Beth sydd gan oergell, rhech gwartheg a haearn crai yn gyffredin?
Published: 14 Oct 2022
Beth sydd gan oergell, rhech gwartheg a haearn crai yn gyffredin? Dim llawer a dweud y gwir, ar wahân i'r ffaith bod pob un yn ymddangos ar restr o ddata allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Cymru.
Mae'r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol (NAEI) yn cyhoeddi data Nwyon Tŷ Gwydr diweddaraf y DU yn flynyddol. Cyhoeddwyd y ffigyrau diweddaraf fis diwethaf. Cliciwch ar y ddolen hon i'w gweld. Dyma'r 'Rhestrau Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: 1990-2020'.
Caiff y NAEI ei gyllido gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.
Dwi'n gwybod... data... diflas, ynde? Wel, ydy i raddau, ond wrth i ni frwydro yn erbyn y newid trychinebus yn yr hinsawdd, mae angen i ni wybod o ble mae ein holl allyriadau'n dod, a'u cymharu o flwyddyn i flwyddyn. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pa sectorau a diwydiannau sy'n gwneud yn dda, a pha rai sydd angen gwneud mwy.
A oes unrhyw beth annisgwyl yn codi?
Wel, ar frig y daenlen, mae 'eplesu enterig' llu o anifeiliaid. Sef torri gwynt i chi a mi! Nid yw hynny'n newyddion arloesol, ond mae'r ffigyrau gwirioneddol yn dal i fod yn syfrdanol (yn 2020 - gwartheg godro = cyfwerth â 877 cilo tunnell o CO2, gwartheg nad ydynt yn rhai godro = cyfwerth â 1307 cilo tunnell o CO2 a defaid = cyfwerth â 1114 cilo tunnell o CO2). Caiff yr elfen 'cyfwerth â CO2' (CO2e) ei defnyddio oherwydd bod gwahanol Nwyon Tŷ Gwydr yn amrywio o ran eu potensial cynhesu byd eang, er enghraifft, mae gan fethan werth o 25, sy'n golygu bod gan 1 tunnell o fethan yr un potensial cynhesu byd eang â 25 tunnell o garbon deuocsid.
Yn bellach i lawr y rhestr, mae gwrteithiau (343 cilo tunnel CO2e)
Mae rhewi masnachol (96 cilo tunnell CO2e) hefyd ar y rhestr, ac yn rhywbeth rydym wedi bod yn ymgyrchu yn ei erbyn ers peth amser o ran oergelloedd archfarchnadoedd.
Mae allyriadau o systemau oeri'r aer (110 cilo tunnell CO2e) hefyd wedi bod yn cynyddu'n raddol o flwyddyn i flwyddyn.
Mae amrywiaeth o gemegau i'w gweld yma, ac mae cynhyrchu haearn crai (4753 cilo tunnell CO2e) hefyd yn cynhyrchu llawer o allyriadau. Rydym wedyn yn cyrraedd allyriadau sylweddol o gynhyrchu trydan a gwres cyhoeddus (5236 cilo tunnell CO2e) a phuro petroliwm (1729 cilo tunnell o CO2e) ac wedyn hefyd, rhywbeth a all synnu rhai pobl, allyriadau o hen byllau glo tanddaearol, diffaith (252 cilo tunnell CO2e). Mae'n wirioneddol anghredadwy bod yr hen byllau glo hyn yn rhyddhau cymaint o fethan.
Wrth i ni barhau i lawr y daenlen, rydym yn gweld allyrrydd sylweddol arall, sef cynhyrchu sment (517 cilo tunnell CO2e). Mae'r sector cynhyrchu sment yn gyfrifol am oddeutu 7-8% o allyriadau hinsawdd y byd, sy'n golygu, pe bai'n wlad, byddai'n drydydd ar restr allyriadau hinsawdd cenedlaethol y byd.
A heb fanylu'n ormodol, wrth i ni barhau â'r rhestr, gwelir ceir, loriau a bysiau, tai, safleoedd tirlenwi, a glaswelltiroedd wedi'u troi'n dir tyfu cnydau.
