Methan – a’i rôl wrth rwystro trychineb hinsawdd

Published: 22 Feb 2023

Photo of Bleddyn Lake

Gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygiad
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Yn y blog hwn, mae Bleddyn Lake yn ystyried sut y gall lleihau allyriadau methan rwystro newid hinsawdd afreolus drwy atal neu oedi pwyntiau tyngedfennol ac mae’n galw am gynllun gweithredu methan ar gyfer Cymru.

 

Two cows grazing
Mae rhechod gwartheg yn un ffynhonnell o fethan, a’r un mae’r mwyafrif ohonom wedi clywed amdano, ond mae llawer mwy (llun cyhoeddus)

 

Gorchymyn Methan- mae’n swnio fel y bennod nesaf o gyfres ffilm Jason Bourne neu rywbeth yn dydi?

Yn hytrach na’r ffilm ias a chyffro ac antur, dyma is-bennawd Uwchgynhadledd Bio-nwy y Byd nesaf.   

Efallai y bydd Matt Damon yn dod i’r NEC ym Mirmingham ar 29-30 Mawrth eleni i gymryd rhan yn yr Uwchgynhadledd ble byddant yn trafod Methan. Oce, mae’n annhebygol y bydd yn tydi, ond os ydyw, efallai y bydd yn clywed cynrychiolwyr yn siarad am Addewid Methan y Byd a’r angen i leihau allyriadau methan ar draws y byd.

 

Pam fod hyn yn bwysig?

 

Chemical symbol for methane
Cyfansoddyn cemegol yw Methan
(CH4). Mae ganddo 1 atom carbon a 4 hydrogen (Christinel Miller CC 4.0).

Mae methan yn nwy tŷ gwydr byrhoedlog, ond hynod o bwysig ac annymunol. Dros gyfnod o 20 mlynedd er enghraifft, mae oddeutu 80 gwaith cryfach am gynhesu ein hinsawdd na charbon deuocsid (CO2). Mae hefyd yn gyfrifol am oddeutu 30% o gynhesu byd ers cyfnodau cyn-ddiwydiannol. Yn dyngedfennol, a dyma bwynt yr erthygl hon a’n hymgyrch - mae Rhaglen Amgylchedd UN (UNEP)  yn nodi:

‘Y gellir lleihau allyriadau methan a achosir gan fodau dynol cymaint â 45 y cant o fewn y ddegawd. Byddai hyn yn rhwystro bron i 0.3°C o gynhesu byd eang erbyn 2045, gan helpu i gyfyngu codiad tymheredd y byd i 1.5˚C a rhoi’r blaned ar y llwybr cywir i gyflawni targedau cytundeb Paris. Bob blwyddyn, byddai’r gostyngiad o ganlyniad mewn osôn lefel y ddaear hefyd yn atal 260,000 o farwolaethau cynamserol,  775,000 o ymweliadau i’r Ysbyty yn gysylltiedig ag asthma,  73 biliwn o oriau o lafur a gollwyd oherwydd gwres llethol a 25 miliwn tunnel o golledion cnydau.’

Felly, os ydym ni fel bodau dynol eisiau rhoi cyfle teg i ni ein hunain, gweddill y pethau byw sy’n rhannu’r blaned hyfryd hon, er mwyn osgoi newid hinsawdd afreolus trychinebus, yna rydym angen gweithredu ar allyriadau methan, a’u lleihau ar frys.

 

Addewid Methan y Byd

 

Pledge logo
https://www.globalmethanepledge.org/

Un peth positif a ddaeth o drafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yng Nglasgow yn 2021  (COP26) oedd Addewid Methan y Byd.

Oherwydd natur bwerus ond hirhoedlog methan, y meddylfryd oedd drwy gynyddu ymdrechion i fynd i’r afael ag allyriadau methan a achoswyd gan fodau dynol, efallai y byddai yn ein helpu i gadw siawns bychan y bydd ein planed yn cynhesu dim mwy na 1.5 gradd Celsius wrth i ni geisio cwtogi ein holl allyriadau CO2. Efallai y bydd yn ein helpu ni i gael amser ychwanegol tyngedfennol rydym ei angen.

Bu i’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd arwain ar yr Addewid hon, gyda dros 100 yn bard o wledydd wedi’i harwyddo yn awr. Mae’r addewid ei hun yn ymrwymo gwledydd i weithio gyda’i gilydd i leihau allyriadau methan ar y cyd o leiaf 30% yn is na lefelau 2020 erbyn 2030.

