Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030
Published: 7 Jun 2022
Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus, yn ôl pob tebyg fe fydd eich cronfa bensiwn yn buddsoddi mewn cwmnïau sy’n dwysáu’r argyfwng hinsawdd. Pam?
Gan fod cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol Cymru yn dal i fuddsoddi oddeutu £500 miliwn mewn stociau a chyfranddaliadau tanwyddau ffosil.
“Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym mai ychydig flynyddoedd yn unig sydd gennym bellach i gymryd camau pendant os ydym am osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd. Felly, mae hi’n hanfodol inni roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwyddau ffosil.”
Bleddyn Lake
Darllenwch erthygl Nation Cymru
Ers saith mlynedd bellach, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod yn gweithio gyda grwpiau ac ymgyrchwyr lleol er mwyn rhoi pwysau ar gynghorau a gwleidyddion i gefnogi’r alwad i ‘ddadfuddsoddi’ cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus, h.y. rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwyddau ffosil.
Dros y misoedd diwethaf mae Bleddyn Lake, ein Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu, wedi bod yn gweithio’n agos gyda Jack Sargeant, Aelod o’r Senedd, er mwyn ennyn cefnogaeth i’r mater yn y Senedd.
Golau ym mhen draw’r twnnel
Ddydd Mercher 25 Mai, cyflwynodd Jack Sargeant AS Ddadl Aelodau Preifat gerbron y Senedd yn galw ar i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r sector cyhoeddus er mwyn cytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030.
Cafodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth enfawr gan Aelodau’r Senedd. Ar ddiwedd y drafodaeth, cyhoeddodd Rebecca Evans, Gweinidog Llywodraeth Cymru, y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r cynnig – cam enfawr ymlaen!
Mae sector cyhoeddus Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyflawni targedau sero net erbyn 2030, felly bydd y datblygiad diweddaraf yma yn sicrhau y bydd pensiynau’n cyd-fynd â’r targed hwn.
Mae gan gronfeydd pensiwn hawl gyfreithiol i fuddsoddi hyd at 5% o gyfanswm eu gwerth mewn prosiectau seilwaith, felly ein gobaith ni yw y bydd y broses hon yn cynnig cyfle yn awr i’r sector cyhoeddus weithio gyda chronfeydd pensiwn i greu cyfleoedd addas i fuddsoddi’r arian mewn prosiectau fel ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni neu dai cymdeithasol yng Nghymru, gan greu swyddi mewn cymunedau ledled Cymru a chadw olwynion economi Cymru i droi. Felly, bydd pawb ar ei ennill.
Beth fydd yn digwydd nawr?
O ganlyniad i’r drafodaeth, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i weithio gyda chynghorau Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn datgarboneiddio’u pensiynau. Dylai hyn arwain at roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil ac mewn cwmnïau eraill sy’n dwysáu’r argyfwng hinsawdd.
O ran y camau nesaf, bydd Cyngor Partneriaeth Cymru, sy’n annog cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer dwyn ynghyd arweinwyr cynghorau ac arweinwyr sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus gyda Llywodraeth Cymru, fel y gellir bwrw ymlaen â hyn.
Yn awr, bydd ein golygon yn troi at weddill sefydliadau’r sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau cefnogaeth ganddynt hwy.