Cynllun cynhwysfawr, uchelgeisiol a theg

Published: 23 Sep 2024

Dysgwch am bum gofyniad allweddol Cyfeillion y Ddaear.

People with community quilts outside Westminster

 

 

Er bod nifer o agweddau ar gyflawni cynllun hinsawdd y DU wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru a’r Senedd yng Nghymru, ac er bod gan Gymru ei chynllun a’i deddfwriaeth hinsawdd ei hun, mae angen rhagor o gymorth, cyllid a gweithredu ar lefel y DU er mwyn gwireddu’r uchelgais.

Mae gan Aelodau Seneddol rôl o ran dylanwadu ar y darlun ehangach sy’n effeithio ar gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru, ac o’r herwydd caiff gofynion sy’n berthnasol i’r DU eu cynnwys yn y fan hon. Nodir y rhai sydd wedi’u datganoli mewn llythrennau italig.

Yn 2008, pasiwyd y Ddeddf Newid Hinsawdd gan lywodraeth Lafur y DU. Gwnaed hyn mewn ymateb i ofynion taer gwyddonwyr am weithredu ac yn dilyn ymgyrch a roddwyd ar waith am sawl blwyddyn gan Sefydliadau Anllywodraethol, dan arweiniad Cyfeillion y Ddaear. Y ddeddf hon oedd y gyntaf drwy’r byd i osod targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer lleihau allyriadau hinsawdd. Ers hynny, mae Cyfeillion y Ddaear wedi mynd ati’n ofalus i fonitro’r modd y rhoddir y ddeddf ar waith, yn cynnwys cyflwyno dwy her gyfreithiol lwyddiannus yn ystod y tair blynedd diwethaf mewn ymateb i gynlluniau hinsawdd y llywodraeth ddiwethaf – sef cynlluniau y datganodd y llysoedd eu bod yn anghyfreithlon.

Mae’r fuddugoliaeth ddiweddaraf yn y llys yn golygu bod yn rhaid i’r llywodraeth newydd ysgrifennu cynllun hinsawdd newydd yn 2025[i]. Rydym angen cynllun newydd gan ein bod ymhell iawn o gyrraedd ein targedau hinsawdd – yn arbennig ein hymrwymiad rhyngwladol i sicrhau lleihad o ddwy ran o dair mewn allyriadau erbyn 2030. Yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd (sef cynghorwyr swyddogol y llywodraeth), mae angen cymryd camau ar frys yn hyn o beth ii.  

Rhaid i’r cynllun newydd fod yn gynhwysfawr, yn uchelgeisiol ac yn deg. Rhaid iddo sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd i gyd a rhaid i degwch gael lle blaenllaw ynddo, gan sicrhau y bydd manteision y pontio angenrheidiol yn dod i ran pawb, heb adael neb ar ôl.

Mae’r ddogfen wybodaeth hon yn nodi sut y dylid gwneud hyn, ym marn Cyfeillion y Ddaear. Mae gennym bump o ofynion allweddol, gyda pholisïau y credwn y dylid eu cyflwyno ym mhob maes.

 

Dyma’r gofynion allweddol:

  1. Cadw addewidion y llywodraeth i leihau allyriadau carbon gyda pholisïau sy’n gwneud synnwyr ac a ddatblygwyd gyda chyfraniadau gan arbenigwyr a chan y cyhoedd.
     
  2. Buddsoddi yn y dyfodol trwy fynd ati mewn modd teg i ariannu gweithredu ar newid hinsawdd yn lleol, oddi mewn i’r gwledydd datganoledig, oddi mewn i’r DU ac yn rhyngwladol
     
  3. Sicrhau y bydd modd i bawb fyw mewn cartref cynnes sy’n defnyddio ynni glân a rhad.
     
  4. Darparu aer glân a thrafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy.
     
  5. Helpu pobl i ddod o hyd i swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda trwy ddarparu buddsoddiad a hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer y sectorau a’r mannau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu gadael ar ôl.

 

1 Cadw addewidion y llywodraeth i leihau allyriadau carbon gyda pholisïau sy’n gwneud synnwyr ac a ddatblygwyd gyda chyfraniadau gan arbenigwyr a chan y cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd (cynghorwyr swyddogol y llywodraeth) wedi dweud y bydd y cynlluniau presennol yn esgor ar draean yn unig o’r lleihad angenrheidiol mewn allyriadau gogyfer cyflawni ymrwymiad hinsawdd 2030 y llywodraeth iii.  

Dylai’r cynllun newydd gynnwys y canlynol:

  • Polisïau credadwy, fel y’u hasesir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a fydd yn cyflawni’n llwyr ymrwymiad 2030, ymrwymiad rhyngwladol 2035 y mae’n rhaid i’r llywodraeth ei bennu yn gynnar yn 2023, a chyllidebau carbon.
     
