Planet over Profit: beth am weithredu dros yr haf hwn?

Mae’r canllaw hwn ar gyfer grwpiau lleol ac ymgyrchwyr a bydd yn eich helpu i ddylunio eich gweithgaredd, neu hyd yn oed galendr o ddigwyddiadau eich hun dros yr haf, i ddenu cefnogaeth leol ar gyfer yr ymgyrch Planet over Profit.

Yn ystod misoedd yr haf yn 2025, bydd grwpiau gweithredu lleol yn dod â’r ymgyrch Planet over Profit i gymunedau lleol. Y nod yw creu rhestr o gymaint o bobl a sefydliadau lleol â phosibl sy’n cefnogi’r ymgyrch.

 

Sut gall fy ngrŵp gymryd rhan?

Nod: eich tasg dros fisoedd yr haf yw denu cefnogaeth ymysg eich cymuned leol ar gyfer yr ymgyrch Planet Over Profit. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu casglu cymaint o lofnodion deiseb ar gardiau post â phosibl, cyd-greu murlun mawr, a gofyn i sefydliadau a busnesau lleol lofnodi llythyr agored.

Os gallwch chi ddangos bod llawer o gefnogaeth yn eich ardal ar gyfer yr ymgyrch, bydd eich Aelod yn San Steffan yn llawer mwy tebygol o weithredu i gefnogi’r gyfraith newydd.

Pryd: O fis Mehefin tan yr hydref

Archebwch adnoddau

 

Beth am gymryd rhan a gweithredu’r haf hwn?

 

Tacteg 1: creu murlun coedwig gyda’ch cymuned a chasglu llofnodion

Gallwch gyd-greu murlun o goedwig gyda’ch cymuned leol gan ddefnyddio technegau collage a deunyddiau celf. Yn union fel coedwig go iawn, gall hwn dyfu dros amser a gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu ato drwy gyfres o ddigwyddiadau neu stondinau dros yr haf. Ar ôl i bobl gyfrannu at y murlun a dysgu mwy am yr ymgyrch, gofynnwch iddynt lofnodi cerdyn post at sylw eich Aelod yn San Steffan, yn galw arno ef neu hi i gefnogi cyfraith newydd ar gyfer cyfiawnder mewn cadwyni cyflenwi.

Ble? Byddem wrth ein bodd yn gweld grwpiau’n cyflwyno’r gweithgaredd hwn mewn digwyddiadau dros yr haf megis ffeiriau a gwyliau lle bydd llawer o ymwelwyr, ond gellir hefyd gwneud y gweithgaredd ar stondinau ar y stryd fawr.

Sut? Gallwch archebu adnoddau megis y templed ar gyfer y murlun (yn dod yn fuan), cardiau post y ddeiseb, taflenni ac arwyddion. Dewch â deunyddiau fel pinnau ffelt, creonau, pensiliau lliw neu baent gyda chi. Gosodwch eich stondin gan ddefnyddio bwrdd neu gallwch osod y murlun ar ei draed. Beth am fod yn greadigol ac addurno eich stondin i edrych fel coedwig hefyd?

Trefnwch aelodau o’r grŵp i fod yn barod i siarad â’r cyhoedd. Gofynnwch i un neu ddau o aelodau’r grŵp fod yn barod i wahodd aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu at y murlun. Gall oedolion wneud hyn, ond gall plant hefyd wneud y gweithgaredd wrth i chi sgwrsio gyda’r rhieni am yr ymgyrch.

Sut gallaf sicrhau bod fy ngweithred yn llwyddiannus?

Esboniwch yr ymgyrch. Siaradwch â phobl ynglŷn â pham yr ydych yn ymgyrchu am gyfraith newydd. Beth sy’n eich poeni fwyaf? Er enghraifft: “Fe wnes i ddarganfod bod cwmnïau yn y DU yn defnyddio deunyddiau yn eu cynhyrchion sy’n cyfrannu at ddatgoedwigo ac nad oes unrhyw beth i’w hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Pe byddai gennym gyfraith cadwyni cyflenwi newydd, byddai’n gorfodi cwmnïau i gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy’n cael ei ddefnyddio yn eu cynhyrchion.”

