Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn
Ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (Mehefin 2022)
![Picture of a bus on a road](/sites/default/files/inline-images/Stagecoach_South_Wales_Optare_Solo_KN04_XKG_47073%2C_Pontypridd_Street_Porth_27.1.18_%2825152455047%29.jpg)
Rydym yn croesawu’r cynigion hyn ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru ac yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth hon cyn gynted â phosibl fel cam hanfodol tuag at system trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gynhwysol a hygyrch, gan alluogi newid moddol a lleihau allyriadau carbon a llygredd aer. yng Nghymru.
Credwn fod y cynigion hyn yn cyd-fynd ag argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ‘Polisi Trafnidiaeth Cymru sy’n Addas ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd’ a gyhoeddwyd gennym ddwy flynedd yn ôl, ac enghreifftiau Zurich canton yn y Swistir.