Beth yw’r cynllun hinsawdd
Published: 20 Sep 2024
A yw hyn yn berthnasol i Gymru?
Er bod nifer o agweddau ar gyflawni cynllun hinsawdd y DU wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru a’r Senedd yng Nghymru, ac er bod gan Gymru ei chynllun a’i deddfwriaeth hinsawdd ei hun, mae angen rhagor o gymorth, cyllid a gweithredu ar lefel y DU er mwyn gwireddu’r uchelgais.
Mae gan Aelodau Seneddol rôl o ran dylanwadu ar y darlun ehangach sy’n effeithio ar gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru, ac o’r herwydd caiff gofynion sy’n berthnasol i’r DU eu cynnwys yn y fan hon. Nodir y rhai sydd wedi’u datganoli mewn llythrennau italig.
Rydym angen cynllun hinsawdd newydd ar frys er mwyn inni allu cyrraedd ein targedau hinsawdd hollbwysig ac esgor ar fanteision i’n bywydau. Rydym eisiau gweld biliau ynni is, cartrefi cynnes, aer glân, trafnidiaeth gyhoeddus well a swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda. Sut y gallwn gyflawni hyn? Trwy wneud yn siŵr bod y bobl sydd mewn grym yn gwybod beth yw ein gofynion. Os siaradwn gydag Aelodau Seneddol am y cynllun hinsawdd, gallwn ofyn iddynt ei hyrwyddo a rhoi pwysau ar benderfynwyr hollbwysig fel y gellir cyflawni cynllun newydd beiddgar lle rhoddir pwyslais mawr ar degwch.
Beth yw’r cynllun hinsawdd a pham y mae’n rhaid i’r llywodraeth lunio cynllun newydd?
Strategaeth ar gyfer lleihau allyriadau hinsawdd y DU – dyna yw cynllun hinsawdd y llywodraeth. Rhaid i’r llywodraeth leihau allyriadau a llunio cynllun a all ddangos sut y bydd modd gwneud hynny. Mae hyn wedi deillio o basio Deddf Newid Hinsawdd 2008, yn dilyn ymgyrch “Big Ask” Cyfeillion y Ddaear.
Mae’n ofynnol i’r cynllun hinsawdd nodi polisïau ar gyfer lleihau allyriadau sy’n newid yr hinsawdd, ynghyd â pholisïau ar gyfer datgarboneiddio pob sector yn economi’r DU, o drafnidiaeth i amaethyddiaeth. Dylai’r cynllun nodi sut y bydd yn helpu’r DU i gyrraedd sefyllfa allyriadau sero net erbyn 2050 a sut y gellir cyrraedd targedau yn y tymor byr a fydd yn sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu yn dechrau yn awr yn hytrach na’u bod yn cael eu gohirio. Mae hyn yn cynnwys addewid y DU dan gyfraith ryngwladol i leihau allyriadau erbyn 2030 – sef dwy ran o dair o leihad. Ers i’r Ddeddf Newid Hinsawdd gael ei phasio, mae Cyfeillion y Ddaear wedi cadw golwg fanwl ar y modd y caiff ei rhoi ar waith. Ddwywaith yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Cyfeillion y Ddaear wedi mynd â’r llywodraeth i’r llys gan ein bod o’r farn nad oedd cynllun hinsawdd y llywodraeth yn cyd-fynd â gofynion y Ddeddf Newid Hinsawdd. Ac yn y ddau achos, cytunodd y llys gyda ni, gan ddatgan bod y cynllun yn anghyfreithlon a chan roi gorchymyn i’r llywodraeth ysgrifennu cynllun newydd.
Enillwyd y fuddugoliaeth ddiweddaraf yn y llys ym mis Mai 2024, pan roddodd y llys orchymyn i lywodraeth y DU ysgrifennu cynllun newydd erbyn dechrau mis Mai 2025 (cewch ragor o fanylion am yr achos a dyfarniad y llys yma). Mae’r cyfrifoldeb hwn wedi symud i ddwylo llywodraeth newydd y Blaid Lafur yn awr.
