Arian llywodraeth leol wedi'i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil

Published: 26 Feb 2021

Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd cynghorau lleol yng Nghymru yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn tanwyddau ffosil sydd yn dinistrio’r blaned drwy gronfeydd pensiwn llywodraeth leol.

Yn sgil ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan ymgyrchwyr amgylcheddol, gwelwyd bod pensiynau llywodraeth leol yng Nghymru yn dal i fod â buddsoddiad o £550 Miliwn mewn cwmnïau tanwydd ffosil yn y flwyddyn ariannol 2019/20, er bod hynny wedi lleihau yn y blynyddoedd diweddar.  

Cymru

Gwerth y gronfa (GBP) 

Gwerth tanwydd ffosil
(punnoedd)

Tanwydd ffosil (%)

Caerdydd a Bro Morgannwg

2,014,224,984

57,476,831

2.85%

Clwyd

1,808,060,032

77,214,096

4.27%

Dyfed

2,377,618,793

114,167,090

4.80%

Gwent Fwyaf (Torfaen)

3,015,514,356

70,813,784

2.35%

Gwynedd

1,938,336,922

51,543,676

2.66%

Powys

631,104,669

19,829,673

3.14%

Rhondda Cynon Taf

3,350,224,000

103,382,172

3.09%

Abertawe

1,985,814,816

57,579,842

2.90%

 

17,120,898,572

552,007,165

3.22%

 

Ar draws y DU, roedd gan gynghorau £9.9 biliwn o fuddsoddiad mewn tanwyddau ffosil – er bod 75% o gynghorau’r DU wedi datgan bod argyfwng hinsawdd.  Yn ôl y dadansoddiad, mae’r cronfeydd pensiwn hyn yn dal i wneud miliynau o bobl yn rhan o ariannu diwydiannau sydd yn dinistrio’r blaned.

Yr adroddiad hwn gan Platform, Cyfeillion y Ddaear (Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon), a Chyfeillion y Ddaear yr Alban yw’r adolygiad mwyaf diweddar o faint mae cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yn buddsoddi mewn rhai o’r cwmnïau tanwyddau ffosil mwyaf niweidiol yn y byd. (Cliciwch yma am gip ymlaen llaw o’r cyhoeddiad).

Mae’r grwpiau ymgyrchu hefyd wedi creu dangosfwrdd. Ar hwn, gall unrhyw un edrych yn fanylach ar fuddsoddiad cronfa bensiwn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys ym mha gwmnïau y mae ganddynt gyfranddaliadau uniongyrchol neu anuniongyrchol ynddynt, a sut mae eu buddsoddiadau tanwydd ffosil yn cymharu â chronfeydd eraill.

Ledled Cymru, Cronfa Bensiwn Dyfed yw’r gronfa bensiwn awdurdod lleol sydd wedi buddsoddi fwyaf mewn tanwyddau ffosil. Mae’r gronfa hon, ynddi’i hun, yn 20% o’r holl fuddsoddiadau gan Gronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol mewn tanwyddau ffosil yng Nghymru.

 

Yn ôl llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake:

“Er bod rhai cynghorau a chronfeydd pensiwn wedi bod yn fwy rhagweithiol nag eraill, mae’n warthus bod cronfa bensiwn wyth awdurdod lleol yng Nghymru yn dal i fuddsoddi cymaint â £550 miliwn mewn tanwyddau ffosil.

 “Gyda’r cronfeydd pensiwn hyn, dylai Partneriaeth Pensiwn Cymru a Llywodraeth Cymru eistedd a meddwl am gynllun i gefnu ar danwyddau ffosil a buddsoddi’r arian mewn prosiectau yng Nghymru a fyddai’n creu swyddi ac yn rhoi elw o’r  buddsoddiad. Mae’n amser gweithredu nawr.”

 

Yn ôl Robert Noyes, Ymgyrchydd ac Ymchwilydd Platform, ac awdur yr adroddiad: 

“Wedi degawd o lymder ac effaith ddinistriol Covid ar draws y DU, gallai a dylai awdurdodau lleol fod yn defnyddio eu cronfeydd pensiwn i gefnogi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi’n lleol. Beth bynnag fo’ch budd chi yn eich pensiwn – dychmygwch sut le yr hoffech chi i’r byd fod wrth i chi ymddeol – a gwthio eich pensiwn i fuddsoddi yn hynny.”

 

Mae’r dadansoddiad* yn seiliedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2019-20 ac yn defnyddio rhestr o 200 o’r cloddwyr tanwyddau ffosil mwyaf yn y byd, gwelwn fod:  

  • Pensiynau llywodraeth leol y DU yn buddsoddi £9.9 biliwn mewn tanwyddau ffosil  
  • Mae hynny’n golygu bod o leiaf £1,450 yn cael ei fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil am bob un o’r 6.8 miliwn o bobl sydd yn dibynnu ar gronfeydd pensiwn llywodraeth leol ar draws Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Mae tanwyddau ffosil yn 3% o gyfanswm gwerth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS). Mae glo yn cyfrif am £3.4 biliwn (34%) o'r buddsoddiad mewn tanwyddau ffosil ac mae olew a nwy yn £6.5 biliwn (66%). 
  • Mae 7.1 biliwn (72%) o’r buddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn digwydd yn anuniongyrchol drwy gronfeydd buddsoddi sydd yn buddsoddi pensiynau llywodraeth leol mewn cwmnïau tanwydd ffosil.
  • Pan edrychir ar fuddsoddiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol efo’i gilydd, mae £3,364 miliwn (1.0%) o fuddsoddiad cronfa bensiwn llywodraeth leol mewn glo a £6,459 miliwn (2%) mewn olew a nwy.  
  • Deg cwmni yw 70% o fuddsoddiad uniongyrchol cynghorau mewn tanwydd ffosil. O’r deg cwmni hyn, BP, Royal Dutch Shell a BHP yw 40% o’r holl fuddsoddi uniongyrchol.

*Mae’n debyg nad yw’r canlyniadau hyn yn amgyffred yn llawn y cysylltiad â thanwydd ffosil, oherwydd buddsoddiad yn y 200 o gwmnïau tanwydd ffosil mwyaf sydd yma.

Mae Cynghorau Southwark, Islington, Lambeth, Waltham Forest, a Chaerdydd, yn ogystal ag Asiantaeth yr Amgylchedd, eisoes wedi ymrwymo i ymwrthod yn gyfan gwbl â thanwyddau ffosil.

Share this page