Diwrnod Gweithredu Tir Cyffredin - canllaw digwyddiad

Published: 23 Sep 2024

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Gweithredu Tiroedd Cyffredin ar 12 Hydref 2024 a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Byddwn yn cymryd rhan yn Niwrnod Gweithredu Tir Cyffredin The Climate Coalition ar 12 Hydref 2024 i fynnu dyfodol tecach. Beth am gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod a gweld sut y gallwch gymryd rhan.

Nodyn i Grwpiau Gweithredu Lleol Cymru – yng nghyd-destun yr ymgyrch hon, mae ‘llywodraeth’ yn cyfeirio at Lywodraeth y DU yn San Steffan..  

Ddydd Sadwrn 12 Hydref, bydd miloedd o bobl o bob cwr o’r DU yn cyfarfod â’u Haelodau Seneddol fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu Tir Cyffredin The Climate Coalition. Gyda’n gilydd, beth am ddangos i’n swyddogion etholedig yn San Steffan bod pobl o bob cefndir eisiau gweld gweithredu cryf dros yr hinsawdd er mwyn cael dyfodol tecach. 

Beth am ddefnyddio’r cyfle hwn i ddadlau dros gael cynllun hinsawdd uchelgeisiol a theg a fydd yn lleihau allyriadau’n fawr ac a fydd o fudd i bobl.

Ymunwch, a byddwch yn rhan o fudiad unedig er budd pobl, yr hinsawdd a natur.

 

Sut y gall eich grŵp gymryd rhan?

Cyn y Diwrnod Gweithredu

 

Estynnwch wahoddiad i’ch Aelod Seneddol i ddod i gyfarfod â’ch  grŵp

Ewch ati’n ddi-oed i anfon gwahoddiad at eich Aelod Seneddol (neu at fwy nag un Aelod Seneddol os yw eich grŵp yn cwmpasu mwy nag un etholaeth), gan ofyn iddynt ddod i gyfarfod â’ch grŵp ar 12 Hydref. Gallwch ddefnyddio ein templed gwahoddiad.

Os na fydd eich Aelod Seneddol ar gael ar 12 Hydref, gallwch ei gyfarfod/chyfarfod yn ystod yr wythnosau cyn ac ar ôl y Diwrnod Gweithredu.

Os na fydd eich Aelod Seneddol ar gael ar 12 Hydref, gallwch ei gyfarfod/chyfarfod yn ystod yr wythnosau cyn ac ar ôl y Diwrnod Gweithredu.

 

Paratowch ar gyfer y cyfarfod gyda’ch Aelod Seneddol

  • Darllenwch ein canllawiau ar gyfarfod â’ch Aelod Seneddol.
  • Mynychwch hyfforddiant a gynhelir gan Hope for the Future a’r Climate Coalition.
  • Ymunwch â’n gweminar a fydd yn sôn am y diwrnod gweithredu a sut i siarad â’ch Aelod Seneddol am gynllun 2030.
  • Cysylltwch â ni neu â’ch cyswllt lleol os byddwch angen unrhyw gymorth.

 

Archebwch adnoddau

Trwy fynd â phosteri i’ch cyfarfod gyda’ch Aelod Seneddol, bydd modd tynnu lluniau trawiadol. Hefyd, gallwch ofyn i’ch Aelod Seneddol afael yn y poster i ddangos ei gefnogaeth/chefnogaeth i’r ymgyrch. Cofiwch archebu adnoddau mewn da bryd, gan neilltuo digon o amser ar gyfer eu danfon. Gallwch ragarchebu posteri yn awr.

 

Ar y Diwrnod Gweithredu

  • Ewch i gyfarfod â’ch Aelod(au) Seneddol
  • Trefnwch ‘sbloet tynnu lluniau’ os na all eich Aelod Seneddol eich cyfarfod
  • Tynnwch luniau
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol
  • Cofiwch ymhél â’r cyfryngau lleol

 

Ewch i gyfarfod â’ch Aelod(au) Seneddol

Rydym angen i gynifer â phosibl o Aelodau Seneddol siarad o blaid cynllun hinsawdd teg ac uchelgeisiol yn y senedd.

Defnyddiwch ein canllawiau i berswadio eich Aelod Seneddol i weithredu er budd cynllun hinsawdd beiddgar ac ymrwymo i ysgrifennu at Keir Starmer.

 

Trefnwch ‘sbloet tynnu lluniau’

Peidiwch â digalonni os na fydd eich Aelod Seneddol yn ymateb. Trwy wahodd eich Aelod Seneddol, byddwch wedi tynnu sylw at ofynion ein hymgyrch. Gallwch barhau i gymryd rhan yn y diwrnod gweithredu trwy drefnu ‘sbloet tynnu lluniau’ y tu allan i swyddfa eich Aelod Seneddol, gyda baneri a phosteri pwrpasol, er mwyn dangos bod ein cymunedau’n unedig a’u bod yn cefnogi cynllun hinsawdd beiddgar ac uchelgeisiol. Gallwch gysylltu â’ch Aelod Seneddol ar ôl 12 Hydref i roi gwybod iddo ef/iddi hi am yr hyn a drefnwyd gan eich grŵp ac i rannu lluniau a gwybodaeth.