Mae 50 o’r gwledydd hyn wedi datblygu, eu cynlluniau gweithredu methan eu hunain, neu’n awr yn eu datblygu.

 

Ffynonellau o fethan

 

Pa fath o weithgareddau sy’n gyfrifol am greu methan?

Rhyddheir methan o amryw o ffynonellau, gyda rhai yn fwy adnabyddus na’i gilydd.

Y diwydiannau sy’n gyfrifol am y mwyafrif o allyriadau methan yw olew, glo, nwy, amaethyddiaeth, gwastraff a dŵr gwastraff. Mae’r papur y mae dolen ato uchod yn rhannu’r rhain fel a ganlyn:  

  • Amaethyddiaeth – yn gyfrifol am 40-50% o allyriadau anthropogenig
  • Olew a nwy- 20-25%
  • Glo (pyllau glo gweithredol a rhai sydd wedi cau)– 10-15%
  • Gwastraff solid (tirlenwi/ tomenni ysbwriel) - 7-10%
  • Dŵr gwastraff – 7-10% (deunydd organig mewn ffrydiau dŵr gwastraff yn dad-elfennu)

Mae pob math o fentrau, treialon a newidiadau eisoes yn digwydd mewn gwahanol sectorau o gwmpas y byd ar sut i newid arferion presennol i leihau allyriadau methan. Bydd rhai o’r rhain yn fwy perthnasol nag eraill yng Nghymru, wrth gwrs.

 

Beth am Gymru?

Fel rydym wedi sôn o’r blaen, nid yw data o’r rheidrwydd y peth hawsaf yn y byd i ddod o hyd iddo. A heb wybod ble rydych chi, mae’n anodd gwybod ble y dylech fynd.

Hydref diwethaf, gofynnodd Delyth Jewell AS, gwestiwn ysgrifenedig yn y Senedd:

 

 

CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’W HATEB

GAN Y GWEINIDOG DROS NEWID HINSAWDD

AR 18 HYDREF 2022

 

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn casglu data am allyriadau methan yng Nghymru, yn cynnwys gwybodaeth am swm yr allyriadau y gellir eu priodoli i bob sector perthnasol?  (WQ86228)

Julie James: Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu data yn uniongyrchol ar amcangyfrifiad o allyriadau methan yng Nghymru. Er hynny, mae Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol yn cael ei chyhoeddi’n flynyddol ac yn cynnwys manylion ar allyriadau methan a amcangyfrifir yng Nghymru yn ôl sector, ac fe’i defnyddir i olrhain a monitro ein hallyriadau.

Ar yr excel gallwch ddod o hyd i ddau dab ar gyfer Cymru:

  • Allyriadau defnyddiwr terfynol- mae’r cyfrifiadau hyn yn dyrannu allyriadau o gynhyrchu a phrosesu tanwyddau (yn cynnwys cynhyrchu trydan) i ddefnyddwyr y tanwyddau hyn i adlewyrchu’r cyfanswm o allyriadau sy’n gysylltiedig â’r defnydd tanwydd hwnnw. Mae hyn yn wahanol i:
  • Allyriadau ‘yn ôl ffynhonnell’- yn adrodd pa allyriadau y gellir eu priodoli i’r sector sy’n eu rhyddhau yn uniongyrchol.

Efallai y byddwch eisiau canolbwyntio ar ‘yn ôl ffynhonnell’ os oes gennych ddiddordeb yn yr allyriadau methan y mae sector yn gyfrifol am eu rhyddhau. Er mwyn tynnu’r data methan allan, byddwch angen addasu’r opsiynau tabl colynnu. Pan ddewisir y tabl colynnu mae opsiwn bwydlen ar frig yr excel ar gyfer “PivotTable Analyse”. Unwaith rydych wedi dewis hwn, ar yr ochr dde dewiswch “Field List”. O’r ffenest newydd sy’n agor gallwch lusgo’r blwch ticio “pollutant” i’r rhestr hidlydd isod. Bydd rhestr gwymplen newydd yn ymddangos ar frig y tabl data y gallwch yna ddewis allyriadau methan ohoni(CH4). Mae’r tabl yn awr wedi’i drosi i ddangos swm allyriadau methan (KtCO2 cyfwerth) ar gyfer bob sector.