  • Cynlluniau wrth gefn cadarn y gellir eu defnyddio os na fydd y polisïau a bennir yn cyflawni’n ôl y disgwyl. Yn afrealistig, rhagdybiodd y cynllun blaenorol y byddai’r holl bolisïau’n cyflawni 100% o’u hallyriadau arfaethedig – rhywbeth a feirniadwyd gan y llysoedd iv.
        
  • Safbwyntiau arbenigwyr a’r cyhoedd, gyda chyfraniad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Senedd y DU, y gymdeithas sifil a phanel dinasyddion hinsawdd parhaol, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Ymchwil Dinasyddion Hinsawdd v.
     
  • Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a dadansoddiad economaidd o’r cynllun er mwyn sicrhau y bydd y costau a’r buddion yn cael eu rhannu’n deg. Ni fyddai’n deg i’r bobl dlotaf mewn cymdeithas, sydd wedi cyfrannu leiaf at y broblem, fod ar eu colled.
     
  • Ymrwymiad i gyhoeddi strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn nodi pam y mae angen inni weithredu, er mwyn cynnwys pobl yn y dasg o ddatblygu polisïau sy’n effeithio arnynt ac er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol iddynt i’w galluogi i wneud newidiadau. 

 

2 Buddsoddi yn y dyfodol trwy fynd ati mewn modd teg i ariannu gweithredu ar newid hinsawdd yn lleol, oddi mewn i’r gwledydd datganoledig, oddi mewn i’r DU ac yn rhyngwladol.

Mae gweithredu ar newid hinsawdd yn fuddsoddiad hanfodol yn nyfodol y DU, gan ategu cenhadaeth y llywodraeth mewn perthynas ag ynni glân, creu twf a gwella cyfleoedd. Er mwyn helpu i ariannu hyn, rhaid inni sicrhau mai’r llygrwyr fydd yn talu. Mae’r cyfoethogion wedi cyfrannu’n anghymesur at yr argyfwng hinsawdd, gyda’r 1% cyfoethocaf yn esgor ar fwy o allyriadau na’r 66% tlotaf vi.  

Dylai’r mesurau yn y cynllun newydd gynnwys y canlynol:

  • Defnyddio £50 biliwn y flwyddyn fan leiaf o arian cyhoeddus a phreifat er mwyn gweithredu ar newid hinsawdd, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd[vii]. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 2% o GDP (cynnyrch domestig gros) ac mae oddeutu’r un swm a neilltuwyd ar gyfer addewidion yn ymwneud â gwariant ar amddiffyn.
     
  • Sicrhau bod y gwledydd datganoledig yn cael eu cynnwys yn llwyr wrth ddatblygu’r cynllun a sicrhau bod eu polisïau’n cael eu cyfleu’n llwyr ynddo.
  • Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyfun i helpu i gyrraedd targedau hinsawdd y DU, gan ategu hyn gyda phwerau i godi arian a chyllid sefydlog hirdymor gan y llywodraeth ganolog viii. 

  • Codi arian ar gyfer buddsoddi yn yr hinsawdd trwy sicrhau bod y llygrwyr yn talu. Gellir gwneud hyn trwy godi treth ar weithgareddau ‘moethus’ sy’n ddrud ar garbon, fel defnyddio jetiau preifat, a thrwy drethu incwm sy’n deillio o gyfranddaliadau mewn cwmnïau sy’n llygru (ix - Gellid gwneud hyn trwy gyflwyno treth ar enillion cyfalaf carbon neu dreth buddsoddiad carbon, neu trwy ymestyn trethi ffawdelw i sectorau eraill y tu hwnt i gynhyrchwyr tanwyddau ffosil
     
  • Cyflawni ymrwymiad y DU i dalu £11.6 biliwn o gyllid hinsawdd i wledydd tlotach, yn ychwanegol at gymorth tramor.

 

 

3 Sicrhau y bydd modd i bawb fyw mewn cartref cynnes sy’n defnyddio ynni glân a rhad

Bydd miliynau o bobl yn parhau i gael anhawster i dalu eu biliau y gaeaf hwn gan fod blynyddoedd o ddiffyg gweithredu gan y llywodraeth yn golygu bod cartrefi yn llaith, yn oer ac yn ddrud i’w gwresogi. Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Michael Marmot ar gyfer Tegwch Iechyd, mae cartrefi oer yn costio degau o biliynau o bunnoedd i wledydd bob blwyddyn ar ffurf colli cynhyrchiant a chostau i’r GIG, a hefyd cynyddir y risg y bydd plant ac oedolion yn datblygu problemau iechyd meddwl x. Os eir i’r afael â’r argyfwng hwn trwy wella inswleiddio a gwresogi cartrefi gyda thrydan yn hytrach na nwy, bydd modd lleihau allyriadau a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