Hefyd, gallwch ddefnyddio ein templed datganiad i’r wasg i ymhél â’r cyfryngau lleol. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth yn lleol a bydd yn helpu i hoelio sylw eich Aelod Seneddol ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol.

 

Tynnwch luniau 

Pa un a fyddwch yn cyfarfod â’ch Aelod Seneddol neu’n trefnu sbloet y tu allan i’w swyddfa – gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu lluniau.

Awgrymiadau ardderchog ar gyfer tynnu lluniau gwych: 

  • Cofiwch gynnwys posteri a baneri er mwyn sicrhau y bydd y llun yn drawiadol ac y bydd modd ei gysylltu’n rhwydd gydag ymgyrch y cynllun hinsawdd.
  • Gofynnwch am gael llun o’ch Aelod Seneddol yn gafael mewn placard neu boster.
  • Tynnwch luniau ‘tirlun’ (maent yn well ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol).
  • I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar dynnu lluniau da.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd y bobl sydd yn y lluniau – darllenwch y canllawiau perthnasol yma.

Rhannwch eich lluniau (a’r caniatâd perthnasol) gyda ni fel y gallwn eu hychwanegu at ein horiel genedlaethol, gan ddangos hyd a lled y gefnogaeth a geir o amgylch y DU.

 

Y cyfryngau cymdeithasol

Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r mater ac i ychwanegu at y galwadau gan bobl o bob cwr o’r DU ar y diwrnod gweithredu. Cofiwch rannu eich lluniau, gan dagio eich Aelod Seneddol ac @foecymrucydd ac @friends_earth. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r hashnod #TirCyffredin.

Dyma dempled ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol y gallwch ei rannu ar ôl cyfarfod â’ch Aelod Seneddol:

Templed: Newydd gyfarfod efo [@Enw’r Aelod Seneddol] i drafod yr angen taer am gynllun hinsawdd teg ac uchelgeisiol ar gyfer y DU! Dewch inni weithredu dros bobl, dros yr hinsawdd a thros natur. @foecymrucydd @friends_earth [Ychwanegwch lun]

Cynhwyswch y rhai sydd ar eich rhestr bostio yn y diwrnod gweithredu trwy ofyn iddynt rannu templed ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a thagio eich Aelod Seneddol hefyd.

Templed: [@Enw’r Aelod Seneddol], mae ein cymuned yn galw am gynllun hinsawdd teg ac uchelgeisiol ar gyfer y DU! A wnewch chi sefyll ochr yn ochr â ni er budd pobl, er budd yr hinsawdd ac er budd natur? @foecymrucydd @friends_earth

Gweler ein canllawiau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o awgrymiadau ardderchog.

 

Ymhél â’r cyfryngau lleol

Defnyddiwch ein templed datganiad i’r wasg  i gysylltu â’ch cyfryngau lleol ar ôl i’r gweithredu dod i ben a chofiwch gynnwys lluniau y gellir eu cyhoeddi. Pa un a fu modd ichi gyfarfod â’ch Aelod Seneddol ai peidio, rydym wedi creu opsiynau y gallwch eu teilwra.

  • Templed datganiad i’r wasg os bu modd ichi gyfarfod â’ch Aelod Seneddol.
  • Templed datganiad i’r wasg os na fu modd ichi gyfarfod â’ch Aelod Seneddol neu os ymatebodd eich Aelod Seneddol yn negyddol i’ch cais.

     

Awgrymiadau ardderchog ar gyfer ymhél â’r cyfryngau lleol:

  • Addaswch ein templed datganiad i’r wasg er mwyn sicrhau y bydd yn berthnasol ac yn bersonol i’ch cymuned leol.
  • Gofynnwch i’ch Aelod Seneddol am ddyfyniad y gellir ei gynnwys yn eich datganiad i’r wasg.
  • Cyhoeddwch eich datganiad i’r wasg ar ôl 12 Hydref gyda lluniau a dynnwyd ar y diwrnod gweithredu.
  • I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar sut i sicrhau sylw ar gyfer eich ymgyrch yn y cyfryngau lleol.

 

Ar ôl y Diwrnod Gweithredu

  • Anfonwch luniau atom fel y gallwn eu cynnwys yn ein horiel ganolog. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn anfon y caniatâd perthnasol atom ar gyfer defnyddio’r lluniau!
  • Cysylltwch â’ch Aelod Seneddol ar ôl i’r gweithredu ddod i ben er mwyn crynhoi’r pethau a drafodwyd a’r camau nesaf. I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gipolwg ar y canllawiau hyn.
  • Defnyddiwch y cyfle i ehangu eich grŵp. Rhowch wybod i’r rhai sydd ar eich rhestr bostio sut yr aeth pethau gyda’ch Aelod Seneddol a rhannwch luniau a dynnwyd ar y diwrnod.
  • Gwnewch gofnod o ddyddiad ein gweminar nesaf a gynhelir ar 30 Hydref fel y gallwch rannu sut yr aeth pethau a chlywed beth yw camau nesaf yr ymgyrch.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’ch cyswllt rhanbarthol neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad [email protected].

Share this page