Sut i leihau effaith y pethau a ddefnyddiwn
Published: 13 Dec 2022
Meddyliwch am y pryd bwyd diwethaf a gawsoch. Yn ôl pob tebyg, mae’r bwyd ar eich plât wedi teithio ymhellach o lawer na’r rhan fwyaf ohonom.
Nid yw’n syndod, efallai, ein bod yn mewnforio llawer o’r nwyddau a ddefnyddiwn yn y DU. Yn 2021, fe wnaeth Cymru fewnforio £16.1 biliwn o nwyddau, sef cynnydd o £1.9 biliwn ar y flwyddyn flaenorol. Y brif wlad oedd yr Unol Daleithiau, ac yna Tsieina a’r Almaen.
Y pum brif ffynhonnell ar gyfer nwyddau a fewnforiwyd i Gymru rhwng 2019 a 2021 (£ biliynau)
Mae bron i hanner ôl troed carbon y DU yn deillio o allyriadau tramor, ond yn draddodiadol ni châi’r ffigurau hyn eu cynnwys mewn adroddiadau cenedlaethol, er eu bod yn bodoli yn unswydd oherwydd ein gofynion defnyddio.
Ar gyfer rhan helaeth o’n bwyd, rydym yn dibynnu ar wledydd yn Ne’r Byd i’n cyflenwi â chynhyrchion na ellir eu tyfu’n llwyddiannus iawn yn hinsawdd Cymru. Beth am ystyried un enghraifft. Rydym yn genedl sy’n gwirioni ar fananas ac rydym yn bwyta mwy na 5 biliwn ohonynt bob blwyddyn – 100 o fananas y pen! Er bod y bananas hyn yn cael eu mewnforio’n bennaf o Columbia, Costa Rica, Ecwador a Gweriniaeth Dominica, efallai y byddwch yn synnu o glywed ein bod, yn 2021, wedi mewnforio 8,934,021kg o fananas o’r Iseldiroedd.
Er mai bananas a ailfewnforiwyd oedd rhan helaeth o’r rhain o bosibl, mae trigolion yr Iseldiroedd yn arwain y ffordd pan ddaw hi’n fater o dyfu eu bananas eu hunain.
Caiff y bananas eu tyfu mewn tai gwydr a’u plannu mewn potiau gyda swbstrad wedi’i wneud o ffeibr cnau coco – dull arloesol o ddelio â bacteria a ffyngau a gludir mewn pridd, sy’n fygythiad i gnydau ledled y byd. Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am hyn yn anelu at fynd i’r afael â’r bygythiadau yma, gan greu proses gylchol gynaliadwy ar yr un pryd lle gwneir defnydd o’r crwyn i greu deunyddiau y gellir eu defnyddio yn lle ffeibr a phren. Gan fod ôl troed carbon bananas oddeutu 1.37kg o CO2 am bob kg, mae’r allyriadau hyn yn deillio’n bennaf o gludo a chynhyrchu cynradd – pethau y gellid, mewn theori, eu lleihau trwy ddefnyddio dulliau arloesol a chynaliadwy yn nes adref.
Oherwydd y label ar eu deunydd pacio, gwyddom fod rhai cynhyrchion, megis ffrwythau a llysiau, yn cael eu mewnforio, ond mae llawer o’r nwyddau a fewnforir yn fwy annisgwyl o lawer. Mae’r graffigyn uchod yn dangos pump o gynhyrchion a gaiff eu mewnforio ar raddfa fawr i’r DU bob blwyddyn, a dangosir hefyd o bla wledydd y cânt eu mewnforio.
Batris eilaidd yw cronaduron trydan – dull ailwefradwy o storio ynni. Efallai fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r dull storio hwn, oherwydd dyma sy’n rhoi pŵer i’n ffonau ac i’n dyfeisiau eraill. Ond mae’r ffaith ein bod yn dibynnu cymaint ar y mewnforion hyn yn cael ei anwybyddu, o bosibl.
Wn i ddim beth yw eich barn chi, ond fel rhywun sy’n byw mewn tref a amgylchynir gan ddefaid, mae’n syfrdanol ein bod yn mewnforio 31 miliwn kg o gig bob blwyddyn – a hynny o Seland Newydd yn unig!
Yn ôl Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, y cynnyrch y mewnforiwyd y swm mwyaf ohono i Gymru yn 2021 oedd petrolewm, ac yna beiriannau sy’n cynhyrchu pŵer a cherbydau ffyrdd. Ymddengys fod yr arfer o fewnforio petrolewm ar gynnydd, yn bennaf o Algeria a Nigeria, ond ychydig iawn o ystyriaeth a roddir i effaith y mewnforio hwn ar y gwledydd hynny. Algeria sydd â’r allyriadau nwyon tŷ gwydr uchaf ond dau yn Affrica, a chan fod y rhan fwyaf o’i thanwydd yn cael ei allforio i fannau eraill, mae hyn yn cyfrannu mwy fyth at allyriadau uchel y wlad (darllenwch ragor yma).
Wrth i amaethyddiaeth symud tuag at gyflawni’r targed sero net erbyn 2050, awgrymwyd y gellid defnyddio tanwyddau gwyrdd yn lle petrol a diesel. Caiff amonia a methan eu cynhyrchu ar raddfa fawr yn sector amaethyddiaeth y DU, ac mae modd eu defnyddio fel tanwyddau amgen. Yn well wedyn, gellir tynnu hydrogen a’i ddefnyddio mewn celloedd tanwydd.
