Rhwydi plastig mewn tyweirch – mae angen eu gwahardd
Published: 21 Jan 2025
Nid newid hinsawdd sy’n mynd â’m bryd heddiw, felly gallwn roi targedau sero net i’r naill ochr am y tro.
Yn hytrach, rydw i’n mynd i sôn am rwydi. Rhwydi plastig mewn tyweirch, i fod yn fanwl.
Beth aflwydd?
Ie, rhwydi plastig mewn tyweirch.
Efallai fod rhai ohonoch wedi syrthio i’r trap a phrynu tyweirch glaswellt yn ddiweddar. I’r rhai ohonoch nad ydych wedi clywed am hyn o’r blaen… gadewch imi eich cyflwyno i syniad ‘gwych’ arall… sef defnyddio rhwyllau plastig mewn tyweirch.
Ers degawdau, rydym wedi llwyddo’n berffaith iawn heb fod angen ymgorffori plastig mewn glaswellt – ond yn ôl pob tebyg, mae hyn yn ‘boblogaidd’ iawn y dyddiau yma. Arian sydd wrth wraidd y penderfyniad – wel, dyw hynny’n fawr o syndod!
Mae cynhyrchwyr tyweirch yn gosod ‘rhwydi atgyfnerthu’ dros lecynnau sydd wedi’u hadu â glaswellt, ac yna mae’r hadau’n tyfu trwy’r rhwydi. Golyga hyn fod modd i’r cwmnïau godi’r tyweirch yn gynharach gan fod y rhwydi’n helpu i gadw’r tyweirch mewn un darn. ‘Mae amser yn arian’, meddan nhw, felly gall yr arfer hwn arbed ceiniog neu ddwy i’r cwmnïau.
Beth yw’r broblem?
Y drwg yw bod y problemau’n cael eu trosglwyddo i ni, y defnyddwyr, ac yna i’r amgylchedd.
Cawn dyweirch na allwn dorri trwyddyn nhw ac mae’r plastig yn mynd yn sownd mewn cribiniau, ffyrch, rhawiau ac ati. Os daw’r rhwyd i’r golwg, gall adar, draenogod a chreaduriaid eraill sy’n ymweld â’n gerddi fynd yn sownd ynddi; ac, wrth gwrs, rydym yn cyflwyno mwy fyth o blastig yn syth i’r ddaear – a hynny ar yr union adeg y mae angen inni leihau llygredd plastig!
Oeddech chi’n gwybod?
Mae nifer ohonom yn gwybod bod y plastig a ddefnyddiwn yn niweidio ein planed – ond dyma atgoffâd sydyn:
-
Y diwydiant plastig yw’r ffynhonnell allyriadau hinsawdd gyflymaf ei thwf yn y byd. Ar hyn o bryd, mae’n rhyddhau oddeutu 3.4% o allyriadau hinsawdd y byd – mwy na’r diwydiant hedfan a’r diwydiant llongau gyda’i gilydd!
-
Os na wnawn rywbeth i arafu hyn oll, amcangyfrifir y bydd cylchred oes plastig yn gyfrifol am oddeutu 19% o allyriadau hinsawdd y byd erbyn 2040.
-
Gall plastigau yn yr amgylchedd ddadelfennu a throi’n ronynnau llai, sef microblastigau, ac yna gallant droi’n ronynnau llai fyth, sef nanoblastigau.
-
Mae plastigau’n cynnwys llu o wahanol gemegau. Dengys astudiaethau diweddar fod cynifer â 13,000 o gemegau yn gysylltiedig â phlastigau a chynhyrchu plastig. Pan fydd plastigau’n dadelfennu, gall rhai o’r cemegau hyn drwytholchi i’r amgylchedd.

Beth hoffem ei weld yn digwydd?
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Reoliadau Tai. Mae’r maes hwn wedi’i ddatganoli. Mae’n ymddangos y bydd mwy a mwy o dai’n cael eu hadeiladu yn y dyfodol, felly yn ôl pob tebyg bydd adeiladwyr tai Cymru angen mwy o dyweirch.
Oni fyddai’n wych pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu gwahardd yr arfer o ddefnyddio tyweirch sy’n cynnwys rhwyllau plastig wrth adeiladu tai newydd yng Nghymru, gan gyfyngu hefyd ar werthu tyweirch o’r fath?
Ers dwy flynedd bellach, rydym wedi bod wrthi’n lobïo Llywodraeth Cymru i weithredu ar ficroblastigau, ac erbyn hyn mae hi wedi cytuno i wneud hynny. Byddai rhoi’r gorau i ddefnyddio rhwyllau mewn glaswellt yng Nghymru yn enghraifft gynnar o’r camau y bwriada Llywodraeth Cymru eu cymryd.
(Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ficroblastigau, cymerwch gipolwg ar y blog hwn gan fy nghydweithiwr Kirsty.)
Beth alla i ei wneud?
Os ydych yn ystyried prynu tyweirch glaswellt dros y misoedd nesaf, gwiriwch a ydyn nhw’n cynnwys rhwydi plastig ai peidio.
Os chwiliwch yn sydyn ar y we, gallwch ddod o hyd i gynhyrchwyr a stocwyr yng Nghymru sy’n cynnig tyweirch heb rwyllau plastig ynddyn nhw. Neu fel arall, ystyriwch hau hadau glaswellt.
Rhagor o wybodaeth
Hoffwn eich cyfeirio at erthygl wych gan The Lawn Man, a elwir hefyd yn Kris Lord: https://thelawnman.co.uk/plastic-netting-in-turf-a-nightmare-for-wildlife-and-gardeners/
Hefyd, hoffwn ddiolch i David am gysylltu â ni i dynnu ein sylw at y broblem yn y lle cyntaf.
Gobeithio’n wir y gallwn berswadio Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r arfer diangen hwn.