Ymgyrchu dros Gymru wyrddach a thecach ers 1984

Published: 16 Dec 2024

Ers pedwar degawd bellach, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi codi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â natur, yr hinsawdd a’r amgylchedd, ochr yn ochr â’n rhwydwaith ysbrydoledig o ymgyrchwyr llawr gwlad.

Mae pen-blwydd ein mudiad yn 40 oed yn cynnig cyfle i edrych tua’r dyfodol yn ogystal â chael cipolwg tuag yn ôl. Mae ein planed a’n gwlad yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen. Fel mudiad amgylcheddol ac fel gwlad, ar beth ddylen ni ganolbwyntio dros y blynyddoedd nesaf er mwyn esgor ar y gwahaniaeth mwyaf?

 

 

Pwy ydym ni?

 

Rydym yn griw bach o bobl sy’n cynorthwyo ac yn gweithio gyda rhwydwaith o grwpiau gweithredu lleol gwirfoddol Cyfeillion y Ddaear, a hefyd mae gennym gefnogwyr ledled Cymru. Ein cenhadaeth yw ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n gwlad.

Rydym yn rhan o fudiad ehangach, sef Cyfeillion y Ddaear Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd, yn ei dro, yn rhan o Gyfeillion y Ddaear Ewrop a Chyfeillion y Ddaear Rhyngwladol – sef ffederasiwn amgylcheddol llawr gwlad mwyaf y byd, a chanddo fwy na 70 o aelod-grwpiau cenedlaethol ledled y byd.

Yn aml, rydym yn gweithio gydag ymgyrchwyr a sefydliadau eraill, yn ogystal â phobl a grwpiau o blith amrywiaeth eang o sectorau.

 

Kenfig Nature Reserve at Sunset in March 2003 by Robert Coorigan (Creative Commons)
Machlud haul yng Ngwarchodfa Natur Cynffig ym mis Mawrth 2003 gan Robert Coorigan (Creative Commons)

 

 

How it all began

Ym 1981, rhoddodd Margaret a Robert Minhinnick ddwy ymgyrch ar waith i ddiogelu dau safle ger eu cartref, sef Gwarchodfa Natur Cynffig a Merthyr Mawr.

Ar ôl llwyddo i achub y ddau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), lansiodd y ddau Cyfeillion y Ddaear Cymru ym 1984. Gwnaed hynny mewn ymateb i gais gan Jonathan Porrit, sef Cyfarwyddwyr Cyfeillion y Ddaear ar y pryd, a fynychodd y lansiad yng Nghaerdydd.

Friends of the Earth campaigning against acid rain
Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ymgyrchu yn erbyn glaw asid yn y 1980au

Fel yr esbonia Margaret, “roedd ein hymgyrch gynaf yn herio holl awdurdodau lleol Cymru i ymateb o ddifrif i’r ‘Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad’ i ddiogelu ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Digwyddodd hyn i gyd cyn bodolaeth e-bost, y rhyngrwyd a ffonau symudol.”

Rhoddodd Margaret a Robert gyfarwyddyd i argraffwyr lleol ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu, gan ofyn i wirfoddolwyr lenwi amlenni a glynu stampiau.

“Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn fudiad cenedlaethol erbyn hyn,” medd Margaret, “ond arferai weithredu o ystafell wely ym Mhorthcawl – rhif ffôn Porthcawl 5185. Dechreuodd y ffôn ganu ddydd a nos ynglŷn â phopeth dan haul.”

 

40th anniversary celebration at the Senedd
O’r chwith i’r dde: Gordon James, y Cyfarwyddwr blaenorol, Llŷr Gruffydd, Aelod o’r Senedd a Margaret Minhinnick, Cyd-sylfaenydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, yn y Senedd yn dathlu 40 mlynedd o Gyfeillion y Ddaear Cymru, Tachwedd 2024

 

 

Y blynyddoedd cynnar

Daeth ein mudiad yn ganolfan i ymgyrchwyr amgylcheddol yng Nghymru. Yn y 1980au, roedd gennym rôl hollbwysig o ran codi ymwybyddiaeth o broblemau’n ymwneud â glaw asid, gan helpu i leihau allyriadau llygrol yng Nghymru.

Hefyd, roeddem yn un o’r mudiadau cyntaf i hyrwyddo’r arfer o ailgylchu, gan helpu i drawsnewid agweddau a pholisïau. Erbyn hyn, mae Cymru yn un o’r gwledydd gorau drwy’r byd am ailgylchu.

Yn y 1990au, ochr yn ochr â rhwydwaith o grwpiau lleol a oedd yn prysur ddatblygu, buom yn gweithio gydag ymgyrchwyr lleol i gasglu tystiolaeth am ddamwain olew y Sea Empress, gan helpu i baratoi achos cyfreithiol. Roeddem wrth ein bodd pan ysgwyddodd Asiantaeth yr Amgylchedd yr achos a llwyddo i erlyn Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ym 1999.

