Ynglŷn â Chyfeillion y Ddaear

Sefydlwyd Cyfeillion y Ddaear Cymru ym 1984, 13 mlynedd ar ôl sefydlu Cyfeillion y Ddaear yn y DU ym 1971, i ganolbwyntio ar ymgyrchu yng Nghymru ar faterion amgylcheddol. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymroddedig i hyrwyddo'r amgylchedd a hybu dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Staff Cyfeillion y Ddaear Cymru

 

Rydym yn dîm bach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n:

  • rhan o sefydliad ymgyrchu amgylcheddol mwyaf dylanwadol y DU,
  • sy’n rhan o’r rhwydwaith amgylcheddol mwyaf helaeth yn y byd,
  • sy’n cynnwys dros 75 o sefydliadau cenedlaethol ar draws pum cyfandir ac yn cefnogi rhwydwaith unigryw o grwpiau lleol sy’n ymgyrchu mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn dibynnu ar unigolion am dros 90 y cant o’i incwm

 

Rydym wedi ymgyrchu dros Gymru wyrddach a thecach ers 1984. Darganfyddwch ein hanes a'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd.

Gwyliwch ein fideo yn troi yn 40

 

 

Ble ydyn ni

Cyfeillion y Ddaear Cymru

C12

12 Heol y Gadeirlan

Caerdydd, CF11 9LJ

Ffôn

02920 229577

E-bost

[email protected]

Cyfryngau cymdeithasol

Dilynwch ni ar  Twitter, Facebook, Instagram and Bluesky

Share this page