Cyfarfod â’ch Aelod Seneddol: Diwrnod Gweithredu ‘Tir Cyffredin’

Published: 24 Sep 2024

Bydd yr wybodaeth hon yn ymdrin â sut i baratoi ar gyfer y cyfarfod, a rhoi ceir cyngor ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddweud a cheir gwybodaeth am sut i fynd ar drywydd pethau’n effeithiol.

Bydd yr wybodaeth hon yn eich tywys trwy eich cyfarfod gyda’ch Aelod Seneddol ynglŷn â Diwrnod Gweithredu Tir Cyffredin The Climate Coalition. Bydd yn ymdrin â sut i baratoi ar gyfer y cyfarfod, ceir cyngor ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddweud a cheir gwybodaeth am sut i fynd ar drywydd pethau’n effeithiol.

Nodyn i Grwpiau Gweithredu Lleol Cymru – yng nghyd-destun yr ymgyrch hon, mae ‘llywodraeth’ yn cyfeirio at Lywodraeth y DU yn San Steffan.

 

Cyn eich cyfarfod

I rai ohonoch, efallai mai hwn fydd y tro cyntaf ichi gyfarfod â’ch Aelod Seneddol, neu efallai mai dyma fydd eich cyfarfod cyntaf gydag Aelod Seneddol newydd. Os felly, rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer sesiwn hyfforddi’n ymwneud â chyfarfod eich Aelod Seneddol – sef hyfforddiant a gynhelir gan Hope for the Future ar ran The Climate Coalition. Bydd y sesiynau hyn yn eich helpu trwy gynnig arweiniad gam wrth gam er mwyn creu perthynas gadarnhaol gyda’ch Aelod Seneddol a chewch arweiniad ar sut i sicrhau ymrwymiad hinsawdd gan eich Aelod Seneddol. Gallwch gofrestru ar gyfer sesiwn o’r fath ar https://peopleclimatenature.org/resources.

Cyn eich cyfarfod, treuliwch beth amser yn ymchwilio i’ch Aelod Seneddol er mwyn deall ei safbwyntiau ac ati a sut y gellir ei berswadio/pherswadio i gefnogi’r ymgyrch. Hefyd, bydd angen ichi gynllunio’r hyn y byddwch yn ei ddweud, pwy fydd yn siarad, pwy fydd yn gwneud nodiadau a phwy fydd yn tynnu lluniau.

Cofiwch eich bod yn cyfarfod â’ch Aelod Seneddol gan eich bod yn etholwr pryderus, nid gan eich bod yn arbenigwr polisi. Ceisiwch gadw’r trafodaethau ar ‘lefel uchel’ a chanolbwyntiwch ar yr angen am gynllun hinsawdd uchelgeisiol, cynhwysfawr a theg. Pe bai eich Aelod Seneddol yn ceisio sôn yn fanwl am un mater, ceisiwch lywio’r drafodaeth yn ôl at yr angen am gynllun da. Pe bai eich Aelod Seneddol yn gofyn cwestiynau nad ydych yn gwybod eu hatebion, dywedwch y byddwch yn cysylltu’n ôl – a gofynnwch i ni os bydd angen.

 

Yn ystod eich cyfarfod

Isod, awgrymir trefn ar gyfer eich cyfarfod. Gallwch ddilyn y patrwm i’r llythyren neu gallwch ddewis y pethau sy’n teimlo’n iawn i chi.

  1. Cyflwynwch eich hunain ac esboniwch pam rydych yma

Dechreuwch y cyfarfod trwy eich cyflwyno eich hunain a’ch grŵp. Esboniwch eich bod yma fel rhan o’r Diwrnod Gweithredu Tir Cyffredin er budd pobl, yr hinsawdd a natur.

Dyma destun a awgrymir gan The Climate Coalition:

Ni yw eich etholwyr: pleidleiswyr, trigolion lleol, pobl gyffredin o bob cefndir, a chawn ein huno gan yr awydd i weld gweithredu er budd pobl, yr hinsawdd a natur. Gyda’n gilydd, rydym eisoes yn gweithredu ac yn arwain y dasg o fynd i’r afael â newid hinsawdd ac adfer natur – edrychwch ar yr holl bethau anhygoel sydd eisoes yn digwydd yn eich etholaeth.

