Amdani! yn helpu pawb i chwarae eu rhan
Published: 11 Nov 2022
Mae’r rhan fwyaf o’r bywyd ar y blaned hon - anifeiliaid, fflora, ffawna, i gyd mewn perygl o ddiflannu, gan gynnwys ni ein hunain, os na fyddwn ni’n dechrau trin yr argyfwng hinsawdd fel argyfwng go iawn. Ond allwn ni ddim ei adael i’r llywodraethau’n unig ei ddatrys. Mae’n rhaid i bob un ohonom edrych ar ein ffyrdd ein hunain o fyw os ydym ni am gyflawni’r lefel o newid sy’n angenrheidiol i osgoi newid hinsawdd trychinebus.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi lansio adnodd gwefan dwyieithog newydd o’r enw Amdani! sy’n dangos pa newidiadau y gallwn ni eu gwneud i’n ffyrdd ni ein hunain o fyw er mwyn lleihau ein heffaith ein hunain ar y blaned.
Ydych chi'n estrys, cwningen neu'n deigr?
Dywedir wrthym bob dydd, oni bai ein bod ni’n gweithredu o fewn ffenestr amser sy’n lleihau’n gyflym, byddwn yn gwneud i ni ein hunain, a’r rhan fwyaf o rywogaethau eraill yn ein byd prydferth a bregus, ddiflannu, gan adael byd a fydd yn ddigroeso i’r rhan fwyaf o fywyd heddiw.
Nawr ein bod ni, o’r diwedd, wedi derbyn realiti newid hinsawdd, byddech chi’n meddwl y byddem ni’n gallu defnyddio ein hymennydd enfawr i achub ein planed. Wedi'r cyfan, rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r rhywogaeth fwyaf datblygedig ar y Ddaear.
Ond wrth wynebu graddfa anferthol yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, beth ydyn ni'n ei wneud? Mae rhai ohonom ni’n estrys, gyda'n pennau wedi’i sodro yn gadarn yn y tywod. Y cyfan rydym ni am ei wneud yw byw ein bywydau fel arfer. Rydym ni’n cau allan yr hyn nad ydyn ni am ei glywed, neu rydym ni’n cael ein llethu gan fywyd cyffredinol a goroesi bob dydd. Ein huni flaenoriaeth yw sicrhau bod y biliau'n cael eu talu, bod bwyd ar y bwrdd a bod y tŷ yn gynnes.
Neu ai Eeyore ydym ni, yn dod i’r casgliad ei bod hi wedi canu arnom ni i gyd felly beth yw'r ots beth bynnag? Pa effaith allaf i ei chael ar ddyfodol y blaned? P’run bynnag, siawns mai dim ond y cyfoethog all fforddio bod yn eco-gyfeillgar!
Gyda rhai ohonom ni, mae'n golygu ffoi neu ymladd. Mae rhai ohonom ni fel cwningod ofnus, wedi ein parlysu gan ffitiau o bryder ynghylch yr hinsawdd. Efallai y byddwn ni’n siglo o un peth i’r llall, yn ansicr beth i’w wneud neu p’un a ydy’r hyn rydym ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth, tra bod y teigrod yn ymladd dros newid. Weithiau rwy'n estrys, weithiau'n deigr ac ar adegau eraill rwy’n gwningen. Gallaf fod y tri yn syth ar ôl ei gilydd, ac ar yr un pryd hyd yn oed!
Mae bodau dynol yn gymhleth!
Dydy cwningod ddim yn ddrwg
Ond nid yw bod yn gwningen yn ddrwg i gyd! Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar dan arweiniad Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST), sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, ddarganfod y gallai pryder ynghylch yr hinsawdd fod yn ‘rym ysgogol ar gyfer cymryd camau i leihau allyriadau. Roedd hyn yn cynnwys arbed ynni, prynu eitemau ail-law, benthyca, rhentu, neu ail-bwrpasu eitemau.'
Felly, os nad ydych chi’n gallu cysgu gyda’r nos weithiau, yn poeni am ddyfodol y blaned, gall gweithredu ar yr hinsawdd, p’un a yw hynny’n golygu gwneud rhywbeth gyda phobl eraill yn eich cymuned, neu gymryd camau i wneud eich bywyd eich hun yn fwy eco-gyfeillgar, helpu i sianelu eich pryder ynghylch yr hinsawdd i rywbeth positif.
Mae ymchwil yn dangos y gall gweithredu ar yr hinsawdd, boed hynny gydag eraill neu fel unigolion, wella lles meddyliol.
Ar gyfer y llywodraethau mae o, ie ddim?
Efallai y bydd rhai teigrod yn dweud y gallai gwneud yr holl bethau hyn wneud i ni deimlo'n well, ond go brin y bydd yn cael effaith fawr ar y blaned! Gwaith llywodraethau, nid ni, yw delio â'r hyn mae David Attenborough yn ei alw yn “y bygythiad mwyaf i ddiogelwch mae bodau dynol modern erioed wedi'i wynebu”.
Ond mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond os ydym ni’n gweithio gyda'n gilydd, a bod camau'n cael eu cymryd ar draws pob lefel o gymdeithas y gallwn ni ddatrys y broblem hon. Rydym ni i gyd yn rhan o'r ateb.