Mae hyd yn oed anadlyddion yn ymddangos ar y rhestr fel 'anadlyddion dos mesuredig', gyda ffigwr allyriadau gwerth 53.67 cilo tunnell CO2e yn 2020, sydd, yn syfrdanol, ond ychydig yn llai nag allyriadau'r diwydiant echdynnu olew a nwy yng Nghymru (56.54 cilo tunnell CO2e yn 2020). Mae gan y nwyon sy'n cael eu defnyddio mewn anadlyddion botensial cynhesu byd eang uchel iawn. Cymerwch gip ar ein tudalennau Amdani am ragor o wybodaeth ynghylch sut i'w gwaredu'n ddiogel, fel nad yw'r nwyon yn cael eu rhyddhau.
Felly beth ydyn ni'n galw amdano?
Y llynedd, aeth ein gwirfoddolwr ymgyrchu hinsawdd, Joe Cooke, ati i edrych ar ddata allyriadau NAEI ar gyfer diwydiannau a tharddleoedd (gallai enghreifftiau gynnwys gorsafoedd pŵer, ffatrïoedd cemegol etc) yng Nghymru. Gallwch ddarllen ei flog yma. Aeth y BBC ati i ymchwilio'r mater hefyd.
Fel mae Joe yn sôn yn ei flog y llynedd, a'r hyn rydym yn parhau i ofyn amdano hyd heddiw yw – a wneiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r data allyriadau hinsawdd yn daclus ar ei gwefan ei hun.
Wrth gwrs, mae'r data eisoes ar gael, ond nid yw'n hawdd iawn dod o hyd iddo, o leiaf o ran allyriadau tarddleoedd, mae wedi'i gynnwys ymysg data'r DU, felly mae'n anodd gweld y data'n glir.
Mae StatsCymru yn cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Cymru, ond nid yw'r wybodaeth hon hyd yn oed mor gynhwysfawr â'r data NAEI, yr ydym yn ei drafod yn y blog hwn. Fel y gwelwch o'r dolenni uchod, mae data NAEI yn manylu llawer mwy ar darddiad yr allyriadau.
Hyd y gwn i, nid oes gan StatsCymru unrhyw wybodaeth am darddleoedd diwydiannol yng Nghymru, ond mae'r data hwn ar gael ar wefan NAEI.
Pam mae hyn yn bwysig?
Y nod yw tryloywder. Mewn cyfnod lle mae disgwyliadau cynyddol ar bob un ohonom i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, mewn gwirionedd, dylem allu gweld beth mae busnesau mawr ac allyrwyr tarddleoedd sylweddol yn eu gwneud i leihau eu hallyriadau hinsawdd o flwyddyn i flwyddyn.
Sawl person sydd am fynd ati i ddysgu pwy yw NAEI mewn gwirionedd? Heb son am hidlo drwy'r data er mwyn canfod gwybodaeth am Gymru? Dim llawer!
Ni fydd cyhoeddi data yn unig yn arwain at unrhyw ostyngiad uniongyrchol mewn allyriadau hinsawdd, ond byddai'n cynnig gwell tryloywder, a fydd, gobeithio, yn arwain at fwy o graffu, ac yn y pen draw, mwy o weithredu.
I gloi
Er ei bod yn galonogol gweld gostyngiadau mewn allyriadau ar draws cymaint o wahanol sectorau a phrosesau dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r ffigyrau'n dal i ddangos bod gennym lawer o waith i'w wneud o hyd, a bod angen i ni gyflymu'r gostyngiadau mewn allyriadau ar frys.
Mae tryloywder a chraffu yn dod yn fwyfwy allweddol eto wrth i ni symud yn ein blaenau. Mae angen i ni wybod pa sectorau sy'n symud yn gynt na'r lleill - pwy sy'n gosod y cyflymder a phwy sy'n llusgo'u traed? Mae angen i ni allu gweld lle mae angen mwy o ymdrech neu well arloesedd.
Wrth dybio bod y ffaith bod mwy o bobl yn gwybod mwy am y sefyllfa'n cynyddu'r tebygrwydd o weithredu, byddem wrth ein bodd petai Llywodraeth Cymru'n cytuno gyda'n cais i gyhoeddi data hinsawdd NAEI mwy cynhwysfawr, yn ogystal â blaenoriaethu cyhoeddi rhestrau allyriadau tarddleoedd NAEI ar gyfer Cymru bob blwyddyn. Mae'r data ar gael, ond nid yw o fewn cyrraedd hawdd iawn i'r rhan fwyaf o bobl.
Nid ydym yn gofyn gormod. Mae'r hyn rydym yn gofyn amdano'n rhywbeth a fyddai'n hawdd ei gyflawni, a byddai'n gwella tryloywder.