Etifeddiaeth amgylcheddol ac economaidd gorffennol diwydiannol Cymru - ein hymateb
Darllenwch ymateb Cyfeillion y Ddaear Cymru i alwad am dystiolaeth gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

- Nid yw cymunedau yng Nghymru, a helpodd i greu’r cyfoeth a oedd yn pweru’r DU yn y gorffennol, wedi elwa llawer ohono, ond maent yn dal i dalu pris mawr.
- Mae gan lywodraeth y DU rwymedigaeth i dalu am adfer safleoedd ôl-ddiwydiannol peryglus yng Nghymru sy'n dyddio o'r cyfnod cyn datganoli – mae hyn yn cynnwys tomenni gwastraff gwenwynig yn ogystal â thomenni glo.
- Mae gwahaniaeth mawr rhwng faint o arian y mae llywodraeth y DU wedi’i ymrwymo hyd yma i adfer tomenni glo peryglus yng Nghymru (£25m) a’r hyn sydd ei angen i gadw cymunedau a bywyd gwyllt yn ddiogel (£600m).
- Rhaid peidio â chaniatáu i gwmnïau lenwi'r bwlch hwn a gweithredu 'atebion' yn seiliedig ar elw ariannol a allai beryglu diogelwch a lles.
- Heb gyllid digonol gan lywodraeth y DU, gallai diwydiant cloddio glo peryglus arall ddod i’r amlwg yng Nghymru, a fyddai’n drychinebus i bobl a’r blaned ac i enw da’r DU.
- Mae angen ymchwiliad annibynnol ar frys i asesu maint ac effaith tir halogedig yng Nghymru ac effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth bresennol.
- Mae ymchwil diweddar gan Gyfeillion y Ddaear Cymru yn dangos anghysondebau a bylchau sylweddol yn y ddeddfwriaeth bresennol ar dir halogedig, a fyddai’n elwa o sylw’r Pwyllgor.
- Gallai adfer safleoedd cyn-ddiwydiannol ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i helpu ein trawsnewidiad gwyrdd a theg a gwella bioamrywiaeth.
- Mae'n rhaid i genhadaeth twf llywodraeth y DU fod â thrawsnewid yn ganolog iddi.