Mae da byw yn creu llawer o dail (mae gwartheg y DU yn cynhyrchu 36m tunnell o wastraff bob blwyddyn!). Gellid defnyddio’r gwastraff hwn mewn proses a elwir yn dreulio anaerobig, lle caiff y deunydd organig ei bydru a lle caiff y methan ei ‘fachu’ er mwyn inni allu ei ddefnyddio fel tanwydd. Mae’r ffordd gylchol hon o feddwl nid yn unig yn annog yr arfer o gynhyrchu trydan a gwres yn ddomestig, ond mae hefyd yn anelu at leihau’r ôl troed carbon..
Mae gwrtaith yn gynnyrch arall a fewnforir ac y dibynnwn yn fawr arno yn y DU. Yr Iseldiroedd yw ein prif gyflenwr – yn 2021, roedd y fasnach yn werth dros £1 biliwn! O ran pwysau, mae hyn yn cyfateb i oddeutu 606,215,765kg mewn blwyddyn yn unig (gwrtaith nitrogen a gwrtaith sy’n seiliedig ar anifeiliaid/llysiau). Rwsia yw’r ail gyflenwr mawr, ac yna Wlad Belg, yr Almaen a’r Aifft (cymerwch gipolwg ar y data yma). Gan fod yr arfer o gynhyrchu gwrteithiau ledled y byd yn gyfrifol am oddeutu 1.4% o’r allyriadau CO2 blynyddol, a chan fod y prisiau’n dal i godi, efallai mai rŵan yw’r adeg inni ailystyried ein dibyniaeth ar fewnforion tramor.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar brisiau uchel gwrtaith ar hyn o bryd ac mae wedi cyflwyno cyngor, yn enwedig i ffermwyr, er mwyn ceisio lleihau effaith prisiau uchel gwrtaith. Gan fod tir Cymru yn rhagorol ar gyfer magu da byw trwy ddefnyddio glaswellt, pe baem yn rheoli glaswelltiroedd, dŵr a phriddoedd yn briodol gallem helpu i leihau’r angen am fewnbynnau – gan helpu, yn y pen draw, i leihau costau nwyddau wedi’u mewnforio, ynghyd â lleihau’r galw amdanynt.
A daw hyn â ni yn ôl at dail unwaith eto. Mae pob 40 tunnell o dail a gaiff ei wasgaru â’r potensial i arbed £451 mewn costau gwrtaith ar gyfer pob hectar o dir. A thrwy wasgaru tail yn y gwanwyn, gellid arwain at leihad o 60% mewn llygredd nitrogen. Mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn parhau i weithio gyda Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd, gan esblygu ei reolau a’i ganllawiau er mwyn helpu tyfwyr.
Ni allwn roi trefn ar ein hallyriadau defnyddio dim ond trwy wasgaru tail. Mae’n bwysig cofio bod y prosesau hyn yn llawn amwysedd – rhywbeth nad oes gennym fawr ddim rheolaeth drosto.
Wrth gwrs, byddai’n wirion inni dybio bod modd inni greu hafan berffaith ar gyfer tyfu a chynhyrchu cnydau, a ninnau yn aml yn cael eu cyfyngu gan yr hinsawdd, ansawdd y pridd a ffactorau anfiotig eraill.
Ond efallai fod yr atebion yn bodoli’n barod.
Yn ôl Adroddiad Diogelwch Bwyd y DU (2021), rydym eisoes yn hunangynhaliol o ran cynhyrchu grawn, gan gynhyrchu mwy na 100% o’r ceirch a’r haidd a ddefnyddiwn. Mae hyn yn awgrymu ein bod eisoes â’r modd a’r amodau addas ar gyfer tyfu’r cnydau. Er gwaethaf hyn, yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd yr adroddiad hwn, dangosodd data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ein bod wedi mewnforio gwerth £130 miliwn o rawn (gwenith, indrawn a haidd) o Wcráin yn unig. Mae ymosodiad parhaus Rwsia wedi cael effaith fawr ar gadwyni cyflenwi – enghraifft berffaith o ba mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi tramor fod yn ystod cyfnodau o wrthdaro.
Gan fod llawer o atebion eisoes yn bodoli, onid gwych o beth fyddai gallu ailystyried y ffordd yr awn ati i fewnforio nwyddau? Gan fod cymaint â 25% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn deillio o nwyddau a gaiff eu mewnforio, pe baem yn defnyddio llai o fewnforion drud-ar-garbon byddai modd inni gyfrannu’n fawr at ddatgarboneiddio. Ar yr un pryd, byddai atebion domestig yn esgor ar swyddi ac yn ysgogi economi Cymru.
Yn ôl un gŵr doeth, “gyda phŵer mawr, daw cyfrifoldeb mawr”. Yn awr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae hi’n hollbwysig i’r bobl sydd wrth y llyw roi dull cyfrifol ar waith pan ddaw hi’n fater o ddefnyddio nwyddau a chynhyrchion. Os ydym am fod yn arweinydd byd-eang ar newid hinsawdd, rhaid inni ysgwyddo cyfrifoldeb dros allyriadau byd-eang sy’n deillio o’r galw yn y DU.