Cyngor Pedwerydd Cyllideb Carbon Cymru - ein hymateb
Published: 14 May 2025
Wrth ymateb i gyngor Pedwerydd Cyllideb Carbon Cymru gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (CCC), a gyhoeddwyd heddiw (14 Mai 2025), dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar:

“Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Mae angen gweithredu ar frys i leihau ein hallyriadau, ond rhaid gwneud newid mewn ffordd sy’n deg ar bobl, yn ogystal â’r blaned, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
“Rydym yn cytuno â’r Pwyllgor y dylid bod wedi paratoi i osgoi’r sefyllfa ofnadwy ym Mhort Talbot, lle cafodd miloedd o swyddi eu colli gan effeithio ar y gymuned gyfan.
“Mae’n bwysig dysgu o hyn, cefnogi’r gymuned, a gwneud yn siŵr nad yw camgymeriadau’n cael eu hailadrodd.
“Yn ogystal â symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil, mae angen i ni ganolbwyntio ar atebion sy'n arbed arian i bobl ac yn creu swyddi mewn cymunedau ledled Cymru, fel trafnidiaeth gyhoeddus well, dibynadwy a rhatach, ac insiwleiddio ein cartrefi.
“Mae angen i ni hefyd leihau’r defnydd o ynni a dŵr, gwastraffu llai a phrynu cynnyrch gwell sy’n para.”
“Gall torri allyriadau hefyd fod yn gyfle i Gymru ddod yn genedl iachach, fwy gwydn a mwy cyfartal.” ”