Rydym eisiau ichi sefyll ochr yn ochr â ni mewn perthynas â’r hinsawdd a natur. Gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud eisoes yn y DU, rydym angen rhagor o brosiectau sy’n dda i ni, yn dda i natur ac yn dda i’r hinsawdd. Rydym eisiau gallu dweud wrth y genhedlaeth nesaf, yn y wlad hon a dramor, eich bod wedi helpu i greu dyfodol gwell na’r un sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Mae’r angen i weithredu yn fwy taer nag erioed. Ond rydym yn obeithiol, oherwydd mae’r atebion ar gyfer ymdrin â’r hinsawdd ac adfer natur yn bodoli’n barod. Os sefwch ochr yn ochr â ni, eich etholwyr, fel hyrwyddwr yr hinsawdd a natur, gallwn greu dyfodol gwell, gyda’n gilydd.

 

  1. Soniwch wrth eich Aelod Seneddol am yr ymgyrch

Esboniwch eich bod yma i drafod cyfle penodol, a fydd yn galluogi eich Aelod Seneddol i ddangos ei ymrwymiad/hymrwymiad i weithredu dros yr hinsawdd, heddiw.

Nodwch y cyfle hollbwysig sydd ynghlwm wrth y cynllun hinsawdd newydd. Defnyddiwch eich geiriau eich hun, ond efallai y bydd y canlynol o help:

Ar ôl i Gyfeillion y Ddaear gyflwyno her gyfreithiol lwyddiannus, rhaid i lywodraeth y DU ysgrifennu cynllun hinsawdd newydd y flwyddyn nesaf. Rhaid i’r llywodraeth nodi sut y bydd yn bodloni ymrwymiad rhyngwladol y DU i leihau allyriadau carbon erbyn 2030 – sef lleihad o fwy na dwy ran o dair. Ar hyn o bryd, rydym ymhell iawn o gyrraedd y targed hwn ac mae angen gweithredu ar frys.

 

  1. Dywedwch pam y mae cynllun hinsawdd uchelgeisiol mor bwysig

Er bod nifer o agweddau ar gyflawni cynllun hinsawdd y DU wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru a’r Senedd yng Nghymru, ac er bod gan Gymru ei chynllun a’i deddfwriaeth hinsawdd ei hun, mae angen rhagor o gymorth, cyllid a gweithredu ar lefel y DU er mwyn gwireddu’r uchelgais.

Mae gan Aelodau Seneddol rôl o ran dylanwadu ar y darlun ehangach sy’n effeithio ar gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru, ac o’r herwydd caiff gofynion sy’n berthnasol i’r DU eu cynnwys yn y fan hon. Nodir y rhai sydd wedi’u datganoli mewn llythrennau italig.

Y manteision ehangach

Mae’n bwysig i’ch Aelod Seneddol ddeall nad ymdrin â’r argyfwng hinsawdd yw’r unig beth y gofynnwn amdano – er mor hollbwysig yw hynny. Bydd y cynllun hinsawdd y dymunwn i’r llywodraeth ei lunio o fudd i bobl mewn ffyrdd eraill hefyd – megis biliau ynni is, cartrefi cynnes, aer glân, trafnidiaeth gyhoeddus well a swyddi gwyrdd a fydd yn talu’n dda. Bydd modd gweld enillion mewn sawl maes. Trwy esbonio i’ch Aelod Seneddol sut y bydd y gweithredu y dymunwn ei weld yn esgor ar y manteision eraill hyn, y gobaith yw y bydd yn cefnogi’r ymgyrch.

Manteision lleol

Mae’n wir dweud bod Aelodau Seneddol yn cynrychioli eu hetholwyr. Byddant yn dymuno cael gwybod sut yn union y bydd cynllun hinsawdd o fudd i’w hetholwyr.

Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am eich etholaeth trwy ddefnyddio offeryn o’r enw ‘Near You’ gan Gyfeillion y Ddaear ar https://groups.friendsoftheearth.uk/near-you/constituency. Yn y fan hon, cewch enghreifftiau y gallwch eu defnyddio yn eich cyfarfod (gallwch eu hargraffu a’u rhoi i’ch Aelod Seneddol) er mwyn dangos bod angen gweithredu, megis:

  • Faint o bobl sy’n byw mewn cartrefi oer y mae angen eu hinswleiddio’n well.
  • Faint o bobl sy’n dioddef problemau anadlu, a waethygir gan lygredd aer.
  • Faint o bobl heb gar a fyddai’n elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus well a chyfleusterau beicio a cherdded gwell.
  • Faint o bobl sydd o fewn cyrraedd hwylus i fannau gwyrdd.

Adroddwch hanesion

Mae ffeithiau’n bwysig ond mae hanesion yn hollbwysig er mwyn cyfleu gwybodaeth a allai fod braidd yn sych. Gall hanesion gyfleu’r agwedd ‘ddynol’ ar yr hyn y gofynnwn amdano a hefyd gallant ennyn empathi. Gallant helpu i esbonio pam y mae’r hyn y soniwch amdano yn bwysig i chi a pham y dylai fod yn bwysig i’ch Aelod Seneddol hefyd.

Felly, peidiwch â pheledu eich Aelod Seneddol â ffeithiau a ffigurau yn unig – soniwch am ambell stori hefyd, er enghraifft y modd y mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus dda yn eich rhwystro rhag gwneud pethau, y modd y mae lefelau traffig yn gwaethygu asthma eich plentyn neu’r ffaith bod mwy o bobl yn defnyddio eich banc bwyd lleol gan fod gwresogi cartrefi oer mor ddrud.

Mae’r Climate Coalition yn cynnal sesiynau hyfforddi ynglŷn â sut i adrodd hanesion er mwyn dangos beth sy’n bwysig i chi ac ysbrydoli gweithredu – gallwch gofrestru ar eu cyfer ar https://peopleclimatenature.org/resources.

Perswadio Aelodau Seneddol sy’n perthyn i wahanol bleidiau

Yn ogystal â defnyddio gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r ardal, gallwch ddefnyddio gwahanol ddadleuon ar gyfer Aelodau Seneddol sy’n perthyn i wahanol bleidiau.

Ar gyfer Aelodau Seneddol y Blaid Lafur:

  • Mae gan y llywodraeth bum cenhadaeth allweddol sydd wrth galon a chraidd yr hyn y dymuna Keir Starmer ei gyflawni. Mae’r rhain yn ymwneud â chynhyrchu twf, gwella cyfleoedd, gwella’r GIG, sicrhau y bydd Prydain yn uwch-bŵer ynni glân a chreu strydoedd mwy diogel. Gallwch ddweud y bydd y polisïau y gofynnwn amdanynt yn helpu i gyflawni’r pedair cenhadaeth gyntaf, sef: cynhyrchu twf trwy fuddsoddi yn niwydiannau’r dyfodol, gwella cyfleoedd trwy greu swyddi newydd, helpu’r GIG trwy leihau costau iechyd pobl sy’n byw mewn cartrefi oer.
  • Dywedwch mai’r Ysgrifennydd Ynni a Hinsawdd presennol, sef Ed Miliband, a gyflwynodd y Ddeddf Newid Hinsawdd pan oedd y Blaid Lafur mewn grym y tro diwethaf, ar ôl ymgyrch ‘Big Ask’ Cyfeillion y Ddaear. Byddai sicrhau cynllun hinsawdd beiddgar a theg yn adeiladu ar y gwaddol hwn.
  • Gallwch ddweud rhywbeth fel hyn: os oes yna unrhyw beth y gall eich Aelod Seneddol ei wneud er budd yr hinsawdd, lobïo Ed Miliband a gweithio gydag ef yw’r peth hwnnw, er mwyn sicrhau cynllun hinsawdd mor gryf â phosibl.

Ar gyfer Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol:

  • Mae greddf y Democratiaid Rhyddfrydol yn iawn mewn perthynas â’r hinsawdd, fel y cydnabuwyd wrth sgorio eu maniffesto. Mae angen iddynt ganolbwyntio ar hyn a thynnu sylw at y mater os na fydd y llywodraeth yn cyflawni.

