Adolygiad Ffyrdd Cymru - ein hymateb

Published: 10 Feb 2022

Ein hymateb i Adolygiad Ffyrdd Cymru: adroddiad panel cychwynnol, cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (10 Chwefror 2022)
Junctions 14-16 of the A55 at Llanfairfechan
Ni fydd newidiadau i gyffyrdd 14-16 o’r A55 yn Llanfairfechan yn cael eu cynnal (llun: Llywodraeth Cymru)

 

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: 

“Mae’r adroddiad cychwynnol hwn gan y panel Adolygiad Ffyrdd yn gam calonogol ymlaen. Mae’n dda gweld bydd cynifer o’r cynlluniau yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad, a bod meini prawf teg a chadarn ynghylch cynnal y gwaith hwnnw.

“Rydym yn falch o’r penderfyniad i beidio cynnal y newidiadau i gyffyrdd 14-16 o’r A55 yn Llanfairfechan, a wrthwynebwyd gan ymgyrchwyr lleol a Chyfeillion y Ddaear Conwy, a bod yr Arglwydd Burns am arwain comisiwn trafnidiaeth Gogledd Cymru.

“Y peth olaf sydd ei angen ar ein planed yw cynlluniau ffordd niweidiol sy’n ein gwneud yn fwy dibynnol ar geir ac yn arwain at fwy o allyriadau niweidiol i’r hinsawdd.

“Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd, ac mae cymunedau ledled Cymru eisoes yn teimlo effaith tywydd garw ar eu bywydau bob dydd.

“Ond nid ynghylch atal ffyrdd newydd rhag cael eu creu yn unig yw hyn, mae’n ymwneud â chael polisi trafnidiaeth cynaliadwy sy’n cynnig opsiynau amgenach o ansawdd i bobl na gyrru – ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd mwy gwledig”.

“Mae angen brys am drawsnewid seilwaith beicio a cherdded y genedl, yn ogystal â darparu trafnidiaeth gyhoeddus llawer gwell a fforddiadwy.

“Mae’n bryd buddsoddi mewn economi sy’n gallu ymdopi â heriau’r 21ain ganrif a rhoi Cymru ar y rheng flaen wrth adeiladu dyfodol glanach a thecach i ni gyd.”

Share this page