Ar yr un pryd, roeddem yn gweithio gyda Chyfeillion Bae Ceredigion i ddiogelu’r cynefin morol toreithiog hwnnw, gan orfodi llywodraeth y DU i fynnu y dylid cynnal asesiadau o’r effaith amgylcheddol ar gyfer drilio am olew a nwy yn holl ddyfroedd y DU.

People holding posters clean up sea empress and high pictures of affected birds

 

Ein datblygiad fel mudiad

Yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain buom yn ymgyrchu o blaid ffermio ecogyfeillgar ac yn erbyn tyfu cnydau wedi’u haddasu’n enetig yng Nghymru, a llwyddwyd i ennill cefnogaeth unfrydol Cynulliad Cymru, fel yr oedd ar y pryd.

Hefyd, buom yn ymgyrchu dros fwyd lleol ac ynni adnewyddadwy, gan chwalu mythau ynglŷn ag ynni gwynt a herio’r rhai a oedd yn gwadu bodolaeth newid hinsawdd.

Ar ôl ein lobïo parhaus ac yn fuan ar ôl cytundeb COP Paris, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth yn ymrwymo y byddai Cymru yn lleihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr, ac roedd y cynlluniau gweithredu dilynol yn cynnwys nifer helaeth o’n hargymhellion.

Ledled Cymru, bu grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear yn arwain yr ymgyrch dros godi tâl am fagiau siopa untro, ac aeth nifer o grwpiau ati i gynhyrchu eu bagiau brethyn amldro eu hunain i’w rhoi i siopwyr yn eu cymunedau. Hefyd, llwyddwyd i atal safle enfawr ar gyfer llosgi gwastraff rhag cael ei adeiladu, trwy weithio gyda chymunedau lleol ym Merthyr a Chwm Rhymni.

Fe wnaethom lwyddo i ymgyrchu dros gyflwyno Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer Pryfed Peillio, a rhoddwyd ein cynllun Caru Gwenyn ar waith – sef y cynllun ymarferol cenedlaethol cyntaf ar lefel y gymuned i helpu gwenyn a phryfed peillio.

Community rallies against an incinerator being built.
Yn 2011, llwyddodd cymunedau Merthyr a Chwm Rhymni i roi stop ar adeiladu safle enfawr ar gyfer llosgi gwastraff

 

Yn fwy diweddar

Dros y deg mlynedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda chymunedau i wahardd ffracio, yn ogystal â pherswadio cronfeydd pensiwn i roi’r gorau i fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn y diwydiant tanwyddau ffosil ac ymgyrchu ochr yn ochr ag eraill i roi stop ar gloddio glo yn Nant Llesg, Ffos y Frân a Glan Lash.

 

Celebrating after councillors said no to mining more coal at Glan Lash in September 2023
Dathlu ar ôl i gynghorwyr ddweud na ddylid cloddio am ragor o lo yng Nglan Lash, Medi 2023

Ar ôl degawdau o ymgyrchu gan gymunedau ac ymgyrchwyr unigol, cafwyd llwyddiant pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru foratoriwm ar adeiladu safleoedd llosgi newydd yng Nghymru. Ers amser maith, rydym wedi ymgyrchu dros sicrhau y bydd Cymru yn wlad ddiwastraff ac rydym wedi cefnogi’r syniad o gael gweledigaeth ‘economi gylchol’ ar gyfer Cymru.

Hefyd, rydym wedi helpu i lunio polisïau a deddfwriaethau arloesol, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r strategaeth ‘Mwy nag Ailgylchu’ yn cynnwys nifer o bethau y buom yn galw amdanynt ers tro byd; a gwelir bod strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, sef ‘Llwybr Newydd’, wedi derbyn nifer o’r argymhellion a gynhwyswyd yn ein hadroddiad ar drafnidiaeth. Gydag Awyr Iach Cymru, fe wnaethom helpu i sicrhau deddfwriaeth hollbwysig yn ymwneud ag aer glân. A thrwy weithio fel aelod o gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rydym wedi ymgyrchu dros flaenoriaethu effeithlonrwydd ynni cartref a sicrhau cartrefi cynnes i bawb. 

 

Y sefyllfa bresennol

Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw’r problemau mwyaf taer sy’n wynebu ein planed.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod mwy na miliwn o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid mewn perygl o ddiflannu. Mae llygredd plastig yn ei holl ffurfiau wedi arwain at drychineb wirioneddol fyd-eang – mae modd dod o hyd i ficroblastigau a nanoblastigau ym mhob rhan o’n planed, ac erbyn hyn maent i’w cael hefyd mewn meinwe dynol. 

 

Aberystwyth sea front
Y ffrynt yn Aberystwyth

2023 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi erioed – sef 2.12 gradd yn uwch na’r ugeinfed ganrif. Mae tywydd poeth, sychder, newyn, tanau gwyllt a llifogydd yn fwyfwy cyffredin ac maent yn digwydd yn amlach nag y rhagwelwyd. Mae gwyddonwyr, hyd yn oed, wedi synnu bod ein hinsawdd yn chwalu mor gyflym; a phe baem yn cyrraedd pwyntiau tyngedfennol o ran yr hinsawdd, fe allai hynny arwain at chwalfa amgylcheddol hunanbarhaol.