Ar gyfer Aelodau Seneddol Plaid Cymru:

  • Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’r targed y dylai Cymru fod yn sero net erbyn 2035 a bydd y blaid yn deall pa mor bwysig yw hi i lywodraeth y DU weithredu ar leihau allyriadau a rhoi cymorth a chyllid digonol i wledydd datganoledig er mwyn sicrhau y bydd holl wledydd y DU yn cyrraedd eu targedau allyriadau cenedlaethol a rhyngwladol.

 

4. Gofynnwch i’ch Aelod Seneddol weithredu

Os bydd eich Aelod Seneddol yn ymateb yn gadarnhaol, gofynnwch a fydd yn cefnogi’r ymgyrch dros sicrhau cynllun hinsawdd cryf. Rydym eisiau i Aelodau Seneddol wneud hyn trwy ysgrifennu at Keir Starmer, y Prif Weinidog, yn gofyn iddo sicrhau y bydd ei lywodraeth yn ysgrifennu cynllun hinsawdd uchelgeisiol, cynhwysfawr a theg , gan anfon copi o’r llythyr at Rachel Reeves, Canghellor y Trysorlys, ac Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Ynni a Hinsawdd. Rydym wedi llunio rhywfaint o wybodaeth a rennir gyda chi cyn bo hir, lle esbonnir yr hyn y dymunwn ei weld yn y cynllun hinsawdd. Gallwch roi’r wybodaeth hon i’ch Aelod Seneddol, fel y gall ei defnyddio wrth ddrafftio’r llythyr. Rydym wedi llunio templed llythyr y gall eich Aelod Seneddol ei addasu – er, efallai y bydd yn well gan nifer o Aelodau Seneddol ysgrifennu eu llythyrau eu hunain. Gofynnwch i’ch Aelod Seneddol anfon copi o’r llythyr, ynghyd â chopi o unrhyw ateb, atoch chi.

Cyn gadael, gofynnwch i’ch Aelod Seneddol a oes modd cael llun gydag ef/hi yn gafael yn arwydd yr ymgyrch. Gallwch ddefnyddio’r llun ar eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol. Os byddwch yn anfon datganiad i’r wasg ynglŷn â’r cyfarfod at eich cyfryngau lleol, gofynnwch i’ch Aelod Seneddol am ddyfyniad y gellir ei gynnwys yn y datganiad.

Os na fydd eich Aelod Seneddol yn cytuno i ysgrifennu llythyr, ceisiwch ddarganfod pam. Efallai fod eich Aelod Seneddol angen rhagor o wybodaeth; os yw’n un o Aelodau Seneddol newydd y Blaid Lafur, efallai ei fod yn amharod i leisio’i farn; neu, yn syml, efallai nad yw’n cytuno â’r ymgyrch. Diolchwch i’ch Aelod Seneddol am gytuno i’ch cyfarfod a threfnwch gyfarfod arall yn nes ymlaen i ystyried y camau nesaf. Os byddwch angen cymorth, cofiwch gysylltu.

  

Ar ôl eich cyfarfod

Anfonwch e-bost at eich Aelod Seneddol yn diolch iddo/iddi am eich cyfarfod, gan ailadrodd y pethau yr ymrwymodd iddynt. Cynhwyswch yr wybodaeth ar gyfer Aelodau Seneddol a’r llun a dynnwyd gennych.

Postiwch eich llun ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #TirCyffredin a thagiwch @foecymrucydd ac @friends_earth.

Anfonwch ddatganiad i’r wasg  – gan gynnwys eich llun a dyfyniad gan yr Aelod Seneddol – at eich cyfryngau lleol.

Rhowch wybod inni sut aeth y cyfarfod! Byddem wrth ein bodd yn cael gwybod yr hyn a ddywedodd eich Aelod Seneddol a’r ymrwymiadau a wnaed.

Os mai hwn fydd eich cyfarfod cyntaf gyda’ch Aelod Seneddol, peidiwch â meddwl amdano fel cyfarfod ‘untro’ – yn hytrach, meddyliwch amdano fel man cychwyn ar gyfer perthynas. Fel grŵp, trafodwch beth fydd eich camau nesaf.

 

 

 

Share this page