim i’w elwa o’r cynllun hwn. Gorfodwyd y cynllun adfer tir hwn ar gymuned Merthyr yn wreiddiol, oherwydd dywedwyd wrthym fod y tir yn beryglus ac wedi’i esgeuluso a bod yn rhaid ei adfer. Yn awr, wedi dioddef 17 mlynedd o fwyngloddio glo brig ar ein carreg drws, rydym yn cael ein gadael gyda thir peryglus sydd wedi’i esgeuluso yn ogystal â thomenni rwbel anferthol o’r newydd.”
Wrth i’r cyngor ystyried y cais, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru ac ymgyrchwyr eraill wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ail-ystyried y cais adfer diwygiedig.
O ystyried arwyddocâd cenedlaethol y cais hwn, yn nhermau’r effaith ar y gymuned a’r amgylchedd, a pha mor ddadleuol ydyw, credwn ei bod yn hanfodol bod y cais hwn yn cael ei graffu, a’r penderfyniad yn cael ei wneud gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.