 

Beth ydym yn ei wneud nawr?

Rydym wedi bod yn ymgyrchu ers mwy na phedwar degawd, ond mae gennym lawer mwy o waith i’w wneud. Dyma rai pethau rydym yn canolbwyntio arnynt nawr.

Rydym yn gweithio’n galed i roi stop ar gloddio glo, gan sicrhau cyfiawnder i gymunedau

Ar y cyd â’n grwpiau lleol, rydym yn parhau i ymladd dros gyfiawnder ac atebion o ran yr hinsawdd a’r amgylchedd er mwyn helpu ein pobl a’n planed. Ar hyn o bryd (Rhagfyr 2024), rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol i roi stop ar gloddio glo yng Nglan Lash a sicrhau y bydd hen safleoedd diwydiannol fel Ffos y Frân yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael eu hadfer.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol trwy ymrwymo i ddyfodol heb danwyddau ffosil ar gyfer Cymru. Serch hynny, mae polisi glo Llywodraeth Cymru yn nodi y caniateir cloddio am lo mewn “amgylchiadau eithriadol” – man gwan y gall cwmnïau sy’n dinistrio’r hinsawdd fanteisio arno. Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd cloddio am lo.

Rydym eisiau sicrhau y bydd safleoedd â gwaddol diwydiannol yn cael eu gwneud yn ddiogel ac yn cael eu hadfer

Rhaid sicrhau bod cymunedau sy’n byw ger tomenni glo yn ddiogel. Cynllun a reolir ac a ariennir yn gyhoeddus yw’r ffordd orau o sicrhau diogelwch pobl. Rhaid i Lywodraeth y DU roi digon o arian ar gyfer gwireddu hyn. Sicrhau diogelwch yw’r peth pwysicaf, ond ni all gwaith cyweirio fod yn esgus dros atgyfodi’r diwydiant glo, gan arwain at niwed i natur, i’r hinsawdd ac i gymunedau.

Rydym eisiau helpu i ddiogelu cymunedau rhag tir halogedig

Mae’r effaith a gaiff tir halogedig, ‘cemegau am byth’ a gwastraff gwenwynig ar iechyd pobl a bywyd gwyllt yn bryder cynyddol ymhlith y cymunedau dan sylw. Rydym yn dechrau gweithio gydag ymgyrchwyr ac rydym eisiau cynorthwyo cymunedau i weithredu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Senedd a Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth ar lywodraethu amgylcheddol yn addas i’r diben. Mae’n bwysig i bobl gael gwybod a ydynt yn byw wrth ymyl tir halogedig neu lygredd o fath arall a allai effeithio ar eu hiechyd a’u hamgylchedd. Ac os ydynt o’r farn bod hynny effeithio’n uniongyrchol arnynt, rhaid iddynt allu gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Rydym eisiau lleihau llygredd niweidiol na ellir ei weld

Mae diogelu pobl a bywyd gwyllt rhag llygredd wastad wedi bod yn bwysig inni. Mae rhai o’n hymgyrchoedd presennol yn canolbwyntio ar lygredd na ellir ei weld – yn yr aer, y dŵr a’r pridd. Ochr yn Ochr ag Awyr Iach Cymru, rydym yn parhau i ymgyrchu dros sicrhau bod yr aer a anadlwn yn lân ac yn iach a bod y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer aer glân yn gryf ac y caiff ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.

Oeddech chi’n gwybod bod dillad sydd wedi’u gwneud o neilon a pholyester yn bwrw microffeibrau pan gânt eu golchi? Ochr yn ochr â Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru, rydym eisiau sicrhau mai Cymru fydd y ‘genedl ffasiwn gynaliadwy’ gyntaf. Mae mynd i’r afael â’r problemau cynyddol sy’n gysylltiedig â microblastigau, sy’n effeithio ar ein bywyd gwyllt a’n hiechyd ni ein hunain, yn rhan bwysig o’r ymgyrch hon.

 

Group of people campaigning for sustainable fashion
Ymgyrchu dros ffasiwn gynaliadwy yn y Senedd yn 2024, gydag aelodau Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru

Codi i'r her

Dros y deugain mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu Cymru wyrddach a thecach, diolch i grwpiau lleol, cefnogwyr, a phawb arall rydym wedi gweithio gyda ni.

Wrth inni edrych tuag at etholiadau’r Senedd yn 2026 a thu hwnt, edrychwn ymlaen at ganolbwyntio ein hymdrechion ar feysydd lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cyfnod dyrys sydd ohoni.

Os hoffech ymuno â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ys dywed yr hen air, ‘llawer o waith a wna llawer o ddwylo’.

 

 

Local group members holding up no more fossil fuels signs
Aelodau grŵp gweithredu lleol ym Mhontypridd yn 2022

 

Share this page