Daeth 'Adroddiad Cynnydd 2021 i'r Senedd' gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd i'r casgliad y bydd y 'DU yn methu â chyrraedd targedau hinsawdd oni bai bod y Llywodraeth yn ysgogi newid ymddygiad'.
Dyma'r llinyn euraidd sy'n rhedeg drwy strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn y rhagair, mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yn nodi: 'Rhaid i bawb yng Nghymru wneud eu rhan... mae gostyngiadau mawr yn yr ynni a'r adnoddau naturiol rydym ni’n eu defnyddio bellach yn angenrheidiol o ran y ffyrdd rydym ni’n byw ein bywydau bob dydd' (tudalen 7)
Wrth gwrs, mae angen newid y pictiwr mawr. Mae angen i lywodraethau, corfforaethau a busnesau i gyd weithredu'n gyflym ond yn unigol, mae angen i bob un ohonom ni gael ein perswadio y gallwn ni wneud gwahaniaeth o hyd. Drwy newid ein ffordd o fyw, byddwn yn ymgorffori arferion newydd sy'n iachach i ni ac i’r amgylchedd.
Pŵer niferoedd
Os mai dim ond un person fyddai’n gweithredu, ni fyddem yn teimlo’r gwahaniaeth, ond dychmygwch y rhan fwyaf ohonom ni’n ei wneud – neu hanner ohonom ni hyd yn oed!
I Lywodraeth Cymru, yr her gyntaf yw sicrhau bod pobl yn gallu deall sut mae'r newid hinsawdd yn 'cysylltu â'r ffordd maen nhw’n byw eu bywydau' a'u darbwyllo y gallan nhw wneud gwahaniaeth cadarnhaol (tudalen 17).
Prif nod Amdani! yw galluogi pobl i gysylltu'r dotiau eu hunain, a rhoi'r wybodaeth a'r cymhelliant iddyn nhw feddwl am eu cynllun gweithredu eu hunain.
Ond ni allaf ei fforddio!
Efallai y byddwch chi’n poeni nad oes gennych chi’r arian i fod yn wyrdd. Nid yw bod yn berchen ar gar trydan yn ymarferol i lawer ohonom ni ar hyn o bryd ac ni allwn fforddio i ôl-ffitio pympiau gwres o'r aer neu'r ddaear i'n tai. Gall hyd yn oed prynu cynhyrchion cynaliadwy fod yn fwy costus.
Rhan allweddol o strategaeth newid hinsawdd ac ymgysylltu â'r cyhoedd Llywodraeth Cymru yw cael gwared ar gynifer o rwystrau â phosibl er mwyn galluogi pobl i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y blaned.
Ond efallai y bydd byw’n wyrdd yn costio llai nag yr ydych chi'n ei feddwl. Nid yw cerdded yn costio dim ac nid yw cadw eitemau cyhyd â phosibl yn hytrach na'u disodli yn costio dim. Mae prynu eitemau ail-law neu atgyweirio eitemau yn aml yn rhatach ac mae defnyddio llai yn un o'r ffyrdd gorau y gallwn ni leihau ein heffaith ar y blaned. Pan fyddwn ni’n prynu eitemau newydd, mae'n gwneud synnwyr prynu eitemau sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy ac sy'n cael eu gwneud i bara.
Nodau hawdd eu cyflawni
Mae'n frawychus pan fyddwch chi’n sylweddoli faint o newidiadau y gallem ni eu gwneud i'n ffordd o fyw. Ble ydyn ni'n dechrau? Gallai prynu llai fod y peth cyntaf y gallem ni ei wneud i leihau allyriadau, a bydd hynny'n helpu i arbed arian hefyd.
Mae'n well dechrau gyda phethau hawdd a fydd yn effeithio leiaf ar ein bywydau. Er enghraifft, mae'r gwasanaeth newid yn gwneud newid cyfrif banc i ddarparwr mwy moesegol yn llawer haws nag yr arferai fod.
Yn ogystal, mae'n well cyflwyno newidiadau mwy sylweddol, yn raddol. Er enghraifft, os na allwch chi stumogi rhoi'r gorau i gig, rhowch gynnig ar ddiwrnodau heb gig neu leihau eich cymeriant.
Goresgyn syrthni
When we try to change our lifestyles, it’s worth remembering that embedding new habits takes time. Very likely, we’ll lapse into our old ones from time to time. When this happens, we must forgive ourselves and not just give up. Here are some tips.
Amdani!
Ystyr Amdani! yn Saesneg ydy ‘let’s do it’. Meddyliwch amdano fel rhestr o bethau i’w gwneud ar gyfer yr hinsawdd - rhywbeth i weithio drwyddo a thicio pob cam pan fydd wedi’i gyflawni fel y gallwch chi leihau eich ôl-troed carbon eich hun.
Mae wedi'i rannu'n wahanol feysydd o ffordd o fyw fel bwyd, ynni, arian, ffasiwn a thrafnidiaeth.
Ewch ati i bori heddiw a llunio eich cynllun gweithredu eich hun.