 

Gan fod gennych ddiddordeb penodol mewn allyriadau methan, gan gofio yn y cyhoeddiad hwn, mai amcangyfrifon allyriadau yn seiliedig yn bennaf ar Botensial Cynhesu Byd-eang (GWP) AR4 100 mlynedd (4ydd Adroddiad Asesiad IPCC) Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP), sy’n gyson ag adroddiadau rhyngwladol a phrotocolau masnachu carbon hyd at 2020. Er hynny, ym mis Tachwedd 2021, cytunodd y gymuned ryngwladol yn y COP26, y dylid adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr dan fframwaith tryloywder Cytundeb Paris gan ddefnyddio AR5 100 Mlynedd (5ed Adroddiad Asesu) GWP. Felly, darperir tab ychwanegol yn y daenlen i ddangos yr allyriadau AR5 (Wales by Source AR5).

 

Yn awr, dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond mae taenlenni yn fy llenwi gyda phob math o ofnau. Y bocs cwymplen, y gyfradd drosi, ac yn awr mae rhywbeth o’r enw tabl colynnu? Roedd rhaid i mi gael sawl ymgais, a chwpanau o goffi cyn i mi allu gwneud unrhyw synnwyr ohono.

 

Beth mae’r data yn ei ddangos?

 

Ffos y Fran in Merthyr Tydfil
Mae pyllau glo fel Ffos y Fran ym Merthyr Tudful yn ffynhonnell o allyriadau methan) (Caradog Llywelyn 3.0)

Fel y gallech ei ddisgwyl a dweud y gwir, allyriadau gan y sector busnes, cyflenwad ynni, rheoli gwastraff, amaethyddiaeth, prosesau diwylliannol, cartrefi ayyb, ac yna allyriadau o lwyth o ffynonellau eraill o ‘Bridd amaethyddol- arllwysiadau ac all-lif anuniongyrchol’ o ‘Gemegau’ a ‘chynhyrchu Sment’.  

Un diddorol i ni yma yng Nghymru yw’r methan sy’n diferu o byllau glo. Yn awr, nid yw hyn yn agos i fethan sy’n dod o rai o’r sectorau eraill a sonnir amdanynt uchod, ond rydw i am sôn amdano beth bynnag gan ei fod yn pwysleisio’r angen am Gynllun Gweithredu Methan, gan ein bod wir angen cynllun cydlynol i ddelio â’r holl ffynonellau allyriadau methan hyn, nid rhai ohonynt yn unig.

 

Fel y soniwyd amdano eisoes, amcangyfrifir bod y diwydiant glo yn gyfrifol am oddeutu 10-15% o allyriadau methan ar draws y  byd o weithgareddau bodau dynol.

Yn destun gofid i ni, nid pyllau glo gweithredol sy’n rhyddhau methan yn unig, ond mae hen byllau glo sydd wedi’u cau yn gwneud hefyd. Mae ffigyrau yn dangos pan  gafodd y diwydiant glo ei wladoli yn 1947, roedd 250 o byllau glo yng Nghymru. O gofio mae amcangyfrifon yw data’r NAEI, a ydym yn gwybod yn wirioneddol faint o’r hen byllau glo hyn sy’n rhyddhau methan? Os ydym, a ydym yn gwybod yn bendant faint? A oes cynllun i ddelio â hyn i gyd?

Fel un enghraifft yn unig, gan ei bod yn ymgyrch rydym wedi bod yn gweithio arni ers peth amser -  pwll glo brig Ffos-y-Fran (Merthyr Tudful). Tuag at ddiwedd eu trwydded, mae adran ‘Gwybodaeth’ sy’n nodi:

…… Nid yw rhoi’r Drwydded hon nac unrhyw beth sy’n codi ohoni yn amddifadu’r Gweithredwr o orfod, cyn dechrau unrhyw Weithrediadau Cloddio am Lo, cael:

  1. Unrhyw ganiatâd cynllunio priodol i gynnal y Gweithrediadau Cloddio am Lo hynny’
  2. Trwydded ar wahân i wagio methan, a
  3. Chymeradwyaeth unrhyw gorff statudol arall (yn cynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)  yn hynny o beth.   

Felly, ‘trwydded ar wahân i wagio methan’?! Neis! Diolch.

 

Tipping points in the Earth's climate system
Pwyntiau tyngedfennol yn System Hinsawdd y Byd (DeWikiMan, CC 4.0)

 

Pwyntiau tyngedfennol a Chynllun Gweithredu Methan

O ystyried natur beth rydym yn siarad amdano…newid hinsawdd…a bod gwyddonwyr yn dweud wrthym fod angen i allyriadau ar draws y byd fod wedi cyrraedd eu huchaf erbyn 2025  sydd dim ond 2 flynedd i ffwrdd yn awr wrth gwrs), ac yna ei leihau yn sydyn wedi hynny, ac o ystyried bod methan yn nwy hinsawdd mor gryf, byddai’n ymddangos yn hollbwysig ein bod yn datblygu cynllun i ddelio â methan ar fyrder (a rhan o hynny yw cael data y gellir cael mynediad hawdd ato i ni gyd edrych arno).

