Pecyn ymgyrch y Cynllun Hinsawdd
Rydym ymhell iawn o gyrraedd ein targedau hinsawdd. Ond mae gennym gyfle i newid pethau er gwell. Mae angen i lywodraeth y DU lunio cynllun hinsawdd newydd y flwyddyn nesaf. Rhaid inni sicrhau y bydd y cynllun hinsawdd hwnnw yn deg ac y bydd o fudd i bob un ohonom. Beth am ddysgu rhagor am yr hyn y gofynnwn amdano a sut y gallwch gymryd rhan.
Er bod nifer o agweddau ar gyflawni cynllun hinsawdd y DU wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru a’r Senedd yng Nghymru, ac er bod gan Gymru ei chynllun a’i deddfwriaeth hinsawdd ei hun, mae angen rhagor o gymorth, cyllid a gweithredu ar lefel y DU er mwyn gwireddu’r uchelgais.
Mae gan Aelodau Seneddol rôl o ran dylanwadu ar y darlun ehangach sy’n effeithio ar gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru, ac o’r herwydd caiff gofynion sy’n berthnasol i’r DU eu cynnwys yn y fan hon. Nodir y rhai sydd wedi’u datganoli mewn llythrennau italig.
Rydym angen cynllun hinsawdd newydd ar frys er mwyn inni allu cyrraedd ein targedau hinsawdd hollbwysig ac esgor ar fanteision i’n bywydau. Rydym eisiau gweld biliau ynni is, cartrefi cynnes, aer glân, trafnidiaeth gyhoeddus well a swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda. Sut y gallwn gyflawni hyn? Trwy wneud yn siŵr bod y bobl sydd mewn grym yn gwybod beth yw ein gofynion. Os siaradwn gydag Aelodau Seneddol am y cynllun hinsawdd, gallwn ofyn iddynt ei hyrwyddo a rhoi pwysau ar benderfynwyr hollbwysig fel y gellir cyflawni cynllun newydd beiddgar lle rhoddir pwyslais mawr ar degwch.