Mynd i’r afael â microblastigau – beth mwy all Cymru ei wneud?
Published: 1 Feb 2024

Doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am ficroblastigau tan wnes i fynychu ‘diwrnod cwrdd i ffwrdd’ ein tîm fis Chwefror diwethaf. Roedden ni wedi ymgynnull o amgylch bwrdd a oedd yn frith o ddysglau petri’n llawn tywod neu bridd, ac yn ein tro edrychodd pob un ohonom ar y microblastigau.
Ar ôl imi roi’r sbectol oren llachar ar fy nhrwyn a defnyddio tortsh pwrpasol i roi golau uwchfioled (UV) ar sampl a gymerwyd oddi ar draeth Broadhaven yn Sir Benfro, trodd y tywod melyn clir yn alaeth a oedd yn fyrdd o sêr disglair. Smotiau gloyw coch, melyn ac oren ac ambell edau hir.
Byth ers hynny, rydw i wedi bod ar genhadaeth i ddysgu rhagor am y llygredd llechwraidd hwn sydd, i raddau helaeth, yn anweledig.