Mae llywodraeth Keir Starmer wedi ymrwymo o’r newydd i wireddu addewid hinsawdd rhyngwladol 2030 y DU. Ond darganfu adroddiad diweddar a luniwyd gan gynghorwyr swyddogol y llywodraeth, sef y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ein bod ymhell iawn o gyrraedd y targed a bod angen gweithredu ar frys.
Sut y gallwn sicrhau y cawn y cynllun hinsawdd angenrheidiol?
Mae targed 2030 y DU yn hollbwysig i lywodraeth Lafur y DU: wedi’r cyfan, dim ond chwe blynedd sydd ar ôl. Ni all y llywodraeth oedi cyn gweithredu na gadael pethau hyd nes y caiff llywodraeth nesaf y DU ei hethol yn 2029. Mewn gwirionedd, rhaid cynllunio a chyflawni’r cynllun hinsawdd newydd yn ystod tymor presennol y Blaid Lafur yn San Steffan.
Rydym eisiau i lywodraeth y DU ysgrifennu cynllun hinsawdd uchelgeisiol, cynhwysfawr a theg.
Rhaid iddo gynnwys polisïau credadwy er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn gyflawni pob un o’n hymrwymiadau hinsawdd. A rhaid iddo gael ei ariannu’n llwyr, gyda chymysgedd o fuddsoddiad gan y llywodraeth ac arian y sector preifat.
Hefyd, rhaid i’r cynllun sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Nid mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yw’r unig nod sydd ynghlwm wrth leihau allyriadau, oherwydd bydd yn esgor ar lu o fanteision eraill: cartrefi cynhesach gyda biliau rhatach, swyddi da mewn diwydiannau gwyrdd newydd, trafnidiaeth gyhoeddus well ac aer glanach. Mae angen i bawb yn y DU allu elwa ar y cyfleoedd hyn.
Er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y llywodraeth yn ysgrifennu cynllun hinsawdd uchelgeisiol, cynhwysfawr a theg, rhaid inni sicrhau cefnogaeth pobl allweddol, yn cynnwys Keir Starmer y prif weinidog, Rachel Reeves canghellor y trysorlys ac Ed Miliband yr ysgrifennydd ynni a hinsawdd. Rhaid iddynt ddeall y bydd cynllun beiddgar yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion, sef: creu twf a gwella cyfleoedd i bobl.
Rhaid inni ddangos i benderfynwyr bod amrywiaeth eang o bobl yn cefnogi ein syniadau, nid grwpiau gwyrdd yn unig. Mae busnesau, undebau, grwpiau sy’n cynrychioli pobl mewn tlodi tanwydd a phobl sy’n dioddef effeithiau newid hinsawdd, grwpiau ffydd a llawer mwy yn dymuno cael cynllun hinsawdd uchelgeisiol, cynhwysfawr a theg.
Rydym eisiau i Starmer, Reeves, Miliband ac eraill glywed gan Aelodau Seneddol sy’n mynnu y dylid gweithredu. Ac er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rhaid i Aelodau Seneddol ledled y wlad glywed bod pobl yn eu hetholaeth yn dymuno cael cynllun hinsawdd cynhwysfawr.
A dyma lle gallwch chi helpu.
Sut y gallaf gymryd rhan?
Rydym angen ichi ymuno â grwpiau eraill yn eich ardal i gyfarfod â’ch Aelod(au) Seneddol ac esbonio’r canlynol:
- pam y mae newid hinsawdd yn bwysig i chi ac i’ch cymuned
- sut y gallai eich ardal elwa ar weithredu beiddgar i leihau allyriadau carbon
- sut y gallant gymryd camau trwy ysgrifennu at Starmer, Miliband a Reeves yn gofyn am gynllun hinsawdd beiddgar.
Eisiau cymryd rhan?
Ar 12 Hydref, byddwn yn rhan o’r Diwrnod Gweithredu Tir Cyffredin a gynhelir ar hyd a lled y DU, ochr yn ochr â’r Climate Coalition. Byddwn yn ymuno a’r gweithredu a byddwn yn defnyddio’r cyfle i ddadlau dros gynllun hinsawdd cryf gyda’n Haelodau Seneddol newydd. Cofrestrwch yma i gymryd rhan ac i gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan.