Terfynu’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de – ein hymateb

Published: 8 Jun 2022

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a Jane Dodds, Aelod o’r Senedd dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y cymhorthdal ar gyfer y cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de yn dod i ben.

Delwedd o redfa gyda'r testun, 'Cau'r cyswllt awyr gogledd-de - ein hymateb'

 

Mae’r contract gydag Eastern Airways i redeg cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de (rhwng meysydd awyr Ynys Môn a Chaerdydd) wedi bod yn fater dadleuol ers tro byd, a thros y blynyddoedd mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am ddod â’r cymhorthdal i ben.

 

Photo of Bleddyn Lake
Bleddyn Lake

 

Medd Bleddyn Lake, llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Dyma gam mawr ymlaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

“Gwyddom o’r gorau pa mor niweidiol yw hedfan i’n planed. A phe bai Llywodraeth Cymru wedi penderfynu adnewyddu’r contract hwn a pharhau i roi cymorthdaliadau i’r nifer fechan o bobl a arferai fynd ar y daith fer hon, byddai hynny’n gwbl groes i’w hymrwymiadau o ran yr hinsawdd.

“Dyma’r penderfyniad iawn yn ddi-os, a chroesawn y penderfyniad i fuddsoddi’r arian hwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yng ngogledd Cymru.”

 

Photo of Jane Dodds MS
Jane Dodds MS

 

Medd Jane Dodds, Aelod o’r Senedd ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

“Ers tro byd, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am ddod â’r cymhorthdal i ben.

“Dyma swm sylweddol o arian cyhoeddus i’w wario ar adeg pan mae’r pandemig wedi newid y ffordd y gweithiwn, ac mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i roi stop ar y niwed a wnawn i’n planed.

“Yn awr, rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd digidol yng ngogledd-orllewin Cymru er mwyn sicrhau y bydd modd i gymunedau ffynnu.”

 

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi bod yn feirniadol ers tro bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal ​​i’r cyswllt awyr bach gogledd-de rhwng meysydd awyr Ynys Môn a Chaerdydd.

Gyda'r contract i fod i gael ei adnewyddu yn 2023, yn hydref 2021 fe wnaethom adnewyddu ein galwadau i atal y cymhorthdal. Gwnaethom gais Rhyddid Gwybodaeth a oedd yn dangos bod cyfanswm y cymhorthdal ​​oedd ar gael i Eastern Airways hyd at £8,529,282.

Dangosodd Rhyddid Gwybodaeth hefyd, yn y flwyddyn lawn ddiwethaf cyn Covid (2019-2020), fod cyfanswm cymhorthdal ​​o £1,981,191 wedi'i dalu i gludo 13,930 o deithwyr - cymhorthdal ​​o £142.22 y pen

Share this page