 

Dylai’r mesurau yn y cynllun newydd gynnwys y canlynol:

  • Rhoi rhaglen inswleiddio ar waith ledled y wlad er mwyn inswleiddio o leiaf 7.5 miliwn o gartrefi sy’n gollwng gwres.
  • Sicrhau bod ynni’n fforddiadwy trwy gyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer teuluoedd incwm isel a thrwy gyflwyno ynni adnewyddadwy rhad yn gyflym (fel gwynt alltraeth a ffermydd solar), fel y bydd modd cynyddu’r gyfradd adeiladu flynyddol gyfredol deirgwaith drosodd fan leiaf, a sicrhau bod gan brosiectau o’r fath gysylltiadau â’r grid xi.  

  • Ymestyn darpariaethau pympiau gwres yn rhad ac am ddim i aelwydydd incwm isel a chynnig benthyciadau di-log i aelwydydd eraill er mwyn eu galluogi i dalu costau sydd uwchlaw grantiau’r llywodraeth, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol xii.  

  • Lleihau costau trydan trwy gael gwared â’r costau polisi a gymhwysir ar hyn o bryd at filiau trydan.

 

4 Darparu aer glân a thrafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy

Er ein bod yn croesawu’r cynnydd yn nifer y ceir trydan a gaiff eu gwerthu, ni fydd hyn ar ei ben ei hun yn arwain at y lleihad angenrheidiol mewn allyriadau trafnidiaeth. Rhaid inni hefyd wella trafnidiaeth gyhoeddus yn fawr – yn enwedig bysiau (ers 2008, mae gwasanaethau bysiau trefol wedi gostwng 48% ac mae gwasanaethau bysiau gwledig wedi gostwng 52%[viii]) – ac annog rhagor o feicio a cherdded. Bydd hyn hefyd o fudd i bobl na allant fforddio car, yn enwedig car trydan.

Dylai’r mesurau yn y cynllun newydd gynnwys y canlynol:

  • Gosod targed o ran lleihau’r galw fel y gellir arwain at leihad o 25% yn y milltiroedd a deithir mewn cerbydau erbyn 2030 trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a gwell cyfleusterau beicio a cherdded.
     
  • Erbyn 2030, ymrwymo i fwy na dyblu’r cilometrau a deithir mewn bysiau ac ymrwymo i sicrhau cynnydd o 80% yn y cilometrau a deithir mewn trenau xiv.  
  • Cynyddu’r gwariant ar deithio llesol i £2 biliwn y flwyddyn er mwyn sicrhau y bydd modd i bobl feicio a cherdded yn ddiogel ac yn rhwydd ar siwrneiau byrion xv.  

 

5 Helpu pobl i ddod o hyd i swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda trwy ddarparu buddsoddiad a hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer y sectorau a’r mannau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu gadael ar ôl     

 

Rydym angen strategaeth ddiwydiannol gref er mwyn sicrhau y bydd technolegau’r dyfodol yn cael eu datblygu, a hefyd rhaid inni wneud yn fawr o botensial sectorau fel gwasanaethau, ffermio a rheoli tir. Yn anochel, bydd symud tuag at economi wyrddach yn arwain at ddirywiad mewn rhai sectorau (megis olew a nwy) ac yn arwain at newidiadau mewn sectorau eraill (megis cynhyrchu dur). Rhaid cynnwys gweithwyr y sectorau hynny yn y dasg o lunio’r broses bontio er mwyn sicrhau tegwch. Hefyd, yn achos y meysydd hynny sydd, ar hyn o bryd, yn ddibynnol ar ddiwydiannau tanwydd ffosil am waith, rhaid sicrhau eu bod yn cael lle blaenllaw yn y pontio.

Measures in the new plan should include:  
 

  • Dylai’r mesurau yn y cynllun newydd gynnwys y canlynol:

  • Buddsoddi £4 biliwn y flwyddyn fan leiaf mewn datblygu sgiliau, ailhyfforddi a chreu swyddi, yn cynnwys yn y meysydd hynny sydd fwyaf angen buddsoddiad pontio teg.
     
  • Ei gwneud yn ofynnol i ddiwydiannau twf, fel ynni adnewyddadwy, pympiau gwres, cerbydau trydan a phren, ehangu cadwyni cyflenwi yn y DU a gwarantu swyddi diogel ac o’r radd flaenaf yn y DU.
  • Ymrwymo i gynllun sgiliau hinsawdd cynhwysfawr, gan ddilyn arweiniad yr Alban a Chymru, yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd xvi

 

Share this page