Gofynnwch gwestiynau. Beth yw barn aelodau’r cyhoedd ar y mater? A ydynt yn cefnogi’r gyfraith newydd arfaethedig?

Gwnewch eich cais. A fyddent yn fodlon llofnodi deiseb ar gerdyn post? Mae’r cerdyn post hefyd yn rhoi cyfle iddynt glywed mwy am y grŵp, felly gallant ddewis ymuno â’ch rhestr bostio pe byddent yn dymuno gwneud hynny. Yna, rhowch gyfle iddynt ddarganfod mwy a diolchwch iddynt am eu cefnogaeth. Os ydynt yn ymddangos yn awyddus, efallai yr hoffech eu gwahodd i gymryd rhan  eto. A hoffent ymuno mewn gweithred grŵp neu gyfarfod yn y dyfodol?

Cyngor da: Gallwch gynyddu nifer y llofnodion ar y ddeiseb cerdyn post drwy greu fersiwn ar-lein o’r ddeiseb gan ddefnyddio Action Network. Rydym wedi creu templed y gallwch ei addasu yn y Gymraeg a’r Saesneg. E-bostiwch [email protected] am gymorth i greu eich deiseb ar-lein.

 

Tacteg 2: gofynnwch i sefydliadau, mudiadau a busnesau lleol am eu cefnogaeth

Ynghyd ag annog cefnogaeth gan aelodau’r cyhoedd, beth am ofyn i sefydliadau busnes lleol yn eich cymuned i gefnogi’r ymgyrch?

Gallwch wneud hyn drwy ofyn iddynt lofnodi templed llythyr agored (ar gael yn fuan) i’ch Aelod yn San Steffan.

Pwy ddylech chi gysylltu â nhw? Meddyliwch am yr ystod o sefydliadau, mudiadau a busnesau lleol a allai ychwanegu rhywfaint o gefnogaeth i’r ymgyrch. Darllenwch ein canllaw ar annog cefnogaeth leol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Sefydliadau cenedlaethol sy’n ymwneud â’r Gynghrair Cyfiawnder Corfforaethol. Gwiriwch a oes unrhyw grwpiau yn eich cymunedau y gallwch gydweithio â nhw.
  • Cysylltwch gyda grwpiau cymunedol eraill. Meddyliwch y tu hwnt i grwpiau amgylcheddol eraill a meddyliwch sut y byddai cyfraith cadwyni cyflenwi newydd yn gallu bod o fudd i ystod eang o bobl ac ymgyrchoedd.
  • Undebau. Byddai’r gyfraith newydd yn gwarchod hawliau gweithwyr ledled y byd, felly beth am ofyn i gangen leol o undeb gynnig eu cefnogaeth?
  • Busnesau moesegol. Byddai cyfraith newydd yn cynnig cyfleoedd mwy cyfartal i fusnesau bach moesegol. Gofynnwch iddynt gynnig eu cefnogaeth.
  • Cymunedau ar wasgar. A oes unrhyw gymunedau ar wasgar yn eich cymunedau sy’n gysylltiedig â’r gwledydd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan anghyfiawnder corfforaethol? Darllenwch ein canllaw i ymgyrchu gwrth-hiliol i’ch helpu.

 

Beth nesaf?

Unwaith y byddwn wedi denu cefnogaeth dda ar gyfer ein hymgyrch yn lleol, byddwn yn cyflwyno ein deiseb cardiau post, ein deisebau ar-lein a’n llythyrau agored i Aelodau yn San Steffan, ddechrau’r hydref.

Gallwch ddod â’ch murlun gyda chi i’r cyfarfod gyda’ch Aelod yn San Steffan. Mae’n gynrychiolaeth weledol wych o’r gefnogaeth dros yr ymgyrch gan eu hetholwyr, gyda phob cyfraniad yn cynrychioli aelod o’r cyhoedd sy’n pryderu.

Yn yr hydref, byddwn yn edrych tuag at COP30, y trafodaethau hinsawdd rhyngwladol a gynhelir ym Mrasil. Bydd eich murluniau yn gwneud baneri gwych fel rhan o’r ymgyrchoedd.

 

 

 

 

Share this page