Greenland glacier (European Space Agency CC BY-SA 3.0)
Llen iâ'r Ynys Las (European Space Agency CC BY-SA 3.0)

A dyma ble mae angen gweithredu ar frys hefyd. Rhywbeth na sonnir amdano yn aml, yn rhannol gan ei fod yn eithaf brawychus, ond hefyd oherwydd gall fod yn anodd ei ddeall yw pwyntiau tyngedfennol.   Yn ei hanfod ble cyrhaeddir trothwy tymheredd yw pwyntiau tyngedfennol, sydd yna’n arwain at newid diatal mewn system benodol. Mae hyn yna’n rhyddhau hyd yn oed mwy o nwyon hinsawdd... sy’n gwneud yr holl sefyllfa yn waeth…sy’n rhyddhau mwy o nwyon…sy’n gwneud y sefyllfa yn waeth…sy’n…

Mae yna amryw o sefyllfaoedd tyngedfennol a ddynodwyd ar draws y byd yr ydym yn awr ar eu trothwy ac mewn sefyllfa argyfyngus.

Fel y soniwyd yn gynharach yn yr erthygl hon, efallai y gall rhagor o weithredu ar allyriadau methan roi ychydig mwy o seibiant i ni cyn i ni gyrraedd y pwyntiau tyngedfennol hyn, a gallwn ddefnyddio’r ychydig o amser ychwanegol hwn i leihau ein hallyriadau CO2 hyd yn oed yn fwy.

 

Beth rydym yn galw amdano?

Mae data allyriadau'r NAEI yn rhoi safbwynt cyffredinol o beth rydym yn siarad amdano, ac o ble mae’r allyriadau hyn yn dod. Felly o leiaf bod gennym ryw syniad hyd yn oed os mai amcangyfrifon ydynt.

Mi fuaswn i’n dweud mai’r peth cyntaf i’w wneud, ac sy’n hawdd ei wneud yw dechrau cyhoeddi’r data hwn mewn ffurf fwy amlwg a syml ar gyfer Cymru. Beth am ei wneud ar gael yn rhwydd, ac nid mewn ffurf sy’n gofyn am newid bob math o dabiau, chwilio am restrau cwymplenni ayyb ayyb. Dim ond neis a syml ac amlwg.

Yn dilyn hyn, mae’r angen i fynd i’r afael â’r allyriadau hyn.

Dyma fyddai rôl Cynllun Gweithredu Methan Cymru.

Byddai hyn yn dod â’r arbenigwyr sydd gennym eisoes yng Nghymru ynghyd i greu cynllun gweithredu penodol i ddelio ag allyriadau o wahanol ffynonellau, ac i sicrhau bod gwahanol strategaethau presennol a newydd megis Sero Net Cymru a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) i gyd yn cyd-fynd, ac yn gweithredu i leihau allyriadau methan.

Er bod cynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n bodoli yn bositif iawn, yn bellgyrhaeddol ac y byddent yn helpu i leihau pob math o allyriadau hinsawdd yn y sectorau y maent yn ymdrin â nhw, gallent hefyd o bosibl anghofio amrywiaeth eang o wahanol ffynonellau o allyriadau methan, ac maent angen cysylltu â’i gilydd. Byddai Cynllun Gweithredu Methan ochr yn ochr â’r cynlluniau hyn sy’n bodoli yn sicrhau bod popeth yn gydlynol, a cheisio, cyn belled â phosibl sicrhau ein bod yn delio â PHOB ffynhonnell o allyriadau methan.  Bydd rhai ohonynt yn haws delio â nhw nag eraill, ond gall hyn fod yn beth da, gan eu bod yna’n dod yn rhai o’r rhai hawsaf y gellir delio â nhw yn sydyn gobeithio.

Heb y math hwn o gynllun, mae perygl y gall gweithredu fod yn dameidiog, anghydlynus, ac mewn perygl o fethu rhai ffynonellau o allyriadau methan pwysig megis hen byllau glo tanddaearol.

Mae cyfle pendant yma i fod yn arloesol, a dod ag arbenigedd y tu mewn i Gymru, ond hefyd o fannau pellach i harneisio syniadau presennol, meddylfryd, datblygiadau a thechnoleg er mwyn rhoi cynllun yn ei le i leihau allyriadau methan yng Nghymru.

Mae angen gweithredu ar frys!

 

 

Share this page