Trafnidiaeth

Published: 20 Apr 2022

Mae trafnidiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 17% o gyfanswm ein hallyriadau carbon yn flynyddol a thrafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr.

Picture of people cycling on a main road

 

Yn ôl Cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru (tudalen 79), roedd trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau Cymru yn 2019.

Trafnidiaeth yw’r trydydd sector gwaethaf o ran allyrru nwyon tŷ gwydr a hynny yn dilyn y sector trydan a’r sector cynhyrchu gwres (yr ail waethaf) a’r sector diwydiant a busnes (y gwaethaf).

Mae’r rhan fwyaf o allyriadau yn dod o drafnidiaeth y ffordd ac, yn benodol, o geir. Yn wir, mae trafnidiaeth yn cael ei dominyddu gan geir yng Nghymruyn fwy nac unrhyw le arall yn y DU

Mae gwyddonwyr hinsawdd yn rhybuddio bod rhaid i ni hefyd wneud newidiadau sylweddol i’n harferion teithio, gan yrru a hedfan yn llai aml.

Darllen mwy

 

Beth yw ein cais?

Mae angen i Lywodraeth Cymru anelu at o leiaf dyblu’r gyfran o deithiau  a wneir ar droed, wrth feicio a chan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030.

Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rydyn ni angen buddsoddi mewn mentrau teithio actif ac arloesol, treialu trafnidiaeth gyhoeddus rhad ac am ddim, a chyflwyno prisiau teg ar gyfer gyrru mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru er mwyn annog pobl i ddewis ffyrdd mwy gwyrdd ac iach o deithio.

Darllen mwy

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud
Amdani!

 

 

 

 

Share this page